Yn ôl..

POLISI IAITH MÔN

ADRAN 2 – ARWEINIAID PROFFESIYNOL

Model gweithredu

Yn y model gweithredu a gyflwynir yn y ddogfen hon, rhoddir pwyslais ar ddatblygiad ieithyddol disgyblion unigol. Er mwyn hwyluso hynny, diffinnir, mewn pum categori, wahanol garfanau o ddisgyblion yn ôl eu hyfedredd ieithyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Carfan A   Disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol cyfochrog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn bur rhugl yn y ddwy iaith o safbwynt gallu troi o’r naill i’r llall yn ôl y gofyn, a’u mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig yn unrhyw un o’r ddwy.

Mae’r ddwy iaith fel ei gilydd yn foddion cyfathrebu parod ganddynt.

Carfan B   Disgyblion â hyfedredd priodol yn y Gymraeg ond sydd ag angen atgyfnerthu rhai agweddau ar eu sgiliau ieithyddol yn y Saesneg.

Y Gymraeg yn famiaith iddynt a’r iaith amlaf ei defnydd fel cyfrwng sgwrsio, darllen ac ysgrifennu. Y Saesneg yn llai ‘datblygedig’ ganddynt ac maen nhw’n llai hyderus wrth ei defnyddio.

Carfan C1   Disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond sydd ag angen atgyfnerthu rhai agweddau ar eu sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg.

Rhai disgyblion â’r Saesneg yn famiaith iddynt neu’n iaith bennaf y cartref, ac yn troi ati’n fympwyol mewn sefyllfaoedd cyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol. Yn gallu’r Gymraeg ond eu defnydd ohoni yn fwy cyfyngedig.

Eraill yn barod i gyfathrebu yn y Gymraeg ar lafar ac yn ymwybodol o’r patrymau iaith sylfaenol i gynnal sgwrs a thrafod materion o ddydd i ddydd, ond yn gloff ac aniscr wrth ddarllen yr iaith ac yn ddihyder wrth ysgrifennu.

Carfan C2   Disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond sydd heb y sgiliau oed-berthnasol priodol yn y Gymraeg.

Yn bur gyfyngedig eu defnydd o’r Gymraeg, iaith oddefol yn unig ydyw; nid oes ganddynt yr hyder na’r feistrolaeth i ddechrau sgwrs eu hunain; eu patrymau a’u geirfa yn gyfyngedig iawn.

Carfan CH   Disgyblion heb sgiliau oed-berthnasol priodol yn y naill iaith na’r llall.

Yn gyfyngedig eu defnydd o’r ddwy iaith yn enwedig wrth ddarllen ac ysgrifennu. Heb y sgiliau sylfaenol angenrheidiol.

Defnyddir targedau’r Cwricwlwm Cenedlaethol wrth ddiffinio hyfedredd oed-berthnasol, gan gofio bod ffocws Rhaglenni Astudio’r CC fel a ganlyn:

CA1 - Lefel 1-3

CA2 - Lefel 2-6

CA3 - Lefel 3-7

CA4 - TGAU (lefel 7 = gradd C)

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol, gellir mesur dwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol disgybl drwy ystyried ei hyfedredd yn y ddwy iaith, yn ôl lefelau’r cwricwlwm (asesiad athro wedi’i gadarnhau â’r TASau).

Rhagwelir y bydd cynnydd mewn hyfedredd dwyieithog o fewn y model yn dilyn y llwybrau a ganlyn:

A

á

 

á

B

 

C1

á

 

á

   

C2

á

 

á

CH

 

CYNRADD

Enghreifftiau o ddatganiadau polisi

Gweler isod enghreifftiau o ddatganiadau y gellid eu cynnwys mewn llawlyfrau ysgolion.

Credwn fod gan holl blant yr ysgol hon hawl i dyfu yn ddinasyddion dwyieithog. Parchwn famiaith pob disgybl a cheisiwn eu hannog i ddatblygu eu hyfedredd yn eu hail iaith, boed honno’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae nodau ieithyddol yr ysgol hon yn unol â nodau Polisi Dwyieithog yr Awdurdod Addysg. Gweithredir y polisi drwy:

1. sicrhau yn y dosbarth derbyn, trwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law;

2. adeiladu ym mlynyddoedd 1 a 2 ar y sylfeini a osodwyd i’r Gymraeg drwy addysg feithrin; atgyfnerthu a datblygu mamiaith y plentyn o ddysgwr Cymraeg ac, yn achos y plentyn o gartref Cymraeg, ymestyn ei afael ar y Saesneg;

3. yng Nghyfnod Allweddol 2, atgyfnerthu a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fo’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.

