Yn ôl

Storïau

Gwers 2

 

Nod: 
  • Ysgrifennu portread o 'Scrooge'
Dyn busnes oedd yn byw yn Llundain oedd Scrooge. Roedd Scrooge yn gweithio fel "stockbroker".  Dyn diflas oedd Scrooge.  Er fod ganddo ddigon o arian doedd o ddim yn hoffi rhannu'r arian o gwbl. Nid oedd gan Scrooge bartner busnes nawr. Bu farw saith mlynedd yn ôl. Ei enw oedd Marley. Doedd Srooge ddim hyd yn oed wedi prynu paent i baentio dros yr arwydd oedd yn dweud, "SCROOGE & MARLEY".

Roedd Scrooge yn gweithio yn y gyfnewidfa stoc. Roedd yna glarc yn gweithio yno. Er bod gan y glarc dân yn y swyddfa, roedd y tan mor fach nes yr edrychai fel dim ond darn o lo oedd yn mud losgi. Roedd y bocs glo wrth gwrs yn swyddfa Scrooge. Os byddai'r clarc yn gofyn i Scrooge am lo byddai Scrooge yn ei fygwth y byddai'n colli ei swydd.

Daeth nai Scrooge i'w weld ar Noswyl Nadolig ond anfonodd Scrooge e i ffwrdd. Pan ddaeth dau ddyn i gasglu arian i'r tlawd Noswyl Nadolig, roedd Scrooge yn pallu rhoi arian iddynt. Daeth bachgen i ganu carolau a pipo drwy dwll y drws ond taflodd Scrooge ffon fesur ato! Pan aeth Scrooge adref gwelodd ben Marley ar y cnocwr drws. Cafodd Scrooge bach ofn. Aeth i mewn i'r ty yn araf ac yn eithaf dewr....