POLISI IAITH GWYNEDD
ATODIAD 1
MODEL 1
YSGOLION A SEFYDLWYD OR NEWYDD I
DDARPARU ADDYSG DDWYIEITHOG
Nodweddion y Dalgylch
1. Fel rheol, ond nid bob amser, gwasanaethar
ysgolion hyn fwy nag un dalgylch ac weithiau fwy nag un sir.
2. Feu sefydlwyd mewn ardaloedd poblog a
Seisnigedig er mwyn cyflawni gofynion rhieni syn dymuno iw plant dderbyn
cyfran sylweddol ou haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Golyga hyn fod dewis i rieni
rhwng ysgolion yn y Model hwn ac un or ysgolion ym Model 4.
3. Derbynnir disgyblion syn Gymry cynhenid
neun ddysgwyr sydd mewn sefyllfa i fedru manteisio ar y ddarpariaeth
addysgol-ieithyddol a gynigir.
Natur Ieithyddol
1. Cynigir cyfran helaeth or addysg
drwyr Gymraeg ond gan ddiogelu hyfedredd y disgyblion yn y ddwy iaith.
2. Bydd holl staff yr ysgolion hyn yn broffesiynol
fedrus mewn Cymraeg a Saesneg.
3. Ethos Gymraeg sydd yn perthyn yn bennaf ir
Model hwn. Bydd angen ir ysgolion hyn gynllunion fwriadus i greu ethos mor
naturiol Gymraeg a Chymreig ag y bo modd.
Cymraeg fel Pwnc
Erbyn Bl.11, disgwylir y bydd pob disgybl sydd
âr gallu ganddo yn sefyll arholiad allanol mewn Cymraeg Iaith Gyntaf.
Cymraeg yn Gyfrwng
Yr ysgol, fel rhan oi pholisi iaith, fydd yn
pennu cyfrwng yr addysgu ar cydbwysedd ieithyddol angenrheidiol yn ôl dealltwriaeth
o anghenion dwyieithog disgyblion unigol.
1. Bydd mwyafrif y disgyblion yn Gymry cynhenid a
dysgwyr arbennig o fedrus mewn Cymraeg (sef Carfan A a B). Ar gyfer y rhain, rhoddir amser
sylweddol, sef o leiaf 70%, ir iaith Gymraeg ar draws y cwricwlwm o Bl.7-11, a
sicrheir amser priodol ir Saesneg drwy ddiffinion ofalus swyddogaeth yr Adran
Saesneg i gyflawnir canlynol:
cyflwyno terminoleg a geirfa allweddol yn Saesneg yn
y pynciau a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg;
cynllunio tasgau addas yn ôl y gofyn er mwyn i
ddisgyblion gael arfer Saesneg mewn rhai pynciau (megis unedau o waith, agweddau
detholedig ar bynciau neu gyfnodau o amser lle gweithir drwyr Saesneg) neu ddarparu
pynciau penodol yn Saesneg.
2. Dylair ysgolion hyn gynnig trefniant
dwyieithog arbennig ar gyfer dysgwyr (Carfan C1) syn dewis y math yma o ysgol.
Dylid trefnu:
naill ai
(a) darpariaeth frys yn ystod Bl.7 ac 8 i
ganolbwyntio ar amgenach meistrolaeth ar y Gymraeg fel bod dysgwyr yn medru astudio nifer
sylweddol o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn Bl.9 gyda disgyblion eraill;
neu
(b) darparu cyfuniad syn cynnwys rhai pynciau
drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig (30%), rhai drwy gyfrwng y Saesneg yn unig (20%) ac eraill
drwy drefniant dwyieithog cwbl fwriadus (50%).
Yn Bl.10 ac 11, y nod yw ir disgyblion hyn
sefyll rhai arholiadau drwyr Gymraeg ar gweddill drwyr Saesneg.
