logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Y Storm gan T Llew Jones

    
Ymateb i gerdd

   
Amcanion Addysgol
   
  • Geiriau anghyfarwydd:
        
    diddos, garthen, curlaw, mynni, cangau, deri.
     
  • Cynnwys:
       
    Beth yw testun y gerdd?
    Pa adeg o'r dydd yw hi?
    Ymhle mae'r gerdd yn digwydd?
    Sut mae'r bardd yn disgrifio'r storm?
    Pa synau mae'n eu clywed?
    Sut byddwch chi'n teimlo adeg storm?
                   
  • Arddull:

    Sawl pennill sydd i'r gerdd?
    A oes odl ynddi?
    Pa eiriau sy'n odli?
    Sawl sillaf sydd ym mhob llinell?
    Oes gwrthgyferbyniad ym mhob pennill?
    Pwy yw'r bardd?
           
Cyfoethogi iaith
     
  • Atalnodi :
      
    Priflythyren, atalnod llawn, atalnod, collnod, to bach.
        
  • F a Ff:
        
    Tynnu sylw at eiriau sydd yn dechrau gyda f a ff, e.e. ffenest, fysedd.  Meddwl am eiriau eraill sydd yn cynnwys f a ff.
            
  • Rwy'n:
         
    Tynnu sylw at y defnydd o 'rwy'n' a nid 'fi'n'.
    Gofyn i'r plant feddwl am enghreifftiau eraill yn defnyddio 'rwy'n', e.e. rwy'n mynd, rwy'n gweld.
  • Treiglad trwynol:
                                      
    'fy mhen'.  Dangos y rheol am lythrennau yn newid ar ôl y defnydd o 'fy' b>m, d>n, g>ng, p>mh, t>nh, c>ngh.  Meddwl am enghreifftiau.
  • Collnod 'r':
                              
    Mae dau air wedi eu gwneud yn un - beth ydynt?
    a'r--> a + y,
    na'r - na + y
    i'r --> i +y

    Meddwl am enghreifftiau eraill.
  • Minnau:
                     
    Tynnu sylw'r plant at y defnydd o'r rhagenw er mwyn pwyslais.
    Ymarfer hyn trwy roi gosodiadau, e.e.
    Rwy'n hoffi mynd i'r ffair.
         - A minnau
    Rwy'n gwylio 'Pobl y Cwm' bob nos.
         - A minnau.
              
Y Gerdd:
Y Storm

    
Gweithgareddau

Llafar
  
  • Swn y storm:
       
    Creu cefndir o synau i'r gerdd mewn grwp o 4/5.
    Cyfle i dapio a pherfformio.
(Gw 1)
Darllen
  • F a ff:
       
    Chwilio yn eu llyfrau darllen am eiriau'n cynnwys f a ff.  Rhoi'r geiriau yma mewn brawddegau.
(Gw 2)
  • Treiglad trwynol:
      
    Rhoi 'fy' o flaen y geiriau er mwyn creu treiglad trwynol.
(Gw 3)
  • Collnod:
      
    Chwilio am y geiriau sy'n cynnwys collnod yn y gerdd.  Rhoi geiriau eraill mewn brawddegau.
(Gw 4)
Ysgrifennu
  • Rwy'n / fi'n X:
      
    Ysgrifennu cyfres o frawddegau diddorol yn cynnwys 'rwy'n'.
(Gw 5)
  • Noson Stormus:
              
    Ysgrifennu paragraff yn disgrifio noson stormus.  Sut maen nhw'n teimlo?
(Gw 6)