Yn ôl..

                          

SAFONAU AC ANSAWDD MEWN YSGOLION CYNRADD:
ASESU, CADW COFNODION A CHYFLWYNO ADRODDIADAU YN CA1 A CA2

Ymateb Awdurdod Addysg Gwynedd

CYNNWYS YR ADRODDIAD

SYLWADAU

Asesu Parhaus

Mae gan bron pob ysgol bolisi ysgrifenedig ar asesu. Mae mwy na 90% wedi enwebu athro/athrawes i gymryd cyfrifoldeb arbennig am y maes.

Pynciau craidd - boddhaol neu well mewn 85% o ddosbarthiadau CA1 ac mewn 80% o ddosbarthiadau CA2.

Pynciau sylfaen - diffygion mewn oddeutu 40% o ddosbarthiadau Ca1 a CA2.

Y meysydd gwanaf yw D&Th, TGC, addysg gorfforol ac addysg grefyddol.

Ymhlith yr arferion da y mae:

  • gweithredu polisi ysgol gyfan clir
  • defnyddio asesu i wella’r dysgu a’r addysgu
  • dealltwriaeth gadarn o’r meini prawf
  • cydbwysedd da o ran dulliau asesu
  • nodi cyfleoedd asesu yn y broses gynllunio
  • defnyddio asesu i bennu targedau gwelliant clir ar gyfer unigolion a grwpiau.
 

Nid oes unrhyw dystiolaeth o batrwm gwahanol yn ysgolion Gwynedd. Caiff mwyafrif yr ysgolion eu canmol, tra mae lleiafrif i’w cael yn brin yn y glorian. Yr arweiniad traddodiadol yng Ngwynedd ers 1988 oedd mai drwy gadw samplau o waith ynghyd â sylwadau dadansoddol y dylid cadw golwg ar gynnydd plant. Wrth i holl fanylion y CC gyrraedd ysgolion, gwelai mwyafrif ein hysgolion system o’r fath yn rhy anhylaw i gynnwys un pwnc ar ddeg.

Yn dilyn Adolygiad Dearing ym 1995 a’i neges mai ‘mater i ysgolion oedd eu trefniadau asesu mewnol’, cynigiwyd arweiniad ynghylch dulliau asesu’r pynciau craidd a sylfaen, ond nid aethpwyd ati i lunio polisi newydd.

Sefydlwyd gweithgor yn dilyn cais gan y GCSC yn Ionawr 1998 i adolygu’r arweiniad a gynigiwyd. Anfonwyd canllawiau newydd ar gyfer y pynciau sylfaenol i bob ysgol [gan gynnwys fersiwn Saesneg i’r ysgolion Catholig]. Mae dwy elfen wahanol yn yr offeryn newydd - mae’n gofnod ar gyfer y dosbarth cyfan, ac mae llawer llai o bwyslais ar gadw tystiolaeth ar wahân - mater i broffesiynoldeb athrawon yw hynny bellach. [Cred aelodau’r pwyllgor fod digon o dystiolaeth mewn dosbarth heb fod angen i athrawon gadw rhagor ohono ar wahân.]

Cadw cofnodion

Pynciau craidd - boddhaol neu well mewn 85-90% o ysgolion.

Pynciau sylfaen - boddhaol neu well mewn 60% o ysgolion.

Yn aml nid yw’r cofnodion o werth wrth i athrawon gyflwyno gwaith newydd. Mae gwendid parhaus yn y defnydd ar ddechrau CA2.

Ymhlith yr arferion da y mae:

gweithdrefnau clir a gaiff eu gweithredu’n gyson

cofnod ym mhob pwnc

cofnod o’r hyn gyflawnwyd a’r hyn a brofwyd

ceir cyfeiriad at enghreifftiau o waith

disgyblion yn cael rhan weithredol

defnyddir y cofnod i gynllunio’r cam nesaf

 

 

Gan i’r offeryn sylfaenol dderbyn croeso mor frwd, gofynnwyd i’r gweithgor geisio llunio offeryn ar gyfer y pynciau craidd a fuasai’n ysgafnhau gwaith athrawon yn yr un modd. Gwnaed hynny gyda chydweithrediad yr ymgynghorwyr pwnc. Wedi i aelodau’r gweithgor, ac un o arolygwyr SPAEM, weld y drafft terfynol a rhoi sêl bendith iddo, rhagwelir y bydd yn barod i’w ddanfon i ysgolion cyn diwedd mis Medi 1998.