Y Chweched Dosbarth
Rhaid i natur y cyfrwng addysgu yn Bl.12 ac 13
sicrhaur dilyniant ar cydbwysedd ieithyddol blaenorol, gan gynnwys yr elfen
gyfathrebol yn y Cyrsiau Astudiaethau Cyffredinol.
MODEL 2 (i)
YSGOLION Â THROS 600 O BLANT MEWN ARDALOEDD
CYMRAEG
Nodweddion y Dalgylch
1. Yn wahanol i ysgolion ym Model 1, y maer
ysgolion hyn yn gwasanaethu holl blant uwchradd y dalgylch.
2. Mae maint yr ysgolion hyn au cefndir
ieithyddol yn caniatáu darpariaeth ddwyieithog gyffelyb i Fodel 1.
Natur Ieithyddol
1. Dylai nod cyffredinol polisi iaith ysgol yn y
Model hwn fod yn debyg iawn ir model cyntaf ond fe fydd gwahaniaethau yn anochel
oherwydd yr amrediad eang iawn o ran cyrhaeddiad yn y Gymraeg sydd yn bresennol yn yr
ysgolion hyn or mwyafrif cynhenid Gymraeg drwy ystod o gyraeddiadau ail iaith
at hwyrddyfodiaid i Wynedd.
2. I gyflawnir nod hwn, bydd yn rhaid
ymgyrraedd at sefyllfa lle maer holl athrawon yn gallu addysgu drwy gyfrwng y ddwy
iaith.
3. Bydd angen ir ysgolion hyn ddiogelur
ethos Gymraeg syn gynhenid ir ardal a hyrwyddon fwriadus y dimensiwn
Cymreig yn y cwricwlwm.
Cymraeg fel Pwnc
Ochr yn ochr â Saesneg, fe addysgir Cymraeg fel
pwnc ir holl ddisgyblion hyd at Bl.11. Bydd y Cymry cynhenid ar dysgwyr
llwyddiannus iawn (Carfan A, B ac C1) yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Iaith Gyntaf ac
yn sefyll y profion ar arholiadau allanol Iaith Gyntaf. Yr un ywr nod gyda
dysgwyr yn gyffredinol, ond bydd hwyrddyfodiaid yr ysgolion uwchradd hyn yn dilyn
Rhaglenni Astudio Cymraeg Ail Iaith.
Cymraeg yn Gyfrwng
Yn ystod Bl.7-9, gwneir darpariaeth ar dair lefel.
Bwriedir 1 a 2 isod ar gyfer Cymry cynhenid a dysgwyr llwyddiannus iawn (Carfan A, B ac
C1) a 3 ar gyfer dysgwyr eraill (C2). Ni ddylid dehonglir canrannau isod yn
llythrennol yn ôl pynciau penodol ond yn hytrach yn ôl y cyswllt ieithyddol.
1 Bydd y ddarpariaeth hon ar gyfer mwyafrif y
disgyblion, sef o leiaf 70% drwyr Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc.
2 Ar gyfer disgyblion syn fedrus iawn yn y
Gymraeg (Carfan C1), sef 50% or cwricwlwm drwyr Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg
fel pwnc (h.y. golyga hyn dri phwnc yn cynnwys Cymraeg).
3 Darperir tua 30% or cwricwlwm drwyr Gymraeg, gan
gynnwys y Gymraeg fel pwnc, ar gyfer disgyblion syn dal i ddatblygu yn y Gymraeg
(C2).
Gwneir darpariaeth ar wahân ar gyfer
hwyrddyfodiaid.
Yn ystod Bl.10 ac 11, bydd o leiaf 30% or cwricwlwm drwyr Gymraeg i Gymry
cynhenid a dysgwyr llwyddiannus iawn a bydd cyfrwng Cymraeg yn ddewisol i ddysgwyr eraill.
Dylai 40% ychwanegol fod yn ddewisol o ran cyfrwng,
gan adael 30% drwy gyfrwng Saesneg.
