SPAEM: CYMRAEG AIL IAITH SAFON UWCH AC UWCH
ATODOL
Ymateb ar ran Awdurdod Addysg Môn
Croesawir yr Adroddiad hwn ar safonau dysgu ac addysgu Cymraeg
ail iaith Safon Uwch. O ganlyniad i natur y Polisi Iaith a weithredir yn y sir, ar
ymdrech gyson i annog disgyblion syn Ddysgwyr i bontio, gwelir bod y canran o
ymgeiswyr syn sefyll Safon Uwch ail iaith yn isel. Beth bynnag, teimlir bod yr
adroddiad hwn yn gosod cyfeiriad at sut y gellir codi safonau ar gyfer yr ymgeiswyr
syn sefyll y cwrs. Rhagwelir y cyfeirir yn gyson at ei gynnwys yn ystod ymweliadau
ag ysgolion, a bwriedir ei ddefnyddio fel sail ir cwrs HMS sirol Safon Uwch Cymraeg
Ail Iaith a gynhelir ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
MATERION
ALLWEDDOL
|
| 1. Mae angen gwneud mwy i
ddatblygu gallur disgyblion i ymateb yn fwy estynedig ar lafar a chynnig
sylwadaun ddigymell. |
Cytunir â chanfyddiad yr
adroddiad a ddywedir bod cyfrannedd y gwaith da yn uwch yn y sgil llafar oi gymharu
â darllen ac ysgrifennu. Yn sicr mae hyn yn wir ym Môn oherwydd natur ieithyddol yr
ardal. Beth bynnag, cytunir hefyd fod lle iw ddatblygu ymhellach a rhoddir sylw i
hyn yn ystod ymweliadau hawl a haeddiant trwy bwysleisior angen i strwythuro
tasgaun ofalus, gan ddilyn y camau canlynol: a) gosod
disgwyliadau uchel ac esbonior hyn a ddisgwylir ir disgyblion ei gyflawni
trwyr dasg.
b) paratoir disgyblion ar gyfer cyflawnir gofynion trwy
gyflwyno (i) sbardun fydd yn deffror dychymyg ac yn bwydo syniadau
(ii) patrymau a geirfa angenrheidiol.
c) yn dilyn hyn neilltuo amser i roi cyfle i ddisgyblion baratoi ar
gyfer y drafodaeth.
ch) treulio sesiwn yn adrodd yn ôl ar ddiwedd y drafodaeth.
d) cael y disgyblion i arfarnu perfformiad ei gilydd yng nghyd-
destun y canllawiau a gyflwynwyd yn (a).
Cynhaliwyd dau gwrs HMS, yn ystod y flwyddyn addysgol ddiwethaf a
oedd yn rhoi sylw ir pwyntiau uchod:
Datblygu technegau cyflwyno geirfa a phatrymau newydd i ddysgwyr
(9/12/97).
Datblygu sgiliau llafar disgyblion (15/1/98) lle pwysleisiwyd
pwysigrwydd paratoi disgyblion cyn dechrau ar dasg lafar. |
| 2. Mae angen ehangu ar ystod y profiadau
llafar a ddarperir. |
Anogir ysgolion i ddarparu amrediad eang o
brofiadau llafar ir disgyblion drwy lunio cynllun gwaith a rydd sylw i hyn fesul
tymor, dros gyfnod o ddwy flynedd. Ceisir sicrhau eu bod yn cwmpasur canlynol:
trafod, mynegi barn, tynnu ar brofiadau personol, cyflwyno gwybodaeth, ymateb ar lafar i
ddarnau llenyddol gan ddefnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn gywir; a thrwy bob sgil,
ceisio cynyddu hyder yr unigolyn. Pwysleisir hefyd fod angen
strwythuro pob tasg a gyflwynir yn ofalus, gan ddilyn y camau a amlinellwyd yn 1. uchod. |
| 3. Mae angen gwella safonau darllen ar
goedd a hyrwyddo darllen annibynnol ehangach gan y disgyblion. |
Cytunir bod disgyblion yn tueddu i
esgeuluso eu rhaglen ddarllen annibynnol. Beth bynnag, manteisir ar bob cyfle i atgoffa
athrawon mai eu cyfrifoldeb hwy yw meithrin yr awydd i ddarllen ymysg y disgyblion. Un
dull posibl a gymeradwyir yn ystod ymweliadau hawl a haeddiant yw darparu rhestr ddarllen
addas ar eu cyfer, gan gadw cydbwysedd rhwng storïau byrion, erthyglau, papurau bro,
cylchgronau cenedlaethol yn ogystal â nofelau. Teimlir bod
meithrin y mwynhad hwn mewn darllen, heb amheuaeth, yn ymestyn ar eu sgiliau ieithyddol yn
ogystal â datblygu eu gallu i gymharu gwahanol weithiau llenyddol.