Yna, gellid dewis Enghraifft 1 neu Enghraifft 2 (yn ddibynnol ar gefndir yr ysgol)

Enghraifft 1

a. Y Gymraeg yw iaith gyfathrebu’r ysgol hon.

Fe’i defnyddir:

yng ngweinyddiad yr ysgol o ddydd i ddydd
fel yr iaith achlysurol (y tu allan i sesiynau addysgu)
fel iaith gwasanaethau boreol a chynulliadau torfol.

b. Y Gymraeg fydd cyfrwng yr addysgu - yn gyflwyno ac yn gofnodi - ar draws y cwricwlwm.

Cyflwynir y Saesneg yn raddol yn CA1. Cynyddir ei defnydd yn gyson trwy CA2 – i gyflwyno a chofnodi – fel y gall pob plentyn ei defnyddio’n hyderus i ymwneud ag amrywiol feysydd y cwricwlwm erbyn Bl.6, h.y. bydd y plentyn yn ddwyieithog.

Enghraifft 2

a. Adlewyrchir polisi dwyieithog yr Awdurdod yng ngweinyddia yr ysgol hon o ddydd i ddydd, ond y Gymraeg yw prif iaith y cyfathrebu.

Fe’i defnyddir:

yng ngweinyddiad yr ysgol o ddydd i ddydd
fel yr iaith achlysurol (y tu allan i sesiynau addysgu)
fel iaith gwasanaethau boreol a chynulliadau torfol.

b. Yn y sesiynau addysgu, y Gymraeg fydd y prif gyfrwng addysgu o’r cychwyn cyntaf, ond bydd Saesneg yn cael ei defnyddio yn ysbeidiol ac yn sensitif gydag unigolion.

Wrth i blant ymgyfarwyddo â sôn a synnwyr y Gymraeg, disgwylir iddynt ei defnyddio i ymateb - ar lafar ac wrth gofnodi.

Wrth iddynt ddatblygu o ran hyfedredd, fe gynllunnir agweddau o’u gwaith cwricwlaidd yn fwriadus yn y Gymraeg, fel y gallant ei defnyddio’n hyderus erbyn Bl.6.


METHODOLEG CYNRADD

Dosbarthiadau CA1

Dysgu Cymraeg mewn ysgolion cymysg-ieithyddol neu lle mae’r plant i gyd yn ddysgwyr.

Blwyddyn Derbyn

Gweler y ddogfen ar addysg feithrin.

Plant Blwyddyn 1

Erbyn hyn, bydd trefn a phatrwm ieithyddol y dosbarth wedi’i sefydlu’n gadarn gan yr athrawes, ond bydd yn angenrheidiol iddi annog ac atgoffa’r plant yn rheolaidd i holi ac ymateb yn Gymraeg.

Y nod fydd ehangu defnydd y plant o’r Gymraeg drwy weithgareddau arferol dosbarth babanod yn y cyfnod hwn.

Cyflwynir profiadau darllen ac ysgrifennu perthnasol a phwrpasol yn Gymraeg yn y cyfnod hwn hefyd.

Plant Blwyddyn 2

O fod wedi ennill hyder a chanmoliaeth yn y cyfnod hwn, bydd y plant yn barod ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r plant eraill yn y dosbarth, gyda’r athrawes yn ogystal â chydag oedolion eraill.

Y nod fydd ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm a datblygu medrau iaith pob plentyn hyd at eithaf ei allu.

Cyn symud i Gyfnod Allweddol 2, y nod fydd sicrhau bod plant yn gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg.

Plant CA2

Yn y dosbarthiadau hyn hefyd, y Gymraeg fydd prif gyfrwng cyfathrebu athro/athrawes a phlentyn gan y bydd gan bob plentyn a fu am dair blynedd yn nosbarthiadau CA1 afael digonol ar yr iaith.

Y nod yma fydd datblygu gallu ieithyddol y plentyn yn y ddwy iaith drwy gynnig iddo brofiadau amrywiol a diddorol a fydd yn ysgogi ac yn meithrin sgiliau ieithyddol.