Addysgu Dwyieithog Cyfochrog
Pan orfodir hyd yn oed ysgolion o faint y Model hwn
i drefnu grwpiau ieithyddol-gymysg ar ôl Bl.9 mewn pynciau lleiafrifol, rhaid wrth ofal
arbennig. Gofynnir am ddarparu deunyddiau ymlaen llaw yn y ddwy iaith ac am elfen o
addysgu drwy ddulliau grðp. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, y mae addysgu syn rhy
athro-ganolog yn llesteiriol.
Dylid mabwysiadu dulliau addysgu syn fwy
disgybl-ganolog gydar athro/athrawes yn arweinydd ac yn gymorth. Y mae annerch
dosbarth cyfan mewn dwy iaith yn gyfartal, a hynnyn gyson, yn faich ar yr
athro/athrawes ac yn gwastraffu amser prin.
Y Chweched Dosbarth
Fel gyda Model 1, maen rhaid ir cyfrwng addysgu adlewyrchur addysgu
blaenorol.
MODEL 2 (ii)
YSGOLION Â THROS 600 O BLANT MEWN
DALGYLCHOEDD CYMYSG IEITHYDDOL
Nodweddion y Dalgylch
1. Fel ym Model 2 (i), gwasanaethar ysgolion
holl blant y dalgylch.
2. Maent mewn ardaloedd a fu, hyd yn ddiweddar, yn ardaloedd Cymraeg
ond Seisnigeiddiwyd hwy bellach
Natur Ieithyddol
1. Gall adnoddau a chefndir ieithyddol y Model hwn
ganiatáu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar dair lefel fel ym Model 2 (i) yn Bl.7-9, ond bydd
nifer y grwpiau yn amrywio.
2. Yn Bl.10-11, cynigir yr un ddarpariaeth ag ym
Model 1 ond bydd rhai cyfyngiadau oherwydd maint y grwpiau a chymhwyster ieithyddol y
staff ar hyn o bryd.
3. Er na all yr holl staff ar hyn o bryd
ddefnyddior Gymraeg yn broffesiynol, y mae maint yr ysgolion hyn yn eu galluogi i
ddarparu llawer iawn ou cwricwlwm yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg yn y blynyddoedd
hyn.
4. Bydd angen ir ysgolion hyn adeiladu ar
Gymreigrwydd cynhenid eu hardaloedd ai atgyfnerthu wrth ddatblygu ethos yr ysgol a
hyrwyddon fwriadus y dimensiwn Cymreig yn y cwricwlwm.
Cymraeg fel Pwnc
Ochr yn ochr â Saesneg, fe addysgir Cymraeg fel
pwnc ir holl ddisgyblion hyd at Bl.11. Bydd y Cymry cynhenid ar dysgwyr
llwyddiannus iawn (Carfan A, B ac C1) yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Iaith Gyntaf ac
yn sefyll profion ac arholiadau allanol Iaith Gyntaf. Yr un ywr nod gydar
dysgwyr yn gyffredinol ond bydd hwyrddyfodiaid ir ysgolion uwchradd hyn yn dilyn
Rhaglenni Astudio Cymraeg Ail Iaith.
Cymraeg yn Gyfrwng
Yn ystod Bl.7-9, gwneir darpariaeth ar dair lefel:
1 Dylid paratoi cyfrwng Cymraeg eang fel ym Modelau
1 a 2 (i) ar gyfer disgyblion Carfan A a B gydar ystyriaethau a grybwyllwyd mewn
perthynas â medr yn Saesneg.
2 Gyda dysgwyr Carfan C1, dylid darparu tua 30%
ou cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â darpariaeth ddwyieithog.
3 Gydar dysgwyr mwy cyffredin eu cyrhaeddiad
mewn Cymraeg (Carfan C2), dylid darparu tua 20% ou cwricwlwm yn Gymraeg, yn arbennig
yn y meysydd mwy ymarferol, i ategu ac atgyfnerthu eu medr yn eu hail iaith.
Yn ystod Bl.10 ac 11, dylid darparu o leiaf 30%
or cwricwlwm drwyr Gymraeg i ddisgyblion Carfan A, B ac C1 a bydd cyfrwng
Cymraeg yn ddewisol i ddysgwyr eraill.
