Mae dathlu mawr yn ardal Abergwaun y mis yma - dathlu dau ganmlwyddiant glaniad y Ffrancod ar draethau Sir Benfro. Mae'r stori'n dechrau nôl ar Chwefror yr 16eg, 1897, yn harbwr Brest….
                                         
Roedd hi'n gyfnod y chwyldro Ffrengig, ac roedd rhai o'r Ffrancod eisiau gweld chwyldro tebyg ym Mhrydain. Felly, ar Chwefror y 16egm 1797 hwyliodd dwy long ryfel a dwy long llai o harbwr Brest, tua Sir Benfro. Ar eu bwrdd roedd Americanwr o'r enw William Tate, yn ben ar 1400 o adar brith iawn - rapsgaliwns gwyllt o garchardai Ffrainc oedd wedi eu perswadio i droi'n filwyr dros dro.                             
  
Am bedwar o'r gloch, ar brynhawn yr 22ain o Chwefror, angorodd y llongau ger Carreg Wastad, hen graig fawr ddwy filltir o Abergwaun. Er bod baner Prydain yn cyhwfan o'r mastiau erbyn hyn, methodd y Ffrancod â thaflu llwch i lygaid un Cymro o'r enw Tomos Williams o Drelethin ger Ty Ddewi. Ei lygaid craff e sylwodd mai llongau o Ffrainc oedden nhw, ac fe rybuddiodd pawb o'r perygl.

Llwfrgi'r stori ydi Thomas Knox, arweinydd y Fishguard Fencibles, sef criw o ddynion oedd yn galw eu hunain yn filwyr. Doedd gan Knox ddim gronyn o asgwrn cefn, ac er iddo gael ei rybuddio sawl gwaith ar noson yr 22ain bod cannoedd o Ffrancod yn glanio ar draeth lleol, dewisodd gladdu ei ben yn y tywod ac anwybyddu popeth! Ac ar ben y cyfan, ar fore'r 23ain gorchymynnodd ei ddynion i fartsio, nid tua'r gelyn, ond tua diogelwch tref Hwlffordd! Petai popeth yn dibynnu ar Knox, efallai mai diweddglo go wahanol fyddai i'r hanes!

Yn y cyfamser, roedd y Ffrancod yn ysbeilio yn ardal Carreg Wastad. Roedd y tai cyfagos yn wag, a'r Cymry wedi ffoi gan adael gwledd o fenyn, cig mochyn hallt, ieir, hwyaid ac ati ar eu holau. Roedd hyd yn oed casgen neu ddwy o ddiod feddwol ymhob cartref, diolch i lon smyglars oedd wedi dryllio ar y creigiau ddiwrnod neu ddau ynghynt. Yn ôl yr arfer, roedd y pobl leol wedi dwyn y cargo gwerthfawr, a meddwodd y Ffrancod yn rhacs. Doedd gan eu harweinwyr ddim gobaith caneri cadw trefn arnyn nhw wedyn.

Mae un stori am y Ffrancod yn mynd i ffermdy Brestgarn yn ystod y nos, a dychryn ei hun gan swn sydyn y tu fewn i'r hen gloc wyth niwrnod. Meddyliodd bod rhywun yn cuddio yng nghrombil y cloc, a thaniodd ei fwsged ato! Mae'r cloc ym Mrestgarn o hyd, a thwll y fwled yn amlwg ynddo. Ac mae'r cloc yn dal i gerdded a chadw'r amser cystal ag erioed!

Ond tra bod Knox yn crynu yn ei esgidiau, a'r Ffrancod yn rhedeg reiat, doedd pobl Sir Benfro ddim yn segur. Treuliodd pob gof yn yr ardal y noson yn chwysu uwch ei eingion, yn atgyweirio hen ynnau ac yn unioni pladuriau. Bu pentrefwyr Ty Ddewi yn tynnu'r plwm o do'r eglwys gadeiriol i wneud bwledi! Ben bore'r 23ain roedd ffermwyr a thyddynwyr Sir Benfro'n casglu'n finteioedd wedi eu harfogi'r gorau medren nhw. Fe gododd pawb fel un gwr i erlid y Ffrancod yn ôl i'r môr.

Un o arwresau'r dydd heb os, oedd Jemeima Nicholas, neu Jemeima Fawr. Mae'r gawres 6 troedfedd yn rhan o chwedloniaeth Sir Benfro erbyn hyn. Fe'i chladdwyd yn Eglwys y Plwyf Abergwaun yn 1832, yn 82 mlwydd oed.

Yn ôl y sôn, yng nghanol y cythrwfl, fe fartsiodd hi ei hunan, heb yr un arf ond picwarch yn ei llaw, o Abergwaun i Lanwrda i chwilio am Ffrancod. Daeth ar draws 12 ohonynt mewn cae a'u cymryd yn garcharorion yn y fan a'r lle. Dywed yr hanes iddi eu martsio wedyn o flaen y fforch i Abergwaun lle rhoddwyd y 12 dan glo. Ac ar ôl gwneud yn siwr bod y 12 yna'n ddiogel, aeth yn ôl tua Llanwrda i chwilio am ragor!

Yn ôl D. J. Williams aeth Jemeima i feudy ger Llanwrda, ar yr ail siwrnai, a darganfod nifer o Ffrancod yn cysgu ar y gwellt yno. Daeth Jemeima yn ôl allan o'r beudy a Ffrancwr o dan bob cesail!

Roedd y Cymry yn araf amgylchynu'r Ffrancod, ac erbyn prynhawn y 23ain roedd dannedd y Cyrnol Tate a'i giwed yn rhincian mewn ofn. Roedd rhesi ar resi o wyr arfog yn cau amdanynt. Roedd ei filwyr yn anhrefnus, yn annisgybledig a meddw, a doedd ganddo ddim gobaith mul o'u cael i drefn.

Mae un hen draddodiad yn dweud iddo gael ei ddychryn yn arw gan nifer fawr o wragedd mewn sioliau cochion a hetiau uchel yn cerdded ar fryn yn y pellter. Roedd yn berffaith siwr mai milwyr arfog oeddynt, yn paratoi i ymosod arno.

Felly ildio a wnaeth Tate a'r Ffrancod. Gorchmynnwyd y fyddin garpiog i fartsio i draeth Wdig, ac am ddau o'r gloch ar y 24ain o Chwefror, ildiodd y giwed. Fe'u martsiwyd wedyn i Hwlffordd, a'u carcharu yno yng ngharchar y dref ac yn eglwysi St Mary, St Martin a St Thomas, ac mewn stordai a sguboriau gwag, cyn eu hanfon yn ôl, ymhen hir a hwyr, i Ffrainc.