Yn ôl

Y Rhyfel
Byd Cyntaf
1914 -1918

Gwers 4

 



BRWYDR Y COED
(Mametz Wood)

 

Daeth atom i'r ffosydd frysneges Maeslywydd
I hwylio ein harfau ar frys - yn ddi-oed,
Ac ebr y gorchymyn: 'Rhaid symud y gelyn,
A'i ymlid o'i loches draw acw'n y coed.'

Y nos a enciliodd, a'r bore a wawriodd,
Y bore rhyfeddaf a welsom erioed,
Ani yn y ffosydd yn disgwyl am rybudd,
Sef gair i ymosod a chymryd y coed.

'Chwi fechgyn o Gymru,' medd swyddog y gadlu,
'Rhaid heddiw ymdrechu yn fwy nag erioed;
Aed pob un i weddi ar Dduw ei rieni:
Rhaid ymladd hyd farw- rhaid cymryd y coed.'

Ar hyn dyma'r bechgyn yn taro hen emyn,
A'r alaw Gymreigaidd mor bêr ag erioed;
A'r canu rhyfeddaf, ie'r canu dwyfolaf,
Oedd canu y bechgyn cyn cymryd y coed.

Ar ôl brwydro gwaedlyd ac ymladd dychrynllyd
Enillwyd y frwydr galetaf erioed:
Ond rhwygwyd ein rhengoedd, a llanwyd y lluoedd
Y beddau dienw wrth odre y coed.
                                             'Un o'r Ffosydd'

 

In Flanders Fields by John McCrae (1872-1918). He wrote this in 1915 when he was a medical officer in France.

"In Flanders Fields the poppies blow
Between the crosses, row on row,
That mark our place; and in the sky
The larks, still bravely sing, fly
Scarce heard amid the guns below.

We are the Dead. Short days ago
We lived, felt dawn, saw sunset glow,
Loved and were loved, and now we lie
In Flanders Fields.

Take up our quarrel with the foe:
To you from falling hands we throw
The torch; be yours to hold it high.
If...........................................
We will not sleep, through poppies grow
In Flanders fields.