Addysgu Dwyieithog Cyfochrog
Pan orfodir hyd yn oed ysgolion o faint y Model hwn
i drefnu grwpiau ieithyddol-gymysg ar ôl Bl.9 mewn pynciau lleiafrifol, rhaid wrth ofal
arbennig. Gofynnir am ddarparu deunyddiau ymlaen llaw yn y ddwy iaith ac am elfen o
addysgu drwy ddulliau grðp. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, y mae addysgu syn rhy
athro-ganolog yn llesteiriol.
Dylid mabwysiadu dulliau addysgu syn fwy
disgybl-ganolog, gydar athro/athrawes yn arweinydd ac yn gymorth. Y mae annerch
dosbarth cyfan mewn dwy iaith yn gyfartal, a hynnyn gyson, yn faich ar yr
athro/athrawes ac yn gwastraffu amser prin.
Y Chweched Dosbarth
Fel gyda Model 1, rhaid ir cyfrwng addysgu
adlewyrchur addysgu blaenorol.
MODEL 3 (i)
YSGOLION O DAN 600 MEWN DALGYLCHOEDD CYMRAEG
Nodweddion y Dalgylch
1. Maer ysgolion yn y model hwn wedi arfer
gwasanaethu holl blant uwchradd y dalgylch.
2. Mae dalgylchoedd yr ysgolion yn y model hwn wedi
aros yn Gymraeg iawn ond fe geir ychydig o hwyrddyfodiaid o bryd iw gilydd yn y
dalgylch. Er eu bod wedi eu lleoli mewn trefi bychain, cefndir gwledig sydd ir
ysgolion hyn.
Natur Ieithyddol
1. Maint ywr ffactor allweddol yn y model hwn.
Mae nifer y grwpiau dysgu y gellir eu darparu yn gyfyngedig ac mae hyn yn dylanwadu ar y
modd y gellir gwneud darpariaeth yn y ddau gyfrwng. Hynny yw, ni ellir darparu dewis
cyfrwng yn yr un modd ag mewn ysgol fwy.
2. Gwneir darpariaeth ar ddwy lefel ieithyddol:
Cymry cynhenid a dysgwyr rhugl (Carfan A a B) sydd
yn y mwyafrif yn yr ysgolion hyn.
Dysgwyr syn datblygun foddhaol (Carfan
C1).
Bydd darpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid di-Gymraeg drwy drefniant
arbennig, megis eu lleoli mewn ysgol gyfagos.
3. Bydd medr ieithyddol yr athrawon yn y model hwn
yn gyfryw ag ym Model 2 (i).
4. Ethos Gymraeg yn adlewyrchu Cymreigrwydd eu
hardaloedd sydd ir ysgolion hyn.
Cymraeg fel Pwnc
Ochr yn ochr â Saesneg, fel addysgir Cymraeg fel
pwnc ir holl ddisgyblion hyd at Bl.11. Bydd y Cymry cynhenid a mwyafrif y dysgwyr yn
dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Iaith Gyntaf ac yn sefyll profion ac arholiadau allanol
Iaith Gyntaf. Bydd hwyrddyfodiaid yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Ail Iaith.
Cymraeg yn Gyfrwng
Yn ystod Bl.7-9, er mwyn sicrhau cyfrwng Cymraeg,
fel sydd ar gael yn Model 2 (i), rhaid ystyried mai dim ond darpariaeth Gymraeg syn
bosibl ar gyfer hanner y cwricwlwm. Gwneir darpariaeth arbennig gan yr Awdurdod ar gyfer
dysgwyr sydd yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Ail Iaith.
Yr ysgol, fel rhan oi pholisi iaith, fydd yn
pennu cyfrwng yr addysgu ar cydbwysedd ieithyddol angenrheidiol yn ôl ei
dealltwriaeth o anghenion dwyieithog disgyblion unigol.