 

UWCHRADD

Dulliau Gweithredu

Nodir yn y datganiad cyffredinol yn Adran 1 mai nod y polisi iaith yw ceisio sicrhau dwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol mewn disgyblion ac y mae’n disgrifio’r model gweithredu a fabwysiwyd i hyrwyddo’r nod hwnnw.

Mae’r rhan hon o’r ddogfen bolisi yn edrych ar ddulliau gweithredu yn y sector uwchradd (gan enghreifftio darpariaeth addysgol a allai fod yn addas ar gyfer gwahanol garfanau o ddisgyblion), ar fethodoleg, ac ar drosglwyddo CA2/3.

Y Polisi a’i weithrediad

Er bod pob ysgol uwchradd yn Ynys Môn yn ysgol ddwyieithog sy’n gweithredu yn unol â pholisi iaith yr Awdurdod, mae’n anochel y bydd y ddarpariaeth ieithyddol a wneir ym mhob ysgol yn amrywio am nifer o resymau, yn cynnwys:

a) natur ieithyddol yr ardal a wasanaethir;

b) arbenigeddau’r staff a’u hyfedredd ieithyddol;

c) maint yr ysgol a’i threfniadau mewnol;

ch) cynlluniau’r Awdurdod a’r math o adnoddau a chefnogaeth y gall ei ddarparu.

Oherwydd y ffactorau hyn, bydd gwahaniaethau o ysgol i ysgol o ran ethos, o ran patrwm addysgu’r Gymraeg fel pwnc ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac o ran cyraeddiadau ieithyddol y disgyblion yn y ddwy iaith.

Ym model gweithredu’r ddogfen hon, rhoddir pwyslais ar ddatblygiad ieithyddol disgyblion unigol. Symudir yn raddol oddi wrth y categoreiddio sefydliadol a geir yn y chwe model a weithredwyd er 1986 (gweler Atodiad 1) ond, yn y tymor byr, cedwir at y modelau ysgolion wrth ddyrannu cyllid. Wrth i ysgolion fabwysiadu’r model gweithredu diwygiedig, gan roi ystyriaeth yn eu cynlluniau iaith i ddatblygu dwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol eu holl ddisgyblion, adlewyrchir hyn yn y modd y dyrennir cyllid yn y dyfodol.

Wrth gyflwyno’r model diwygiedig, dymunir pwysleisio, yn anad dim:

1) mai’r ystyriaeth ganolog yw’r disgybl ac mai’r wedd bwysicaf yw’r cydbwysedd o ran dwyieithrwydd (ochr yn ochr â chydbwysedd cwricwlaidd) yn rhaglen astudio’r disgybl unigol;

2) y bydd yr union ddulliau gweithredu a fabwysiedir ym mhob ysgol, o ran cyfundrefnu’r ddarpariaeth, trefniadau cwricwlaidd a strategaethau dysgu ac addysgu, i gyd yn ddibynnol ar y ffactorau a’r amgylchiadau arbennig sy’n bodoli yn yr ysgol honno.

Ceir isod enghreifftiau o ddarpariaeth addysg ddwyieithog y gellid ei chynnig i’r carfanau a ganlyn:

Carfan A disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol cyfochrog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Disgwylir i’r disgyblion hyn dderbyn addysg ddwyieithog ar draws y cwricwlwm er mwyn meithrin, atgyfnerthu ac ymestyn eu hyfedredd cyfochrog yn y ddwy iaith.

Carfan B disgyblion â hyfedredd priodol yn y Gymraeg ond angen atgyfnerthu rhai agweddau ar eu sgiliau ieithyddol yn y Saesneg.

Dylai’r ysgol ddarparu addysg ddwyieithog â’r pwyslais ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn galluogi’r disgyblion hyn i drosglwyddo i Garfan A maes o law.

Carfan C1 disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond angen atgyfnerthu rhai agweddau ar eu sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg.

Wrth gynllunio ar gyfer disgyblion y garfan hon, dylid rhoi pwyslais ar ymestyn eu hyfedredd yn y Gymraeg yn y tri TC. Dylid cynnig amrywiaeth o bynciau’n ddwyieithog, gan fabwysiadu’r dulliau a awgrymir isod yn yr adran ar Fethodoleg. Bydd cyfleoedd iddynt hefyd i ymestyn eu sgiliau yn y Gymraeg drwy sicrhau mai’r iaith honno sydd yn cael blaenoriaeth mewn sefyllfaoedd eraill megis y cyfnod cofrestru, gwersi ABCH, y gwasanaeth boreol, cyngherddau, a.y.y.b.

