- Darllen y gerdd:
e.e. rwan, cosi, troi a throsi, bron a thagu, llofft, fagddu, cysgod, pared
- Cynnwys:
Beth sy'n digwydd yn y gerdd?
Sawl cymeriad sydd yn y gerdd?
Pam mae'r plentyn yn methu â chysgu? (sawl rheswm)
Pa air sy'n disgrifio'r llofft?
Pam mae'r plentyn yn casau'r nos?
Sut mae'r fam yn ymateb i'r plentyn yn eich barn chi?
- Arddull:
Sawl pennill
Pam mae'r pennill olaf yn wahanol?
Oes geiriau'n odli?
Pwy yw'r bardd?
|
- Atalnodi :
Atalnod llawn, atalnod, dyfynodau, gofynnod, collnod.
- Treiglad trwynol ar ôl fy:
Sylwi ar 'fy mol' yn y gerdd.
Wrth roi fy o flaen geiriau yn dechrau gyda p, t, c, b, d, g bydd dechrau pob gair yn
newid e.e. bol > mol (Adnodd 3)
- Ffurf negyddol y frawddeg:
e.e. Dydw i ddim yn medru cysgu
Dydy'r nos ddim yn dda
Gofyn i'r plant greu rhagor o frawddegau negyddol.
- Priod - ddulliau:
Beth yw priod ddull? Ffordd o ddweud rhywbeth yn flodeuog e.e. gwneud fy ngorau glas
- gweithio'n galed.
Rhestru'r priod ddulliau sydd yn y darn e.e. troi a throsi.
|