1. Bydd mwyafrif y disgyblion yn Gymry cynhenid a
dysgwyr arbennig o fedrus mewn Cymraeg (A, B neu C1). Rhoddir amser sylweddol, sef o leiaf
70%, ir iaith Gymraeg ar draws y cwricwlwm a diogelir hyfedredd y disgyblion yn
Saesneg drwy weithredu fel a ganlyn:
diffinion ofalus swyddogaeth yr Adran Saesneg;
cyflwyno terminoleg a geirfa allweddol yn Saesneg yn
y pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg;
cynllunio tasgau addas yn ôl y gofyn er mwyn i
ddisgyblion gael arfer Saesneg mewn rhai pynciau (megis unedau o waith, agweddau
detholedig ar bynciau neu gyfnodau o amser lle gweithir drwyr Saesneg) neu ddarparu
pynciau penodol yn Saesneg.
2. Dylair ysgolion hyn gynnig trefniant
dwyieithog arbennig ar gyfer dysgwyr (Carfan C2) syn dewis y math yma o ysgol.
Trefnir darpariaeth frys yn ystod Bl.7 a 9 i
ganolbwyntio ar amgenach meistrolaeth ar y Gymraeg fel bod dysgwyr (Carfan C2) yn medru
astudio nifer sylweddol o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn Bl. 9.
Yn ystod Bl.10 ac 11, rhaid sicrhau bod dilyniant
ir ddarpariaeth yn Bl.7-9. Gall hyn olygu mwy o drefniadau dwyieithog a
dylid ceisio cyfyngu darpariaeth or fath ir pynciau ar grwpiau mwyaf
addas lle ceir cyfle i lawer o waith unigol a lle maer niferoedd mewn grwpiau yn
rhesymol. Noder y sylwadau ar Addysgu Dwyieithog Cyfochrog ym Model 2 (i).
Y Chweched Dosbarth
Rhaid i natur y cyfrwng dysgu yn Bl.10 ac 11
sicrhaur dilyniant ar cydbwysedd ieithyddol blaenorol gan gynnwys yr elfen
gyfathrebol yn y Cyrsiau Astudiaethau Cyffredinol.
MODEL 3 (ii)
YSGOLION O DAN 600 MEWN DALGYLCHOEDD
IEITHYDDOL GYMYSG
Nodweddion y Dalgylch
1. Y maer ysgolion hyn wedi arfer gwasanaethu
holl blant uwchradd y dalgylch.
2. Mae dalgylch yr ysgolion hyn yn enghraifft o
ardal sydd wedi Seisnigon sylweddol ers amser, a lle mae gostyngiad pellach wedi
digwydd yn niferoedd y disgyblion cynhenid Gymraeg a lle ceir nifer o hwyrddyfodiaid.
3. Ni cheir ysgol arbennig fel ym Model 1 ar gyfer
disgyblion cynhenid Gymraeg yr ardal ac felly nid ywr Cymry cynhenid lawn gymaint o
leiafrif ag ym Model 4 a disgwyliant gael addysg ddwyieithog yn eu hysgol eu hunain.
Natur Ieithyddol
1. Dysgwyr y Gymraeg (Carfan C1 a 2) yw mwyafrif
plant y Model hwn ond mae Cymry cynhenid a rhai dysgwyr llwyddiannus iawn (Carfan A a B)
yn lleiafrif pwysig sydd âr hawl i gael darpariaeth ddwyieithog.
2. Y mae darpariaeth ddwyieithog mewn ysgolion mor
fach yn hynod o anodd. Rhaid wrth grwpio arbennig a methodoleg ymwybodol iawn i allu
cyflwyno addysg ddwyieithog.
3. Bydd angen ir ysgolion hyn adeiladu ar
Gymreigrwydd cynhenid eu hardaloedd ai atgyfnerthu wrth ddatblygu ethos yr ysgol a
hyrwyddon fwriadus y dimensiwn Cymreig yn y cwricwlwm.
