Darllen yng Nghyfnod Allweddol 2
______________________________________ Yn ôl..

Cyflwyniad

Mae gallu plentyn i ddarllen yn hyderus ac ystyrlon yn un o gonglfeini ei ddatblygiad fel dysgwr ac yn rhan annatod o ddatblygiad ei bersonoliaeth gyfan. Mae'r gair printiedig yn elfen holl-bresennol yn ein byd, boed yn label ar fwyd neu yn arwydd ffordd, ac mae gallu'r plentyn i ddarllen a dehongli’r holl brint sydd;i gwmpas yn un o brif sgiliau byw, M ae'r gyfundrefn addysg wedi ei sylfaenu ar y gallu i ddarllen llyfr. Mae anallu plentyn i ddarllen yn tanseilio ei holl ddatblygiad addysgol ac yn gosod anawsterau lu yn ei ffordd.

Gwir yw dweud bod safonau darllen disgyblion yn CA2 wedi bod yn fater o bryder i athrawon ac addysgwyr eraill ers peth amser. Cymaint yw baich gofynion y cwricwlwm cenedlaethol ar amser athrawon dosbarth fel bod amser sydd wedi ei neilltuo yn benodol ar gyfer datblygu galluoedd darllen y disgyblion, yn brin iawn.   Eisoes mae nifer o brosiectau, er enghraifft llythrennedd y teulu, yn weithredol mewn rhai ysgolion sir; maent yn rhoi sylw penodol i godi safonau darllen disgyblion ac yn arloesi gwahanol ddulliau o gyflawni hynny. Bwriad yr Ysgrifennydd Gwladol yw bod pob ysgol yn neilltuo awr y dydd ar gyfer datblygu lythrennedd; mae hyn i'w groesawu os y daw tocio sylweddol ar gynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol yn sgil hyn.

Bydd yr adroddiad hwn yn ystyried safonau darllen disgyblion yn nosbarthiadau CA2 yr Awdurdod. Defnyddir sawl ffynhonnell o dystiolaeth ond canolbwyntir yn benodol ar:

a) Asesiadau Diwedd CA2 , Haf 1996

b) Adroddiadau Arolygwyr ar Ysgolion yr Awdurdod, 1994-97

Defnyddir y dystiolaeth ar gyfer ffurfio casgliadau a gwneir awgrymiadau ymarferol ar ddulliau gweithredu.

Mae darllen, fel sgil i'w feddiannu, neu fel proses i'w datblygu, wedi cael cryn sylw dros y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd yr oes yr ydym yn byw ynddi, a'r proffil uchel sy'n cael ei roi i wendidau ysgolion - bod y rheiny yn rhai real neu'n rhai honedig - mae natur y sylw cyhoeddus yn aml yn wleidyddol ei naws.

Mae'n deg cydnabod fod pryder wedi bodoli ymhlith addysgwyr, hefyd, a bod rhai carfanau yn mynnu mai dulliau dysgu cyfoes sy'n gyfrifol am y dirywiad honedig. Dyma a arweiniodd at y ddadl ddiweddar ynghlyn â dysgu darllen trwy ddulliau ffoneg neu drwy ddarllen llyfrau go-iawn - dadl a amlygwyd gan y sylw gwleidyddol a chyhoeddus a gafodd.

Yn wyneb hyn mae'n naturiol fod llythrennedd (darllen ac ysgrifennu) yn cael cryn sylw yn 'Dyfodol Disglair', sef rhaglen a sefydlwyd gan Y Swyddfa Gymreig yn 1995 er mwyn gosod targedau penodol ar gyfer codi safonau mewn ysgolion.

Cyhoeddwyd meincnodau a thargedau newydd ar gyfer gwelliant blynyddol ac awgrymir :

'erbyn y flwyddyn 2000 . . . dylai rhwng 60% a 70% o'r holl ddisgyblion 11 oed gyrraedd lefel 4 neu'n uwch.'