Rydym yn hyderus y bydd y ddau offeryn newydd yn fodd i hybu mwy o arfer dda mewn ysgolion. Bydd dilyn y drefn newydd yn fodd i ysgolion gyfarfod â llawer o’r arferion da a restrir yn yr Adroddiad dan sylw.

Mae’r cyfeiriad at gadw cofnod i’r hyn a gyflawnwyd yn ymddangos yn chwithig. Mae pob athro/athrawes sy’n cynllunio’n ofalus yn gwybod beth sydd wedi’i gyflawni gyda’r dosbarth. Credir mai yn y ffeil gynllunio y dylid cadw’r wybodaeth hon, ac nid yn y cofnodion asesu.

 

Defnyddio enghreifftiau o waith y disgyblion

Mae bron pob athro/athrawes yn cadw enghreifftiau...i ddangos cyrhaeddiad. Mae’r defnydd o wneir o’r enghreifftiau i fonitro cynnydd wedi gwella, yn bennaf o ganlyniad i fentrau ysgol-gyfan diweddar i lunio plygellau sy’n dangos cyrhaeddiad yng ngwahanol lefelau’r CC.

Mewn 10-15% o ddosbarthiadau, mae meini prawf ar gyfer dethol a chadw...yn aneglur ac mae rhai o’r plygellau a gedwir ar gyfer disgyblion unigol yn rhy helaeth i fod o ddefnydd ymarferol.

 

Yn ôl yr arweiniad ddanfonwyd i ysgolion yn dilyn Adolygiad Dearing, nid oedd angen cyfundrefnau asesu gor-fanwl ac nid oedd angen cadw tystiolaeth ar wahân i fodloni gofynion arolygiad SPAEM.

Cred aelodau’r Gweithgor Asesu nad yw’n gwbl angenrheidiol i gadw samplau ar wahân gan bod llawer o’r wybodaeth ar gael yn barod yn y dosbarthiadau.

Rhagwelir y bydd yr offerynnau asesu newydd, ynghyd â’r arweiniad a anfonir i ysgolion, yn dileu’r arfer o gadw cofnodion rhy helaeth.

Mae mwyafrif o ysgolion Gwynedd naill ai wedi llunio portffolio o waith wedi’i asesu neu yn y broses o wneud hynny.

Marcio

Caiff gwaith ei farcio’n rheolaidd ym mhob dosbarth. Ceir arfer dda mewn oddeutu 70% o ddosbarthiadau. Pan nad yw’r marcio gystal, llawer ohono yn B3 a B4, defnyddir marcio’n aml i ddangos bod y gwaith wedi’i gwblhau yn hytrach nag i asesu pa mor dda mae wedi’i gyflawni.

 

Ceir nifer o sylwadau gwerthfawr yn yr Adroddiad sy’n cydfyned â’r math o arweiniad a roddir mewn cyrsiau niferus.

Bydd angen tynnu sylw at hyn wrth i’r pwyslais newydd ar godi safonau gyfeirio mwy o sylw i’r broses ysgrifennu o safbwynt datblygu llythrennedd plant.

Defnyddio testunau safonedig

Gwneir defnydd cynyddol o brofion safonedig, yn enwedig mewn darllen, sillafu, ac i raddau llai helaeth, mathemateg.

 

 

Defnyddir llawer mwy ar brofion yn ysgolion Gwynedd y dyddiau hyn, yn arbennig yn B2 a B6 wrth baratoi plant ar gyfer y profion statudol a hefyd yn B4 lle gwneir defnydd ohonynt i ganfod a yw’r targedau ar gyfer disgyblion unigol yn debygol o gael eu gwireddu.

Rhoddodd gwaith ‘Grwp Nottingham’ gryn bwyslais ar brofi plant. Bu holi mawr am brofion dewisol QCA ac am ddeunydd asesu dewisol ACCAC, a fydd yn barod erbyn Haf 1999.

Mae rhai ysgolion yn defnyddio profion safonedig er mwyn monitro perfformiad blwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n gymorth i nodi tueddiadau. Mewn rhai sefyllfaoedd, megis mewn ysgolion sy’n gweithio ar broject y ‘Marc Safon’, mae’n gallu arwain at bennu nodau heriol, mesuradwy ar gyfer gwelliant ysgol.

