| Yn ôl | |||
|
Y
R h y
f e l Gwers 3
|
|||
|
|
|
||
|
"Pan ddes i yma'n gyntaf, yr unig beth
a wnaem yn y ffosydd oedd cerdded fel hwyaid a defnyddio ein gynnau. Nid
oeddym yn meddwl amdanynt fel lleoedd i fyw ynddynt, dim ond pethau
anghyfleus dros dro oeddynt. Nawr rydym yn gweithio yma llawn amser -
dydd a nos. Y peth cyntaf rydym yn gweithio arno yw gwella'r ffosydd er
mwyn i ni allu cysylltu â'n gilydd - daw ein hanghenion ni yn olaf.
Ein trefn am y diwrnod yw: brecwast am wyth y bore, glanhau'r ffosydd ac archwilio gynnau, gweithio drwy'r bore. Cinio am hanner dydd, yna gweithio o un tan chwech. Yna ar ôl swper gweithio drwy'r nos".
|
|||
|
Doedd yr un teimlad mor braf y dyddiau hynny â martsio ar hyd ffordd dda, galed, dan olau lleuad ddisglair, i filedau gorffwys ymhell y tu ôl i'r llinell. Roeddem mor falch o fod ymhell o'r sielio. Medrem edrych ymlaen at gysgu mewn gwely - efallai rhwng cynfasau. Yn yr haf roeddem yn gwybod y caem wyau a llaeth a llysiau ffres. Medrem wisgo capiau meddal eto, yn lle'r helmet ddur oedd mor drwm. Yr unig beth a darfai ar ein tawelwch meddwl oedd cofio cymaint yn fwy oedd y bataliwn y tro diwethaf y cawsom fynd i orffwys. ( Y Capten R.S.Cockborn yn Malcom Brown
|
||