(Yn 1996 roedd y niferoedd trwy Gymru a lwyddodd i gyrraedd lefel 4 neu'n uwch yn 54% yn y Gymraeg ac yn 56% yn y Saesneg)

Un o nodweddion pennaf yr oes hon yw fod dyfeisiadau electroneg a'i atyniadau sgrîn yn denu plant oddi wrth lyfrau. Gellir rhesymu, wrth gwrs , fod llythrennedd-sgrin , neu lythrennedd cyfrifiadurol, yn wedd arall ar ddarllen, ac yn wir, mae posibiliadau'r CD Rom a'r Rhyngrwyd, fel ffynonellau gwybodaeth, yn gyffrous ac yn ddeniadol. Eto, fe ddywedir yn aml fod denu plant at lyfrau yn sialens galed y dyddiau hyn, ac mae'n wireb y gellir dysgu plant i ddarllen ond mater arall yw eu gwneud yn ddarllenwyr.

Beth, felly, yw sefyllfa a safonau darllen, yn CA 2, yn ysgolion Gwynedd a Môn? Yn yr adroddiad hwn dadansoddir y dystiolaeth a welir o astudio 51 o adroddiadau SPAEM yn dilyn eu harolygiadau yn ysgolion Gwynedd a Môn ers 1995 pan gychwynwyd y drefn newydd o arolygiadau cyson.

Yn ogystal ceir dadansoddiad o asesiadau darllen a wnaed trwy Brofion Safonol y Cwricwlwm Cenedlaethol, 1996, ar gyfer plant 11 oed; sgôr yn unig a geir yn y dystiolaeth yma ond drwy ystyried sampl gynrychioladol o ysgolion cynigir darlun o safonau.

Yn ychwanegol mae darlun o arferion darllen, darpariaeth lyfrau a safonau yn deillio o'r ymweliadau cyson a'r ysgolion a wneir gan swyddogion yr Uned Gwricwlwm. Cofier fod rhychwant o bedair mlynedd yn CA2 , sy'n cynnwys plant rhwng 7 ac 11 oed. Ystyrier, hefyd, mai anodd yw mesur ansawdd gwaith un cyfnod allweddol yn fanwl-gywir heb gymryd i ystyriaeth y waelodlin, sef lle'r oedd y plant arni hi wrth adael CA1 . Os oes safonau darllen anwastad pan fo'r plant yn gadael CA1 mae hyn yn debygol o ddylanwadu ar gynnydd a chyflawniad y plant trwy flynyddoedd CA2.

Wedi'r cyfan, mae'r datblygiad mwyaf, neu'r trafferthion pennaf, yn cael eu hamlygu ym mlynyddoedd cynharaf yr addysgu.

Ystyrier, yn ychwanegol, y gellir mesur darllenadrwydd ar sawl lefel neu gyda sawl ffon fesur wahanol. Mae rhai profion darllen yn seiliedig ar allu 'dweud y geiriau' a'r rheiny yn aml yn eiriau digyswllt, wedi cael eu dewis oherwydd eu bod yn gynyddol anos.

Mae profion eraill yn seiliedig ar ddeall ystyr, lle mae'r plant yn ateb cwestiynau ffeithiol am ddarn a ddarllenwyd ganddynt. Yn aml, atebion ysgrifenedig fyddai'r rhain - dyma'r hyn a elwir yn 'ymarferion darllen a deall'. Mae'r rhai mwyaf soffistigedig ohonynt yn profi gallu'r plant i 'ddarllen rhwng y llinellau' ac i ragweld 'beth fydd yn digwydd nesaf.'

Mae'r Profion Darllen a ddefnyddir bellach ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol yn seiliedig ar 'ddarllen a deall' ac ar gynnig atebion ysgrifenedig i destunau a baratowyd yn benodol ar gyfer hyn. O'r herwydd daeth bri eto ar 'ddarllen a deall' yn yr ysgolion, fel modd o gynefino'r plant â'r hyn sy'n eu hwynebu yn y profion pwysig.

_______________________________________________
Profion Safonol y Cwricwlwm Cenedlaethol 1996        

Wele ddadansoddiad o safonau darllen plant Blwyddyn 6, yn ysgolion Môn a Gwynedd, Haf 1996, yn ôl asesiadau eu hathrawon. Mae'r sampl a ddefnyddiwyd fel sail i'r ffigurau yn cynnwys ysgolion bychan, canolig a mawr ; ysgolion gwledig ac ysgolion trefol; ysgolion mewn ardaloedd Cymraeg ac ysgolion mewn ardaloedd Seisnigedig.

graff1.jpg (12488 bytes) graff3.jpg (14683 bytes)

Fe welir fod cyfatebiaeth bur agos rhwng canlyniadau'r ddwy sir, ac o safbwynt ystadegol mae hyn i'w groesawu, wrth gwrs, gan fod y ddwy sir wedi bod yn perthyn i'r un gyfundrefn addysg ac yn gweithredu'r un polisi iaith dros y blynyddoedd.