Cred rhai bod gormod o ddefnydd o brofion yn ein hysgolion y dyddiau hyn, a bod athrawon yn rhy barod i roi pwyslais mawr ar y canlyniadau yn hytrach na’u derbyn fel un elfen o dystiolaeth ymhlith llawer.

Cynnwys disgyblion mewn asesu

Mewn tua 40% o ddosbarthiadau, mae athrawon yn helpu’r disgyblion i fod yn fwy beirniadol o’u gwaith. Mae’r arfer yn arbennig o effeithiol pan

 

gaiff y meini prawf eu hesbonio’n glir ac y defnyddir yr asesiadau i helpu’r disgyblion i bennu eu targedau eu hunain ar gyfer gwella.

 

Bu Gwynedd yn flaengar iawn yn y maes hwn dros y blynyddoedd. Anfonwyd sawl pro forma i ysgolion a chynhaliwyd nifer o gyrsiau. Er hynny, ar wahân i rai enghreifftiau gloyw, ni ellir dweud fod hunan asesu yn

 

elfen amlwg yn arferion asesu ein hysgolion. Credir mai’r gorlwytho ar athrawon a diffyg amser sy’n bennaf gyfrifol am hyn.

Bu pwyslais amlwg ar gael athrawon i adnabod eu nodau addysgol a’u cyfleoedd asesu wrth i aelodau’r tîm ymgynghorol gynorthwyo athrawon i lunio cynlluniau gwaith pynciol, manwl.

Yn dilyn ymweliad grðp o athrawon â Northumberland y llynedd, a thrafodaeth o fewn y tîm ymgynghorol, mae’r pwyslais y dyddiau hyn wedi symud oddi wrth annog defnyddio taflenni hunan asesu at annog trafod nodau addysgol a meini prawf llwyddiant gyda’r disgyblion a’u cynnwys yn y broses dysgu ac addysgu.

Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i gwrs HMS diweddar ar y maes, ac mae nifer o ddalgylchoedd yn bwriadu rhoi sylw i’r maes yn eu rhaglenni HMS i’r dyfodol.

Profion a thasgau statudol

Yn gyffredinol, mae’r ysgolion yn ymdopi’n dda.

Darparwyd arian ar gyfer athrawon llanw i gynorthwyo athrawon i gwblhau’r tasgau asesu. Cymharol brin oedd yr ysgolion a ddefnyddiodd y ddarpariaeth gyflenwi ar gyfer cynorthwyo gyda’r gwaith o weinyddu’r tasgau a’r profion.


Effaith ar drefniadau addysgu

Cwtogir yn aml ar yr ystod arferol o weithgareddau. Ar adegau, caiff y profion eu gweinyddu mewn mannau megis y neuadd neu’r llyfrgell, gan rwystro dosbarthiadau eraill rhag eu defnyddio.

Ymateb y disgyblion i’r tasgau a’r profion

Caiff y tasgau a’r profion eu hintegreiddio’n llwyddiannus i drefniadau’r ystafell ddosbarth.

 

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mwynhau’r profion ac yn ymdopi’n dda â hwy. Lleiafrif o ddisgyblion gaiff eu haflonyddu gan y profion.

Ymateb yr athrawon

Teimla’r rhan fwyaf o athrawon fod y profion yn golygu cryn waith - er bod athrawon cyflenwi a

threfn farcio’n allanol. Teimlir bod y profion yn briodol yn gyffredinol.

Paratoi disgyblion

Prin yw’r dystiolaeth bod asesu’r CC yn cael llawer o effaith ar dechnegau addysgu.

Mae arwyddion o gulhau’r cwricwlwm yn ystod y mis cyn gweinyddu profion CA2 ym mis Mai.

Gwella’r dysgu a’r addysgu

Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn tynnu’n effeithiol ar eu profiad blaenorol o’r profion er mwyn gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu.

 

Pennu targedau ar gyfer gwelliant

Yn yr arfer orau, mae’r targedau wedi’u pennu yn y CDY ac mae’r AALl yn darparu meincnodau y gall athrawon bwyso a mesur eu perfformiad yn eu herbyn.

 

At ei gilydd, mae ysgolion Gwynedd yn ymdopi’n dda. Un o’r gwendidau pennaf yw amharodrwydd ACCAC i ddanfon copïau digonol o’r defnyddiau at swyddogion ac ymgynghorwyr. Mae’n anodd iawn cynnig cyngor i ysgolion heb i ni gael y manylion llawnaf posibl. [Cwynwyd am hyn mewn cyfarfod â swyddogion ACCAC ar 8 Gorffennaf a chafwyd addewid am adolygu’r drefn ym 1999.