Carfan C2 disgyblion â hyfedredd priodol yn y Saesneg ond heb y sgiliau oed-berthnasol yn y Gymraeg.

Gellir cynnig amrywiaeth o bynciau lle ceir pwyslais ar waith llafar a gwaith ymarferol drwy gyfrwng y Gymraeg i’r disgyblion hyn, yn ogystal â’r sefyllfaoedd eraill a awgrymwyd uchod ar gyfer Carfan C1.

Carfan CH disgyblion â hyfedredd oed-berthnasol isel yn y ddwy iaith.

Rhaid wrth gynllunio gofalus a phwrpasol er mwyn sicrhau bod y disgyblion hyn yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol yn y ddwy iaith. Bydd cynlluniau addysg unigol yn fodd i roi ystyriaeth i ddatblygiad ieithyddol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn y garfan hon.

 

METHODOLEG UWCHRADD

Mae seilio polisi iaith ysgol ar hyfedredd dwyieithog y disgyblion yn golygu rhoi sylw manylach i fethodoleg dysgu ac i’r defnydd a wneir o’r ddwy iaith yn yr ystafell ddosbarth. Sylfaen y fethodoleg yw’r ffaith mai:

(i) nod y polisi iaith yw ceisio sicrhau dwyieithrwydd cytbwys oed- berthnasol;

(ii) codi safon ddwyieithog pob disgybl i’r lefel nesaf yw’r nod tymor byr.

Yn hytrach na labelu disgybl yn ddysgwr a bodloni ar safon ‘dysgwr’ drwy gydol y cyfnod uwchradd, rhaid gweithio’n gyson, ar draws y cwricwlwm, i godi’r safonau ieithyddol.

Mae goblygiadau hynny i fethodoleg addysgu yn cymryd pedair gwedd:

1. Addysgu carfanau ieithyddol gwahanol o fewn yr yn dosbarth

Pwyntiau perthnasol:

rhoi sylw i ddulliau addysgu grwp;

ystyried sawl grwp ieithyddol gwahanol y gellir ymgymryd â nhw yn yr un dosbarth;

paratoi ac argraffu deunydd parod ar ffurf deunydd hunan-addysgu;

dull tiwtorial o gyflwyno ac addysgu.

2. Addysgu dwyieithog, sef defnyddio’r ddwy iaith i atgyfnerthu’r naill iaith a’r llall o fewn yr un wers, yn arbennig felly gyda Charfanau B, C1, C2, CH

Datblygu theori addysgu dwyieithog wedi’i seilio ar giwiau penodol ar gyfer newid iaith yn y dosbarth, gyda’r nod o ddatblygu’n drawsgwricwlaidd yn y ddwy iaith. (Gweler : Pwyso a Mesur y Polisi Iaith, t. 73-78.)

3. Cynllunio dysgu gwahaniaethol o ran gallu ac o ran gallu ieithyddol

Ochr yn ochr â’r sylw presennol a roir i ddysgu gwahaniaethol yn y sefyllfa uniaith, mae’n rhaid ystyried goblygiadau gwahaniaethu ieithyddol i gynllunio a pharatoi’r athrawon.

Pwyntiau i’w hystyried:

symleiddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar lafar;

symleiddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ysgrifenedig mewn nodiadau trwy:

(i) gadw golwg ar oed darllen y testun (Pwnc Iaith - Iaith Pwnc, Uned 27);

(ii) ymwybyddiaeth o egwyddorion ‘The Plain English Campaign’/ 'Mudiad Cymraeg Clir’.

4. Ystyried dull modiwlaidd o drefnu addysgu dwyieithog gyda Charfanau A, B ac C1.

Mabwysiadu trefn fodiwlaidd sydd wedi’i seilio ar faint o addysgu sy’n digwydd trwy gyfrwng y naill iaith a faint sy’n digwydd trwy gyfrwng y llall, yn ôl anghenion ieithyddol y disgyblion.

HMS

Rhoddir sylw i’r materion a drafodir yn yr adran ar Fethodoleg uchod yn rhaglen HMS CYNNAL. Gellir defnyddio ymweliadau Hawl a Haeddiant i ddiwallu anghenion ysgolion unigol.

CA2/3

Disgwylir i ddisgyblion sydd wedi cyrraedd Lefel 3 yn y Gymraeg ar ddiwedd CA2 barhau i ddilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad yn CA3.