Yn ôl

Storïau

Gwers 2

 


Nod: 
  • Ysgrifennu portread o 'Scrooge'
Dyn busnes cyfoethog oedd Scrooge. "Stockbroker" oedd e gyda Marley a oedd wedi marw saith mlynedd yn ôl amser y Nadolig. Roedd Scrooge yn ddyn hunanol a phigog yn ogystal a bod yn llaw-dynn gyda'i arian. Llais bach cras a gwichlyd oedd ganddo. "Humbug" oedd ef yn galw'r Nadolig, bob tro fyddai rhywun yn dod a dweud "Nadolig Llawen" neu gofyn am arian i'r tlawd mi fyddai'n troi i ffwrdd hyd yn oed pan ddaeth i'w swyddfa noswyl y Nadolig. Doedd e ddim yn cymysgu gyda neb - dim ots pa adeg o'r flwyddyn oedd hi. Doedd Scrooge ddim yn garedig wrth ei glarc chwaith. Roedd y clarc yn gweithio'n galed ond ni fyddai yn cael ei dwymo gyda'r tân oherwydd doedd Scrooge ddim yn gadael iddo gael mwy o lo. Roedd Scrooge yn ei swyddfa noswyl y Nadolig yn cyfrif ei arian. Dyn calon - galed iawn oedd ef ac roedd e'n ychydig o snichyn hefyd!