|
Nod:
Yr Heliwr Torrodd
y wawr dros y goedwig. Dihunodd y deigres. Roedd hi'n barod am
geirw. Mae arogl bwyd yn yr aer. Daeth criw o geirw i'r golwg.
Cerddodd y deigres ymlaen yn llechwraidd a'i llygaid milain
melynwyrdd yn edrych drwy'r brigau ar y borfa wyrddlas. Roedd yn
un gyda'r goedwig, yn union fel rhubannau duon ar felfed oren. Camodd
ymlaen ychydig eto. Yna roedd y carw mwyaf wedi troi ei ben.
Rhedodd y ceirw i mewn i'r coed. Ond.... fe ddaliodd y deigres y
carw olaf! Cafodd y deigres bryd da o fwyd. Nawr,
mae'r goedwig yn ddiogel unwaith eto. Rhuodd y deigres.
Sgrechiai'r mwnciod a'r adar wrth ymgomio a gwatwar ei gilydd.
Roedd y deigres wedi cael ei gwledd. Symudodd
y deigres i lawr i'r borfa melyn a wnai swn a llun fel tonnau ar
y cefnfor. Daeth bachgen i'r golwg. Safodd ac edrych yn syn
arno. Yna, trodd y deigres a rhedeg bant. Aeth y bachgen
yn ôl at ei deulu. Roedd
y deigres a'r bachgen yn deall ei gilydd. Catrin
Rowlands
|