Efallai mai'r gwyriad pennaf yw'r 5% o blant yn ysgolion Môn a gyrhaeddodd Lefel 6. Teg yw nodi fod y ffigwr hwn yn deillio o ffigurau un ysgol benodol; mae'n ymddangos fod ystod y lefelau yn gyffredinol uwch yno nag yn yr un ysgol arall.

O gyfuno canlyniadau'r ddwy sir (gweler isod) mae'r patrymau eto'n adlewyrchu canlyniadau y ddwy ar wahan. Gan mai Lefel 4 yw'r disgwyliad rhesymol ar gyfer plant 11 oed gwelir fod 55% o blant yn cyrraedd lefelau derbyniol neu uwch mewn darllen Cymraeg. Ochr arall y geiniog yw fod 45% o blant (bron eu hanner) heb fod yn cyrraedd y lefel derbyniol mewn darllen Cymraeg.

graff2.jpg (14034 bytes)

Rhai o'r argymhellion a wnaed fel canlyniad i'r Profion hyn a gyflawnwyd gan blant B6 trwy Gymru yn 1996 oedd:

'Dylid hyfforddi disgyblion i ddatblygu strategaethau a fydd yn eu galluogi i wneud synnwyr o'r hyn a ddarllenir ganddynt . . . ac i ddatblygu sgiliau megis cip-ddarllen a chraff-ddarllen.' 'Dylid hyfforddi disgyblion i gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddarllenwyd i chwilio am dystiolaeth i gefnogi eu hatebion.' Ymddengys, felly, fod gwendidau yn cael eu hamlygu yng ngalluoedd plant i ddeall yn llwyr yr hyn a ddarllenir ac mai darllen yn arwynebol a wna llawer ohonynt.
      
______________________________________________
Arolygiadau
Ysgolion                                                         

Mae strwythur yr arolygiadau a wneir gan SPAEM, hefyd, yn cynnig darlun o'r sefyllfa ynglyn â safonau darllen. Fe adroddir ar gyflawniadau darllen yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob achos, a hynny fel canlyniad i :

a) wrando ar sampl o blant yn darllen

b) arsylwi arferion darllen plant

c) trafod llyfrau efo plant

Mae'r categorïau, neu'r lefelau, a ddefnyddir gan yr arolygwyr yn rhai bras, fodd bynnag, sef Da iawn, Da, Boddhaol, Anfoddhaol a Gwael. Rhaid darllen yr adroddiadau yn fanylach i ganfod pa agweddau o'r perfformiadau darllen sy'n peri pryder. Fel yr awgrymwyd dros rai blynyddoedd bellach mae plant yn bur rhugl wrth ddarllen deunydd storiol (neu ffuglen) ond yn dod ar draws problemau wrth ymgodymu â deunydd ffeithiol, lle mae'r testun o safbwynt y gystrawen ac o safbwynt geirfa yn tueddu i fod yn fwy anghyfarwydd. Beirniadaeth arall a welir yn sgil hyn yw honno sy'n awgrymu nad yw plant yn cael eu hyfforddi yn ddigon trwyadl yn yr 'uwch-sgiliau darllen', a hyn yn ei dro yn llesteirio rhwyddineb eu defnyddd o'r llyfrau cyfeiriol. Awgrymir gan adroddiadau AEM fod plant yn cyrraedd safonau da ar derfyn CA1 ond nad oes digon yn cael ei wneud yn bwrpasol i ddatblygu a chadarnhau eu sgiliau darllen ar lefel uwch yn CA2. Bodlonir, efallai, ar y ffaith 'eu bod yn gallu darllen'.  Nodwedd arall sy'n cael ei nodi fel un anfoddhaol yw honno sy'n awgrymu fod plant yn darllen testunau sydd heb fod yn gydnaws â'u gallu; mae'r llyfrau un ai yn rhy hawdd neu yn rhy anodd iddynt.

