logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Trip i'r Lloer gan Selwyn Griffith

    
Ymateb i gerdd

   
Amcanion Addysgol
   
  • Geiriau anghyfarwydd:
        
    gwagle, wib, lloer, prifio, gwneuthur, esmwyth
     
  • Cynnwys:
       
    Beth yw testun y gerdd?
    Beth mae'r bardd yn ei weld o'r roced?
    Pam bod y ddaear yn mynd yn llai a'r lleuad yn prifio'n fwy a mwy?
    Beth wnaeth y bardd ar y lleuad?
    Sut gerdd yw hon?
    Sut mae'n gwneud i chi deimlo?
                   
  • Arddull:

    Sawl pennill sydd i'r gerdd?
    A oed odl?
    Pa eiriau sy'n odli?
    Sawl sillaf sydd ym mhob llinell?
    Pwy yw'r bardd?
           
Cyfoethogi iaith
                             
  • Atalnodi :
                      
    Priflythyren, atalnod llawn, atalnod, collnod, acen grom.
                         
  • Berfau:

    Tynnu sylw at y berfau yn y gerdd
    e.e. gweld, gwylio, mynd, prifio, teithio, dweud, glanio, dychwelyd.
    Meddwl am enghreifftiau eraill.
        
  • Ansoddeiriau:
        
    Rhestru'r ansoddeiriau yn y gerdd, e.e. oer, fawr, llai, mwy, glyd, anferth a.y.b.
    Meddwl am ansoddeiriau addas i ddisgrifio'r môr leidr, tywysoges, ty.
                   
Y Gerdd:
Trip i'r Lloer

    
Gweithgareddau

Llafar
  
  • Y Gadair Goch:
       
    Gofyn cwestiynau i'r bardd am ei daith i'r lleuad.  Cyfle i recordio a pherfformio.
(Gw 1)
Darllen
  • Cerdd gymysglyd:
       
    Y gerdd wedi ei chymysgu mewn cwpledi, torri'r gerdd a'i rhoi yn ôl yn gywir.
(Gw 2)
  • Berfau:
      
    Chwilio am y berfau yn y gerdd.
    Ychwanegu mwy o ferfau at y rhestr ac yna eu rhoi ar ddechrau brawddeg.
(Gw 3)
  • Ansoddeiriau:

    Rhestru'r ansoddeiriau yn y gerdd. 
    Dewis ansoddair addas o restr i ddisgrifio gwahanol bethau.  Tanlinellu pob ansoddair mewn darn.
(Gw 4a, 4b)
Ysgrifennu
  • Ysgrifennu sgript:
      
    Creu sgript yn dangos y sgwrs byddai'n digwydd ar ôl dychwelyd o'r daith i'r lloer rhwng plentyn a'i rieni.
(Gw 5)
  • Stori ddychmygol:
     
    Ysgrifennu stori yn arwain o'r gerdd yn disgrifio'r daith a'r croeso ar y lleuad.
(Gw 6)