Yn ôl

Arwyr

Gwers 1

 


Nod: 
  • Trafod y disgrifiad o Ryan Giggs yn y gerdd gan Tudur Dylan Jones.
  • Chwilio am wybodaeth ar y We.
  • Ysgrifennu llythyr gan drawsieithu'r gerdd.

Gweithgareddau:

 

Dosbarth:
  • Trafod ystyr ymadroddion megis 
'pêl - ddiwyd',
'peiriant creu embaras'
'ar ei liniau'n ddagreuol'.
  • Tynnu sylw at yr eirfa o fyd pêl-droed.
  • Cyfeirio at y defnydd o eiriau o'r Saesneg.
Pâr:
  • Chwilio am wybodaeth am Ryan Giggs a llunio nodiadau cryno gan ddefnyddio llyfrau Saesneg, Cymraeg a'r We. Gellid cyflwyno'r wybodaeth ar ffurff 'ffeil-o-ffaith'.
Unigol:
  • Ysgrifennu neges ar y We at Ryan Giggs- neu lythyr - yn Saesneg, gan nad yw'n siarad Cymraeg.  Dylent sôn am y gerdd a ddarllenwyd gan gyfleu'r disgrifiadau a'r darlun a geir ohono.