- Geiriau anghyfarwydd:
dreulio (treulio amser, gwario arian), wenci, ochr gamu, pastynnu, gampus, ar y naw,
grewyd.
- Cynnwys:
Beth yw testun y gerdd?
Beth sylwch chi am iaith y gerdd?
Pa gemau sy'n cael eu henwi?
Beth sy'n gyffredin am y gemau i gyd? (Defnyddio pêl oni bai am nofio)
Ydych chi'n cytuno â'r bardd?
- Arddull:
Sawl pennill sydd i'r gerdd?
Ydy pob pennill yr un peth?
A oes odl yn y gerdd?
Pa eiriau sy'n odli?
Sawl sillaf sydd ym mhob llinell?
Pwy yw'r bardd?
|
- Atalnodi :
Priflythyren, atalnod llawn, atalnod, to bach, collnod, ebychnod
- Iaith ogleddol:
Tynnu sylw at y defnydd o eiriau gogleddol, e.e. fedra, ora. Beth fyddai'r fersiwn
deheuol?
- Ansoddeiriau:
Trafod y nifer o ansoddeiriau sy'n cael eu defnyddio i ddisgrifio'r gwahanol gemau.
Ychwanegu ansoddeiriau eraill yn eu lle. e.e gwych, bendigedig, annifyr, ardderchog,
dibwrpas, undonog.
- F a ff:
Tynnu sylw at eiriau yn cynnwys f a ff.
Gofyn am enghreifftiau eraill yn cynnwys y geiriau yma.
- Acen Grom:
Tynnu sylw at y geiriau â tho bach arnynt.
- Berfau:
Tynnu sylw at y berfau yn ymwneud â chwaraeon, e.e. ochr gamu, pastynnu.
Rhestru berfau eraill, e.e. cicio, bwrw, dal, bowlio, cwympo, saethu, pasio, taclo, taflu,
sgorio.
|