logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Rysait cacen ycha bycha sglyfiog gan Caryl Parry Jones

    
Ymateb i gerdd

   
Amcanion Addysgol
   
  • Geiriau anghyfarwydd:
        
    cynhwysion, briwsion, poer Rottweiler, tolltwch, saim, cneswch, beicar, cymysgedd
     
  • Cynnwys:
       
    Beth yw testun y gerdd?
    Rhestrwch y cynhwysion sy'n mynd mewn i'r gacen?
    Ble cafodd y gacen ei chymysgu a gyda beth?
    Am faint o amser oedd angen ei stemio?
    Sut byddech yn ei bwyta?
    Pa eiriau sy'n gweddu i ddisgrifio'r gerdd?
    Sut ydych chi yn teimlo ar ôl darllen y gerdd?
                   
  • Arddull:

    Sawl pennill sydd i'r gerdd?
    Ydy pob pennill yr un peth?
    Oes geiriau yn odli yn y gerdd?
    Sawl sillaf sydd ymhob llinell?
    Pwy yw'r bardd?
           
Cyfoethogi iaith
     
  • Atalnodi :
      
    Priflythyren, atalnod llawn, atalnod, collnod, ebychnod, to bach.
        
  • Unigol/lluosog:
        
    Tynnu sylw at y geiriau lluosog yn y gerdd, gan egluro beth yw unigol/lluosog.
         clustiau, dannedd, briwsion, llygaid, tatws, coesau, chwain.
    Edrych ar eiriau unigol sydd yn y gerdd a'u troi i'r lluosog - pwys, mochyn, llwy a.y.b.
                    
  • Gwahaniaeth rhwng f ac ff:
                  
    Pwyntio at eiriau sydd yn cynnwys f ac ff,
    e.e. grefi, dandryff gan bwysleisio bod swn gwahanol ganddynt.  Meddwl am eiriau eraill sydd â f a ff.
             
  • Berf yn y gorchmynnol:

    Chwilio am ferfau sy'n rhoi gorchymyn i chi h.y. geiriau sy'n gorffen gydag 'wch'.
    rhowch bwytewch
    tolltwch mwynhewch
    cynheswch

    Meddyliwch am eiriau eraill yn gorffen gyda - 'wch'

Y Gerdd:
Rysait cacen ycha bycha sglyfiog

    
Gweithgareddau

Llafar
  
  • Mae Sion yn dweud:
       
    Gêm i grwp.  Defnyddio'r cardiau i roi gorchmynion.
(Gw 1)
(Adnodd 1)
  • Sut mae gwneud rhywbeth:
       
    Dewis carden cyfarwydd ac egluro sut mae gwneud y dasg gan ddefnyddio ffurf gorchmynnol y ferf.
(Gw 2)
(Adnodd 2)
Darllen
  • Unigol lluosog:
       
    Darllen y gerdd a chwilio am ffurf unigol y geiriau.  Rhoi'r gair cywir yn y bwlch.
(Gw 3a)
  • Unigol a lluosog:
      
    Tanlinellu geiriau lluosog.
    Darganfod lluosog geiriau.
    Dewis dau air lluosog a dau air unigol a'u hysgrifennu mewn brawddegau.
(Gw 3b)
  • F ac ff:
       
    Chwilio yn eu llyfrau darllen am eiriau yn cynnwys y llythrennau 'f' ac 'ff' gan wneud rhestr ohonynt.
(Gw 4)
Ysgrifennu
  • Beth am fod yn fardd?:
      
    Efelychu'r gerdd gan ail ysgrifennu diweddebau'r llinellau.  Addurno'r gerdd.
(Gw 5)
  • Golchi dannedd:
     
    Ysgrifennu cyfarwyddiadau sut i olchi dannedd gan ddefnyddio ffurf gorchmynnol y ferf.
(Gw 6)
  • Atalnodi:
      
    Darn heb ei atalnodi.
(Gw 7)