POLISI IAITH GWYNEDD ADRAN 2 ARWEINIAID PROFFESIYNOL Model gweithredu Yn y model gweithredu a gyflwynir yn y ddogfen hon, rhoddir pwyslais ar ddatblygiad ieithyddol disgyblion unigol. Er mwyn hwyluso hynny, diffinnir, mewn pum categori, wahanol garfanau o ddisgyblion yn ôl eu hyfedredd ieithyddol yn y Gymraeg ar Saesneg. Carfan A Disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol cyfochrog yn y Gymraeg ar Saesneg. Yn bur rhugl yn y ddwy iaith o safbwynt gallu troi or naill ir llall yn ôl y gofyn, au mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig yn unrhyw un or ddwy. Maer ddwy iaith fel ei gilydd yn foddion
cyfathrebu parod ganddynt. Y Gymraeg yn famiaith iddynt ar iaith
amlaf ei defnydd fel cyfrwng sgwrsio, darllen ac ysgrifennu. Y Saesneg yn llai
datblygedig ganddynt ac maen nhwn llai hyderus wrth ei defnyddio. Rhai disgyblion âr Saesneg yn famiaith iddynt neun iaith bennaf y cartref, ac yn troi atin fympwyol mewn sefyllfaoedd cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol. Yn gallur Gymraeg ond eu defnydd ohoni yn fwy cyfyngedig. Eraill yn barod i gyfathrebu yn y Gymraeg ar
lafar ac yn ymwybodol or patrymau iaith sylfaenol i gynnal sgwrs a thrafod materion
o ddydd i ddydd, ond yn gloff ac ansicr wrth ddarllen yr iaith ac yn ddihyder wrth
ysgrifennu. Yn bur gyfyngedig eu defnydd or Gymraeg, iaith oddefol yn unig ydyw; nid oes ganddynt yr hyder nar feistrolaeth i ddechrau sgwrs eu hunain; eu patrymau au geirfa yn gyfyngedig iawn. Carfan CH Disgyblion heb sgiliau oed-berthnasol priodol yn y naill iaith nar llall. Yn gyfyngedig eu defnydd or ddwy iaith yn enwedig wrth ddarllen ac ysgrifennu. Heb y sgiliau sylfaenol angenrheidiol. Defnyddir targedaur Cwricwlwm Cenedlaethol wrth ddiffinio hyfedredd oed-berthnasol, gan gofio bod ffocws Rhaglenni Astudior CC fel a ganlyn: CA1 - Lefel 1-3 CA2 - Lefel 2-6 CA3 - Lefel 3-7 CA4 - TGAU (lefel 7 = gradd C) Rhagwelir y bydd cynnydd mewn hyfedredd dwyieithog o fewn y model yn dilyn y llwybrau a ganlyn:
CYNRADD Enghreifftiau o ddatganiadau polisi Gweler isod enghreifftiau o ddatganiadau y
gellid eu cynnwys mewn llawlyfrau ysgolion. Mae nodau ieithyddol yr ysgol hon yn unol â nodau Polisi Dwyieithog yr Awdurdod Addysg. Gweithredir y polisi drwy: 1. sicrhau yn y dosbarth derbyn, trwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law; 2. adeiladu ym mlynyddoedd 1 a 2 ar y sylfeini a osodwyd ir Gymraeg drwy addysg feithrin, atgyfnerthu a datblygu mamiaith y plentyn o ddysgwr Cymraeg ac, yn achos y plentyn o gartref Cymraeg, ymestyn ei afael ar y Saesneg; 3. yng Nghyfnod Allweddol 2, atgyfnerthu a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennun rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fon trosglwyddo ir ysgol uwchradd. Yna, gellid dewis Enghraifft 1 neu Enghraifft 2 (yn ddibynnol ar gefndir yr ysgol) Enghraifft 1 a. Y Gymraeg yw iaith gyfathrebur ysgol hon. Fei defnyddir: yng ngweinyddiad yr ysgol o ddydd i ddydd b. Y Gymraeg fydd cyfrwng yr addysgu - yn gyflwyno ac yn gofnodi - ar draws y cwricwlwm. Cyflwynir y Saesneg yn raddol yn CA1. Cynyddir ei
defnydd yn gyson trwy CA 2 i gyflwyno a chofnodi fel y gall pob plentyn ei
defnyddion hyderus i ymwneud ag amrywiol feysydd y cwricwlwm erbyn Bl.6, h.y. bydd y
plentyn yn ddwyieithog. a. Adlewyrchir polisi dwyieithog yr Awdurdod yng ngweinyddiad yr ysgol hon, o ddydd i ddydd, ond y Gymraeg yw prif iaith y cyfathrebu. Fei defnyddir: yng ngweinyddiad yr ysgol o ddydd i ddydd b. Yn y sesiynau addysgu, y Gymraeg fydd y prif gyfrwng addysgu or cychwyn cyntaf, ond bydd Saesneg yn cael ei defnyddio yn ysbeidiol ac yn sensitif gydag unigolion. Wrth i blant ymgyfarwyddo â swn a synnwyr y Gymraeg, disgwylir iddynt ei defnyddio i ymateb - ar lafar ac wrth gofnodi. Wrth iddynt ddatblygu o ran hyfedredd, fe gynllunnir