Pennwyd y fformiwla ganlynol gan Gwynedd:

CA1

1 - 4 disgybl       1.5 dydd llanw

5 - 9 disgybl       2.5 dydd llanw

10 -14  disgybl   3.5 dydd llanw

yn cynyddu bob 5 disgybl at uchafswm o 10.5 diwrnod

CA2

1 - 28 disgybl    1.5 dydd llanw

29+    disgybl     2.5 dydd llanw

Mae mwyafrif yr ysgolion yn cyflogi athrawon llanw i oruchwylio disgyblion nad ydynt yn cael eu profi neu i ofalu am blant sydd ag AAA.

Yn ddiau, mae’r profion yn amharu ar y trefniadau arferol. Mewn rhai ysgolion, treulia plant chwe wythnos yn adolygu gan ddefnyddio cyn-bapurau. Clywir am blant yn treulio rhan helaethaf Tymor y Gwanwyn yn paratoi ar gyfer y profion.

 

Ni fuasai athrawon Gwynedd yn cytuno bod yr integreiddio’n llwyddiannus. Y drefn arferol yw neilltuo amser penodol i brofi ac anghofio am weithgareddau

 

arferol yn ystod y cyfnod. Fel y nodwyd uchod, digwydd hyn am gyfnod sylweddol o amser yn B6.

Nid oes tystiolaeth o bwysau neu ofid gormodol ymhlith y plant.

 

Y prif gwynion yw:

  • gorbwyslais ar gofio ffeithiau mewn gwyddoniaeth
  • diffyg amser yn y prawf darllen Cymraeg a Saesneg
  • amser annigonol i’r prawf ysgrifennu yn y Saesneg
  • plant L3 yn teimlo methiant mewn prawf L3 - L5

Cytunir â’r sylwadau hyn.


Un gwelliant amlwg yw fod pwyslais newydd, priodol ar weithio’n gyflymach yn B5 a B6 mewn llawer ysgol.

Gellir dweud hefyd fod ansawdd cynllunio cwricwlaidd yn dal i wella, a bod sylw da i gyflymder addysgu.

Siom, er hynny, yw canfod mai ychydig o sylw a roddir gan benaethiaid i adroddiadau’r Prif Farcwyr yn y pedwar pwnc craidd. Byddai gweithredu ar eu hargymhellion yn sicr o godi safonau mewn sawl ysgol.

Mae llawer ysgol wedi sylweddoli’n ddiweddar [o ganlyniad i gyrsiau HMS Sirol] bod angen codi safonau a chyflawniadau’r disgyblion, a bod y gyfundrefn asesu yn arf hanfodol i’r pwrpas hwnnw.

Mae’r gwaith ar baratoi meincnodau yn mynd rhagddo.

Cyswllt Cynradd/Uwchradd

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu cofnodion cynhwysfawr. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn awyddus i gydweithio a gwneud eu gorau i ddiwallu anghenion yr ysgolion uwchradd. Ychydig o adborth am ddefnyddioldeb y cofnodion ac am gynnydd dilynol y disgyblion a dderbynnir.

 

Dyma hefyd yw’r sefyllfa yng Ngwynedd.

Gwnaed peth gwaith yn Haf 1997 er mwyn adolygu’r sefyllfa er mwyn gwirio bod y trefniadau trosglwyddo yn esmwyth ym mhob dalgylch.

Adroddiadau i rieni

O leiaf yn foddhaol, ac yn aml yn dda, mewn rhyw 95% o ysgolion. Ceir tuedd i ganolbwyntio mwy ar ymdrech ac agwedd yn y pynciau sylfaenol.

Maent yn effeithiol pan:

mae polisïau ysgol gyfan clir

caiff y polisïau eu hadolygu’n rheolaidd

mae’r adroddiadau’n cydymffurfio’n llawn â’r gofynion statudol

mae cydbwysedd da rhwng sylwadau ar ymdrech ac agwedd a sylwadau am gyflawniad

mae’r adroddiadau yn gwneud yn glir i rieni yr hyn y mae’n rhaid i blant ei wneud i wella

cynigir cyngor ymarferol i rieni ar ffyrdd y gallant helpu eu plant i wella

rhoddir pwys ar ymatebion rhieni i adroddiadau

 

 

Rhoddwyd sylw i gynnwys Adroddiadau Blynyddol rhwng 1988 a 1995 pan oedd bri mawr ar gyrsiau asesu blynyddol.