O ddadansoddi canlyniadau'r holl ysgolion a arolygwyd hyd Dymor y Gwanwyn, 1997 dan y drefn newydd, gellir gweld sut olwg sydd ar bethau. Darlun cyfansawdd o safonau yn y ddwy iaith yn y ddwy sir a welir yn y graff nesaf, ac, yn wahanol i ganlyniadau'r Profion Safonol, maent yn cynrychioli safonau ar draws y Cyfnod Allweddol.

graff4.jpg (13735 bytes)

 Fe welir canran uchel (68%) o ddyfarniadau yn y categori 'Boddhaol' a thros chwarter (27%) y sampl yn arddangos safonau 'Da'. Er nad yw'r gymhariaeth yn un hollol deg, efallai, ymddengys fod yr arolygwyr yn rhai haws eu plesio nag ydy lluniwyr a marciwyr y Profion Safonol. Wrth gwrs, mae'n bosib fod plant Blynyddoedd 3, 4 a 5 yn darllen yn dda o ystyried eu hoedran ac yn rhoi gwedd well ar safonau'r Cyfnod Allweddol cyfan.

graff5.jpg (11907 bytes) graff6.jpg (12222 bytes)

O wahanu'r canlyniadau Cymraeg a Saesneg gwelir nad oes amrywiadau arwyddocaol o gwbl, sy'n galonogol, mae'n debyg. Ond mae golwg fanylach ar arolygiadau ysgolion Môn yn dangos mai yn y Gymraeg yn unig y mae safonau yn anfoddhaol, er mai canran gweddol isel sydd ohonynt. O bosib fe ellir priodoli hyn i'r   niferoedd uwch o ysgolion Môn sydd bellach mewn ardaloedd Seisnigedig, yn arbennig felly yn ardal Caergybi ac mewn rhai pentrefi arfordirol. Yn wir, ni allwyd cynnwys sgoriau darllen Cymraeg dwy ysgol o'r sampl Profion gan na chynigiwyd plant ganddynt ar gyfer eu hasesu (dilynir Rhaglenni Astudio'r Ail-Iaith ganddynt, ac nid oes gofyn arnynt i asesu honno gyda phlant 11 oed).  

graff7.jpg (12060 bytes) graff8.jpg (11375 bytes)

______________________________________________
Safonau Genethod a Bechgyn
                                       

Ffactor arall sy'n haeddu ystyriaeth o safbwynt safonau darllen yw honno sy'n honni fod genethod yn perfformio yn well na bechgyn. Mae'r honiad yma yn un berthnasol i  gyflawniadau cyffredinol ysgolion yn y blynyddoedd hyn, gan ei bod yn ein galluogi i ddadansoddi'r sefyllfa yn fwy manwl ac, os gwelir fod tystiolaeth i gadarnhau'r honiad, i dargedu gweithgareddau penodol er mwyn cynnig cymorth ychwanegol i fechgyn.

Fe welir yn eithaf amlwg fod bechgyn yn ffurfio canrannau uwch ar y Lefelau 2 a 3, sef y rhai sy'n 'llai na boddhaol' (Un plentyn yn unig oedd ar Lefel 1 a honno yn ferch, felly ni ddylid rhoi gormod o ystyriaeth i'r 100% hwn) . Merched sy'n ffurfio'r canrannau uchaf ar y Lefelau 4 , 5 a 6 , sef y lefelau sy'n 'foddhaol neu well'. Mae'r ffigurau yn sicr yn cadarnhau'r gred fod bechgyn yn dioddef mwy o drafferthion darllen na merched yn y cyfnod hyd at 11 oed, ac yn awgrymu y dylid cymryd camau i leddfu'r broblem yn gynharach yn eu gyrfa addysgol.

 wpe14.jpg (10707 bytes)

Mae'r dystiolaeth ar gyfer y Gymraeg yn gyffredinol, h.y. agregiad o asesiadau Llafaredd, Darllen ac ysgrifennu sy'n deillio o Brofion a Thasgau CA2, 1996, hefyd yn cadarnhau'r dybiaeth hon:

' . . . bod 60% o ferched ar Lefel 4 neu'n uwch o'i gymharu â 46% o fechgyn.'

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn 1995 (Arolwg o'r Gymraeg yn Bwnc Craidd mewn Ysgolion Cynradd) dywedwyd gan yr Arolygaeth:

' Y mae safonau darllen yn anfoddhaol mewn nifer arwyddocaol o ddosbarthiadau ar draws ystod oedran CA2'

Ar y llaw arall, wele'r sylwadau a wneir am safonau darllen yn Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygwr (cyhoeddwyd Ionawr, 1997) :

'Yn CA2 yn arbennig, llesteirir cynnydd y disgyblion yn aml gan sgôp cyfyng y darllen y disgwylir iddynt ei wneud. . .'