agweddau ou gwaith cwricwlaidd yn fwriadus yn y Gymraeg, fel y gallant ei
defnyddion hyderus erbyn Bl.6. METHODOLEG CYNRADD Dosbarthiadau CA1 Dysgu Cymraeg mewn ysgolion cymysg-ieithyddol neu
lle maer plant i gyd yn ddysgwyr. Gweler y ddogfen ar addysg feithrin. Erbyn hyn, bydd trefn a phatrwm ieithyddol y dosbarth wedii sefydlun gadarn gan yr athrawes, ond bydd yn angenrheidiol iddi annog ac atgoffar plant yn rheolaidd i holi ac ymateb yn Gymraeg. Y nod fydd ehangu defnydd y plant or Gymraeg drwy weithgareddau arferol dosbarth babanod yn y cyfnod hwn. Cyflwynir profiadau darllen ac ysgrifennu perthnasol
a phwrpasol yn Gymraeg yn y cyfnod hwn hefyd. Plant Blwyddyn 2 O fod wedi ennill hyder a chanmoliaeth yn y cyfnod hwn, bydd y plant yn barod ac yn awyddus i ddefnyddior Gymraeg gydar plant eraill yn y dosbarth, gydar athrawes yn ogystal â chydag oedolion eraill. Y nod fydd ehangur defnydd or Gymraeg ar draws y cwricwlwm a datblygu medrau iaith pob plentyn hyd at eithaf ei allu. Cyn symud i Gyfnod Allweddol 2, y nod fydd sicrhau bod plant yn
gallu cyfathrebun effeithiol yn Gymraeg. Plant CA2 Yn y dosbarthiadau hyn hefyd, y Gymraeg fydd prif gyfrwng cyfathrebu athro/athrawes a phlentyn gan y bydd gan bob plentyn a fu am dair blynedd yn nosbarthiadau CA1 afael digonol ar yr iaith. Y nod yma fydd datblygu gallu ieithyddol y plentyn yn y ddwy iaith drwy gynnig iddo brofiadau amrywiol a diddorol a fydd yn ysgogi ac yn meithrin sgiliau ieithyddol.
UWCHRADD Dulliau Gweithredu Nodir yn y datganiad cyffredinol yn Adran 1 mai nod y polisi iaith yw ceisio sicrhau dwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol mewn disgyblion ac y maen disgrifior model gweithredu a fabwysiwyd i hyrwyddor nod hwnnw. Maer rhan hon or ddogfen bolisi yn edrych ar ddulliau gweithredu yn y sector uwchradd (gan enghreifftio darpariaeth addysgol a allai fod yn addas ar gyfer gwahanol garfanau o ddisgyblion), ar fethodoleg, ac ar drosglwyddo CA2/3.
Er bod pob ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn ysgol ddwyieithog syn gweithredu yn unol â pholisi iaith yr Awdurdod, maen anochel y bydd y ddarpariaeth ieithyddol a wneir ym mhob ysgol yn amrywio am nifer o resymau, yn cynnwys: a) natur ieithyddol yr ardal a wasanaethir; b) arbenigeddaur staff au hyfedredd ieithyddol; c) maint yr ysgol ai threfniadau mewnol; ch) cynlluniaur Awdurdod ar math o adnoddau a chefnogaeth y gall ei ddarparu. Oherwydd y ffactorau hyn, bydd gwahaniaethau o ysgol i ysgol o ran ethos, o ran patrwm addysgur Gymraeg fel pwnc ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg, ac o ran cyraeddiadau ieithyddol y disgyblion yn y ddwy iaith. Ym model gweithredur ddogfen hon, rhoddir pwyslais ar ddatblygiad ieithyddol disgyblion unigol. Symudir yn raddol oddi wrth y categoreiddio sefydliadol a geir yn y chwe model a weithredwyd er 1986 (gweler Atodiad 1) ond, yn y tymor byr, cedwir at y modelau ysgolion wrth ddyrannu cyllid. Wrth i ysgolion fabwysiadur model gweithredu diwygiedig, gan roi ystyriaeth yn eu cynlluniau iaith i ddatblygu dwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol eu holl ddisgyblion, adlewyrchir hyn yn y modd y dyrennir cyllid yn y dyfodol. Wrth gyflwynor model diwygiedig, dymunir pwysleisio, yn anad dim:
Ceir isod enghreifftiau o ddarpariaeth addysg ddwyieithog y gellid ei chynnig ir carfanau a ganlyn:
Disgwylir ir disgyblion hyn dderbyn addysg
ddwyieithog ar draws y cwricwlwm er mwyn meithrin, atgyfnerthu ac ymestyn eu hyfedredd
cyfochrog yn y ddwy iaith. Dylair ysgol ddarparu addysg ddwyieithog âr pwyslais ar ddatblygur sgiliau sydd eu hangen er mwyn galluogir disgyblion hyn i drosglwyddo i Garfan A maes o law. Carfan C1 disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond angen atgyfnerthu rhai agweddau ar eu sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg. Wrth gynllunio ar gyfer disgyblion y garfan hon, dylid rhoi pwyslais ar ymestyn eu hyfedredd yn y Gymraeg yn y tri TC. Dylid cynnig amrywiaeth o bynciaun ddwyieithog, gan fabwysiadur dulliau a awgrymir isod yn yr adran ar Fethodoleg. Bydd cyfleoedd iddynt hefyd i ymestyn eu sgiliau yn y Gymraeg drwy sicrhau mair iaith honno sydd yn cael blaenoriaeth mewn sefyllfaoedd eraill megis y cyfnod cofrestru, gwersi ABCH, y gwasanaeth boreol, cyngherddau, a.y.y.b. Carfan C2 disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond heb y sgiliau oed-berthnasol yn y Gymraeg. Gellir cynnig amrywiaeth o bynciau lle ceir pwyslais ar waith llafar a gwaith ymarferol drwy gyfrwng y Gymraeg ir disgyblion hyn, yn ogystal âr sefyllfaoedd eraill a awgrymwyd uchod ar gyfer Carfan C1. Carfan CH disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol isel yn y ddwy iaith. Rhaid wrth gynllunio gofalus a phwrpasol er mwyn sicrhau bod y disgyblion hyn yn datblygur sgiliau angenrheidiol yn y ddwy iaith. Bydd cynlluniau addysg unigol yn fodd i roi ystyriaeth i ddatblygiad ieithyddol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y garfan hon.
Mae seilio polisi iaith ysgol ar hyfedredd dwyieithog y disgyblion yn golygu rhoi sylw manylach i fethodoleg dysgu ac ir defnydd a wneir or ddwy iaith yn yr ystafell ddosbarth. Sylfaen y fethodoleg ywr ffaith mai:
(ii) codi safon ddwyieithog pob disgybl ir
lefel nesaf ywr nod tymor byr. Yn hytrach na labelu disgybl yn ddysgwr a bodloni ar safon dysgwr drwy gydol y cyfnod uwchradd, rhaid gweithion gyson, ar draws y cwricwlwm, i godir safonau ieithyddol. Mae goblygiadau hynny i fethodoleg addysgu yn cymryd pedair gwedd: 1. Addysgu carfanau ieithyddol gwahanol o fewn yr yn dosbarth Pwyntiau perthnasol:
2. Addysgu dwyieithog, sef defnyddior ddwy iaith i atgyfnerthur naill iaith ar llall o fewn yr un wers, yn arbennig felly gyda Charfanau B, C1, C2, CH Datblygu theori addysgu dwyieithog wedii seilio ar giwiau penodol ar gyfer newid iaith yn y dosbarth, gydar nod o ddatblygun drawsgwricwlaidd yn y ddwy iaith. (Gweler : Pwyso a Mesur y Polisi Iaith, t. 73-78.) 3. Cynllunio dysgu gwahaniaethol o ran gallu ac o ran gallu ieithyddol Ochr yn ochr âr sylw presennol a roir i ddysgu gwahaniaethol yn y sefyllfa uniaith, maen rhaid ystyried goblygiadau gwahaniaethu ieithyddol i gynllunio a pharatoir athrawon. Pwyntiau iw hystyried:
4. Ystyried dull modiwlaidd o drefnu addysgu dwyieithog gyda Charfanau A, B ac C1. Mabwysiadu trefn fodiwlaidd sydd wedii seilio ar faint o addysgu syn digwydd trwy gyfrwng y naill iaith a faint syn digwydd trwy gyfrwng y llall, yn ôl anghenion ieithyddol y disgyblion. HMS Rhoddir sylw ir materion a drafodir yn yr adran ar Fethodoleg uchod yn rhaglen HMS CYNNAL. Gellir defnyddio ymweliadau Hawl a Haeddiant i ddiwallu anghenion ysgolion unigol. CA2/3 Disgwylir i ddisgyblion sydd wedi cyrraedd Lefel 3 yn y Gymraeg ar ddiwedd CA2 barhau i ddilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Iaith Gyntaf er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad yn CA3. |
|||||||||||||||||||||