Er mwyn cynyddu hyder y disgyblion i ddarllen ar goedd anogir yr
athrawon hefyd i roi cyfle iddynt baratoi darlleniad o flaen llaw gan gysylltu hyn, lle
bon addas, a bod yn gyfrifol am arwain trafodaeth ddibynnol ar y testun. |
| 4. Mae angen sicrhau cyfleoedd cyson
ir disgyblion ysgrifennun estynedig yn eu geiriau eu hunain i amrediad o
bwrpasau ac mewn ystod o ffurfiau. |
Cynhaliwyd sesiwn HMS ym mis Tachwedd y
llynedd a oedd yn rhoi sylw penodol i hyn. Gwahoddwyd Enfys Thomas un or tîm
syn gyfrifol am asesur ffolio terfynol, i annerch grwp o athrawon Safon Uwch
Ail Iaith. Yn ystod y sesiwn llwyddwyd i godi ymwybyddiaeth yr athrawon ynglyn âr
hyn syn ddisgwyliedig ar gyfer ennill gradd dda ar dasg ysgrifenedig. Pwysleisiwyd
hefyd yr angen i fod yn llunio tasgau estynedig, trefnus. Anogir
athrawon, yn ystod y broses gynllunio i sicrhau bod y disgyblion yn cael cyfle i feistroli
amrywiaeth o ffurfiau ysgrifenedig, drwy fapior cyfan yn ofalus dros y cyfnod
astudio o ddwy flynedd. Caiff hyn sylw pellach yn ystod y sesiwn HMS Safon Uwch Ail Iaith
a gynhelir ym mis Ionawr. |
| 5. Mae angen gwella ar ansawdd agweddau ar
asesu, yn enwedig asesu a chofnodi datblygiad llafaredd, a dangos ir disgyblion yr
hyn y mae angen ei wneud i wella ar agweddau ar eu gwaith. |
Cefnogir yr arfer o drafod gwaith a
gynhyrchwyd gan y disgyblion eu hunain fel dull effeithiol o godi safonau, boed yn waith
llafar neu ysgrifenedig. Heb amheuaeth, credir bod y ddeialog rhwng athro a disgybl yn
allweddol yn y brosoes o hybu cynnydd, ac fe atgoffir athrawon yn gyson am bwysigrwydd
cynnig adborth, trwy drafod cryfderau darn o waith, ac yna rhoi sylw ir hyn sydd
iw wella. Yn ystod y sesiwn HMS Gosod targedau ar gyfer codi safonau a
gynhaliwyd 8 Gorffennaf 1998, rhoddwyd cryn sylw i hyn gan geisio arwain athrawon yn gyson
i fod yn troi yr hyn a adnabyddir fel gwendidau, yn dargedau ir disgybl unigol. Cytunir â chanfyddiad yr adroddiad syn nodi bod disgyblion yn tueddu i
wneud yr un camgymeriadau dro ar ôl tro. Yn y ddogfen Gloywi mynegiant llafar
a baratowyd gan dîm Cymraeg Cynnal ar ran yr Awdurdod, pwysleisir yr angen i ddileu gwall
trwy wneud gwaith llafar. Yr egwyddor syn sail i hyn yw na fydd disgybl yn gallu
cynhyrchu ffurf gramadegol cywir oni bai fod y glust yn clywed ac yn cynhyrchur sain
yn gywir yn y lle cyntaf. Dosberthir copi or ddogfen hon i bob ysgol erbyn mis Medi. |
| 6. Mae angen cynllunio cyfleoedd i
