logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Man of the Match gan Selwyn Griffith

    
Ymateb i gerdd

   
Amcanion Addysgol
   
  • Geiriau anghyfarwydd:
        
    siantio, maeddu, tyrfa, cymeradwyaeth, chwys domen, coeliwch.
     
  • Cynnwys:
       
    Beth sy'n digwydd yn y gerdd?
    Pa gêm sy'n cael ei chwarae ac ym mhle?
    Pa bennill sy'n cyfleu i chi mae breuddwyd yw'r cyfan?
    Pa dim mae'r bachgen yn chwarae iddo a phwy yw ei gyd chwaraewyr?
    Pa air sy'n dangos ymateb y dyrfa pan sgoriwyd y trydydd gôl?
    Pa syniadau sydd yn y gerdd sy'n cyfleu i chi fod y gymeradwyaeth wedi bod yn fawr?
    Sut oedd e'n teimlo ar ôl deffro o'r freuddwyd?
    Pa gwestiwn sy'n cael ei ofyn ar ddiwedd y gerdd?
  • Arddull:

    Sawl pennill sydd yn y gerdd?
    Ydy'r penillion yr un patrwm?
    Oes odl yn y darn?
    Pwy yw'r bardd?
           
Cyfoethogi iaith
     
  • Atalnodi :
      
    Atalnod, atalnod llawn, marc cwestiwn, ebychnod, collnod.
        
  • Bum/Bues i:
        
    Tynnu sylw at y ferf 'bum' yn y pennill cyntaf.
    Defnyddir 'bum' fel ffurf gryno wrth sôn am rywbeth sydd wedi digwydd.
    Gofyn i'r plant ar lafar i gyfansoddi brawddeg yn dechrau gyda
    Bum i _____
    Bues i _____
            
  • ais ac odd:
         
    Tynnu sylw ar ferfau yn y gerdd sy'n gorffen yn 'ais'. e.e. cysgais, breuddwydiais, sgoriais, deffroais.  Egluro mai dyma'r person cyntaf.  Tynnu sylw at y ferf clapiodd gan egluro mai 'odd' sy'n cael ei ychwanegu yn y trydydd person.
                            
  • Geiriau sy'n cyfleu naws

    Chwilio am eiriau a dywediadau sy'n cyfleu naws pêl droed - Wembli, gêm, chwarae tros Gymru, Giggs, Southall, pyst, sgoriais, gôl, reffari, 'man of the match'.
          
Y Gerdd:
Man of the Match

    
Gweithgareddau

Llafar
  
  • Trafod y gerdd:
       
    Un plentyn yn gofyn cwestiynau i weddill y grwp am y gerdd.
(Gw 1)
  • Cyfweliad:
       
    Grwp o blant ar y cyd yn creu cwestiynau hoffen nhw eu gofyn i chwaraewyr pêl-droed.
    Cyfle i actio neu recordio'r cyfweliad ar y diwedd.
(Gw 2)
Darllen
  • Bum/Bues i:
       
    Defnydd o'r gorffennol 'Bum'.
(Gw 3a, 3b)
  • ais ac odd:
      
    Chwilio am ferfau yn gorffen yn 'ais' ac 'odd'.
(Gw 4a,4b)
  • Geirfa pêl-droed:
      
    Chwilio am eiriau sy'n cyfleu gêm bêl-droed.
(Gw 5)
  • Diweddebau geiriau:
      
    Dewis gair o'r gerdd, tanlinellu dwy lythyren olaf y gair gan chwilio am air yn dechrau gyda'r diweddebau hynny e.e. seren, enfys, ysgol.
(Gw 6)
Ysgrifennu
  • Holiadur:
      
    Llunio holiadur i ddarganfod hoff/cas chwaraeon plant y dosbarth.
(Gw 7)
  • Chwarae pêl:
     
    Gwneud rhestr o chwaraeon sy'n defnyddio pêl.
(Gw 8)