'Mae safonau mewn darllen wedi gwella - i raddau helaeth oherwydd y pwysau trymach a roir ar hyrwyddo gallu'r disgyblion i ymchwilio am wybodaeth o wahanol ffynonellau. Mae'r profiad o ddefnyddio Profion y Cwricwlwm Cenedlaethol wedi helpu athrawon i wella ymateb y disgyblion i lenyddiaeth.'

Yn y cyfnod rhwng y ddau adroddiad hynny, sef 1995-1997, ymddengys fod cynnydd  wedi bod yn safonau darllen plant CA2 , ond fod rhai agweddau sydd eto yn ddiffygiol ac sydd angen sylw o safbwynt hyfforddiant athrawon ac o safbwynt arfer dda yn y dosbarth.

______________________________________________
Casgliadau
                                                                           

O ystyried tystiolaeth o sawl ffynhonnell, fel y ceisiwyd ei wneud yn yr adroddiad hwn, mae'n amlwg fod peth cyfiawnhad i'r pryder a fynegir am safonau darllen plant 7-11 oed. Anodd a chamarweiniol yw cyffredinoli, gan fynnu mai dulliau dysgu cyfoes yn unig sydd i gyfrif am y sefyllfa; mae'n fwy tebygol fod nifer o ffactorau yn gyfrifol - rhai yn ymwneud â dulliau, rhai yn ymwneud ag ansawdd y ddarpariaeth lyfrau yn rhai ysgolion a rhai yn ymwneud ag ymwybyddiaeth athrawon o'r sgiliau y mae plant eu hangen i'w galluogi i ymwneud yn hwylus â deunydd darllen   amrywiol. Mae'n ofynnol, yn wyneb y dystiolaeth, i gynnig cefnogaeth a hyfforddiant cyson i

athrawon. Gall natur a ffurf y gefnogaeth fod yn ddibynnol ar yr union angen, ond wele rai materion sy'n haeddu ein sylw:

1) Sicrhau cydlynedd a dilyniant rhwng CA1 a dechrau CA2 trwy ganolbwyntio hyfforddiant ar athrawon B3 a 4. Yn aml mae yna gri barhaus gan yr athrawon hyn am fwy o lyfrau sy'n pontio rhwng deunydd CA1 a llyfrau mwy swmpus ac 'anodd' ar gyfer darllenwyr hyderus iawn.

2) Meithrin uwch-sgiliau darllen yn CA2. Oherwydd fod gwaith plant ar draws y cwricwlwm yn aml yn ymwneud â thasgau ymchwiliol mae'n bwysig eu bod yn cael eu hyfforddi i ddeall a defnyddio nodweddion llyfrau fel teitlau capsiynau, tudalen gynnwys, a mynegai.

3) Sicrhau testunau darllen addas i'r plant ym mhob dosbarth. Yn y bôn mae'n ofynnol i blant gael darllen deunydd sy'n eu symbylu i 'ddarllen ymlaen'. Ond pan fo'r deunydd hwnnw yn rhy hawdd nid oes digon o sialens iddynt, o safbwynt geirfa, hyd y brawddegau neu amrywiaeth y cystrawennau. Ar y llaw arall, mae'n bwysig i athrawon beidio â chadw plant ar lyfrau sy'n peri eu bod yn darllen yn araf, sillafog, heb allu mwynhau rhediad yr ystyr.

4) Ehangu gwybodaeth athrawon o'r llyfrau cyfoes sydd ar gael. Gellid paratoi taflenni yn manylu ar y cyhoeddiadau diweddaraf a sefydlu arddangosfeydd dalgylchol o lyfrau, gyda chymorth y Gwasanaeth Llyfrgell.

5) Ystyried strategaethau i hybu dealltwriaeth o'r testunau a ddarllenir. Byddai'n fanteisiol i lunio gweithgareddau 'llyfryddol' sy'n annog plant i ymateb i'r testunau mewn ffyrdd amrywiol, trwy ymdrin â deunyddd sy'n gofyn am fathau gwahanol o ddeall.

6) Darparu cefnogaeth ychwanegol i fechgyn a'u cael i ymddiddori mewn llyfrau. O oedran cynnar mae'n bwysig iddynt deimlo eu bod yn llwyddo.

Len Jones