ddatblygur medrau allweddol eraill yng nghyd-destunaur cwrs. |
Gwelir bod rhai adrannau blaengar eisoes
wedi dechrau ar y broses o gynllunio datblygiad y medrau allweddol o fewn eu cynllun
gwaith. Y cam nesaf yw annog pob adran Gymraeg, a chydweithio â hwy fel eu bod yn mynd
ati i gynnig amlinelliad ou dull hwy o ddatblygur medrau hyn trwyr maes
llafur. Yn achos disgyblion Safon Uwch Ail Iaith y Sir
teimlir mair medrau ymchwil ywr man gwan ar hyn o bryd. Prin ywr
cyfleoedd a gaiff y disgyblion i gywain gwybodaeth, ac i baratoi a chymryd nodiadau a
bwriedir rhoi sylw i hyn yn ystod y flwyddyn nesaf. Yn sicr maer sgiliau ymchwil yn
cyd-fynd â phob rhan or cwrs ond rhaid wrth gynllunio gofalus os am eu meithrin yn
llawn.
Teimlir mai anystwyth ywr defnydd a wneir o dechnoleg
gwybodaeth ar hyn o bryd, er gwaethaf bod y cwrs yn cynnig ei hun yn ardderchog ar gyfer
hybur sgiliau hyn. Wrth ir Llywodraeth osod targedau uchelgeisiol mewn
perthynas â TGC ar gyfer y flwyddyn 2000, ni ellir llaesu dwylo yn y cyd-destun hwn.
Rhoddir cryn sylw i TGC yn y rhaglen HMS ym 1998/99. Y mae un consortiwm, sef Consortiwm
Arfon i dderbyn arweiniad ar ddulliau o ddefnyddio TGC wrth gyflwynor Gymraeg, a
neilltuir rhan or diwrnod ar gyfer cynllunio TGC ysgol gyfan.
Yn ogystal â hyn, teimlir bod lle allweddol ir We yn y
cyswllt hwn. |
|
Mae Cynnal wedi mynd ati eisoes i wahodd
gweithgor o athrawon i gydweithio, dan arweiniad yr Ymgynghorydd TGC ar Ymgynghorydd
Cymraeg, i adnabod safleoedd Cymraeg eu hiaith addas ar gyfer eu defnyddio yn y gwersi
Cymraeg. Wedi ir safleoedd gael eu hadnabod cynhwysir y rhai addas dan wahanol
themâu, syn cyd-fynd âr maes llafur Safon Uwch, yn safle Cynnal fel y gall
disgyblion sicrhau mynediad rhwydd atynt. Gwelwyd hyn fel gwaith buddiol tu hwnt, er
gwaethaf y prinder o safleoedd Cymraeg eu hiaith ond hyderir y bydd y prosiect hwn yn
parhau y flwyddyn nesaf i gyd-fynd âr prosiect hwn cynhelir HMS Sirol ym mis Hydref
a fydd yn rhoi arweiniad i athrawon ar ddefnyddioldeb y We yn eu gwersi Cymraeg. |
| 7. Y mae angen i staff hên ysgolion
ddatblygu strategaethau monitro a rheoli ansawdd yn y chweched dosbarth, a gosod targedau
ansoddol a rhifol ar gyfer gwella ansawdd a safonau. |
Trafodir strategaethau monitron
gyson wrth adrodd yn ôl i dimau rheoli ar ddiwedd ymweliad hawl a haeddiant. Hefyd rhoddwyd sylw ir mater yn ystod y diwrnod HMS Gosod
targedau ar gyfer codi safonau a gynhaliwyd yn ddiweddar. |
|