Caiff ansawdd adroddiadau hefyd sylw wrth i ymgynghorwyr drefnu cynhaliaeth cyn-arolygiad.

Credir bod yr Adroddiad yn cynnig cyngor defnyddiol iawn i ysgolion.

Ychydig sy’n gwahodd ymateb ysgrifenedig gan rieni, ond y mae pob ysgol yn rhoi cyfle i drafod yr adroddiadau ar lafar.

Gan bod yr adroddiadau blynyddol yn cael eu darparu’n ganolog, sicrheir bod pob ysgol yn cyfarfod y gofynion statudol. Er mwyn gweithredu’n gost-effeithiol, ac oherwydd nad oedd pob ysgol yn anfon gwybodaeth gymharol gyda’r adroddiadau, newidiwyd y fformat yn Haf 1997. Cynhyrchir yr un math o adroddiad ar gyfer pob plentyn ond gydag atodiad yn cynnwys canlyniadau profion a gwybodaeth gymharol ar gyfer B2 a B6.

Cafwyd rhai cwynion ynghylch y drefn eleni [ond dim o gwbl yn 1997]. Mae’n well gan leiafrif o athrawon gael blychau yn yr adroddiad er mwyn rhoi’r lefelau wrth ymyl y sylwadau. Buasai gwneud hynny yn ein gorfodi i lunio offeryn gwahanol ar gyfer plant B1, 3 a 5; B2 a B6.

Yn wyneb y rheoliadau newydd ynghylch datganoli cyllid, mae angen ystyried a fyddwn yn darparu’r holl ddogfennaeth yn sirol o Haf 1999 ymlaen.

MATERION ALLWEDDOL I WEITHREDU ARNYNT

SYLWADAU

Mae angen parhaus am HMS, yn enwedig yn CA2 i wella gwybodaeth bwnc a medrau asesu athrawon.

Dylid atgyfnerthu mentrau da cyfredol o ran paratoi plygellau i enghreifftio cyrhaeddiad...

Mewn 40% o ysgolion, mae angen gwelliannau yn y gwaith o asesu’r pynciau sylfaenol ac addysg grefyddol.

Mewn hanner yr ysgolion, ond yn arbennig ar ddechrau CA2, dylid gwneud gwell defnydd o gofnodion asesu er mwyn hyrwyddo dilyniant yn yr addysgu a’r dysgu.

Mae angen gwella’r cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd...

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae angen am gydbwysedd gwell mewn adroddiadau ysgrifenedig i rieni rhwng sylwadau am ymdrech ac agwedd a sylwadau am gyflawniad.

Maen angen lledaenu yn ehangach fentrau da diweddar sy’n anelu at ddefnyddio canlyniadau asesu’r CC i nodi targedau clir ar gyfer gwelliant ysgol.

Cytunir â’r farn. Dylid sicrhau bod y neges hon yn cyrraedd clustiau’r cydgysylltwyr HMS.

Gall yr ymgynghorwyr pwnc gynnig arweiniad i’r cyfeiriad hwn.

Gellid cynnwys cyrsiau o’r fath yn y rhaglen HMS Sirol.

Mae’r offeryn newydd wedi cael derbyniad da.

Ffactor arall sydd angen ei hystyried yw’r cwtogi diweddar ar y CC, nad oedd yn yr arfaeth pan wnaed yr ymchwil ar gyfer yr Adroddiad.

Mae gwaith athrawon gwaelod CA2 yn haeddu sylw manwl. Teg yw ychwanegu bod athrawon Gwynedd wedi derbyn arweiniad manwl iawn ar gynllunio gan aelodau’r tîm ymgynghorol dros y pedair blynedd diwethaf.

Rhagwelir y bydd y pwyslais a roddir ar feithrin rhifedd a llythrennedd yn fodd i dynnu sylw athrawon at ddiffygion yn eu defnydd o wybodaeth asesu.

Mae hon yn eitem barhaus ar yr agenda sirol.

Mae’r mater yn cael sylw mewn cyfarfodydd cyn-arolygiad.

Hwyrach y gellid danfon llythyr i ysgolion gyda’r cyflenwad o adroddiadau ar gyfer 1999 i atgoffa penaethiaid am yr hanfodion.

Dyma faes sy’n cael sylw dwys yn y sir ar hyn o bryd.