Golygfa uwchben y môr
sydd yn y gerdd Saesneg. Pa olygfa sydd yn y gerdd Gymraeg?
Beth yw'r prae yn y ddwy
gerdd? Oes gair arall am 'prae'? Chwiliwch yn y geiriadur.
Pa gymariaethau sydd yn y
ddwy gerdd? Pa mor debyg ydyn nhw?
Mae Emyr Davies yn
defnyddio'r gair 'gwayw' Beth yw ystyr y gair? Chwiliwch yng Ngeiriadur
Gomer i'r Ifanc. Oes mwy nag un ystyr iddo yn y gerdd? Pa mor
effeithiol yw'r disgrifiad.
Mae'r ddau fardd yn
defnyddio cyflythrennu - 'alliteration' yn Saesneg
Chwiliwch am enghreifftiau. Pa enghraifft yw'r mwyaf effeithiol yn
eich barn chi?
Beth yw ystyr y gair
'angau'? Pam mae'r bardd yn defnyddio'r gair hwn i ddisgrifio
crafangau'r eryr?
Beth yw'r gwahaniaethau
rhwng y ddwy gerdd o safbwynt eu ffurf?
Pa gerdd yw'r fwyaf
effeithiol yn eich barn chi. Cofiwch gynnig rheswm.