4. Er na all yr holl staff ar hyn o bryd
ddefnyddior Gymraeg yn broffesiynol, y mae maint yr ysgolion hyn yn eu galluogi i
ddarparu llawer iawn ou cwricwlwm yn y Gymraeg yn ogystal âr Saesneg yn y
blynyddoedd hyn.
Cymraeg fel Pwnc
Ochr yn ochr â Saesneg, fe addysgir Cymraeg fel
pwnc ir holl ddisgyblion hyd at ddiwedd Bl.11. Bydd y Cymry cynhenid ar
dysgwyr sydd âr gallu ganddynt yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Iaith Gyntaf ac
yn sefyll profion ac arholiadau allanol Iaith Gyntaf.
Bydd hwyrddyfodiaid yn dilyn Rhaglenni Astudio
Cymraeg Ail Iaith.
Cymraeg yn Gyfrwng
Yn ystod Bl.7-9, gwneir darpariaeth ar dair lefel.
Oherwydd y nifer cyfyngedig o ddisgyblion, ni fydd modd bob amser i gynnal dosbarthiadau
ar wahân i Garfannau A, B ac C1 a bydd gofyn eu hystyried yn grwpiau gwahanol o fewn yr
un dosbarth. Ni ddylid dehonglir canrannau isod yn llythrennol yn ôl pynciau
penodol ond yn hytrach yn ôl y cyswllt ieithyddol.
1 Bydd y ddarpariaeth hon ar gyfer Cymry cynhenid a
dysgwyr llwyddiannus iawn (Carfan A a B), sef o leiaf 70% drwyr Gymraeg, gan gynnwys
Cymraeg fel pwnc.
2 Bydd y ddarpariaeth hon o bosibl yn cydredeg yn yr
un dosbarth âr ddarpariaeth a nodir o dan 1 uchod, sef tua 50% drwyr Gymraeg
ar gyfer Carfan C1. Gall y gwahaniaeth rhwng gwaith carfan A, B ac C1 ddigwydd drwy
gyflwyno agweddau ar bwnc drwyr Gymraeg a thrwy amrywio ym mha un or ddwy
iaith y mae disgwyl ir disgyblion weithredu yn enwedig yn ysgrifenedig.
3 Darperir tua 30% or cwricwlwm drwyr
Gymraeg, gan gynnwys Cymraeg fel pwnc, ar gyfer disgylbion syn dal i ddatblygu mewn
Cymraeg, sef Carfan C2.
Yn ystod Bl.10 ac 11, bydd angen ir Awdurdod
Addysg wneud rhai darpariaethau o ran adnoddau i alluogi unrhyw ysgol yn y Model hwn i
gynnal dilyniant ir addysg ddwyieithog ar ôl Bl.9.
Y Chweched Dosbarth
Rhaid i natur y cyfrwng addysgu yn Bl.12 ac 13
sicrhaur dilyniant ar cydbwysedd ieithyddol blaenorol gan gynnwys yr elfen
gyfathrebol yn y Cyrsiau Astudiaethau Cyffredinol.
MODEL 4
YSGOLION MAWRION LLE NAD OES FAWR DDIM CYMRY
CYNHENID
Nodweddion y Dalgylch
1. Yn hanesyddol, bur ysgolion hyn yn
gwasanaethu holl plant uwchradd y dalgylch ond bellach rhannant ddalgylch gydag ysgolion
Model 1.
2. Golyga hyn fod mwyafrif y Cymry cynhenid a rhai
dysgwyr da iawn wedi dewis Model 1 a chyfle i wneud pynciau drwyr Gymraeg, ond deil
rhai ohonynt i ddewis Model 4.
3. Y maer ysgolion yn y Model hwn mewn
ardaloedd poblog, trefol a Seisnigedig ac mae ynddynt 1,000 neu ragor o blant.
Natur Ieithyddol
1. Dysgwyr Cymraeg (Carfan C1 ac C2) yw mwyafrif
llethol y disgyblion sydd wedi dewis Model 4. Y mae nifer cynyddol ohonynt yn gallu
cyfathrebu yn Gymraeg (Carfan C1) ac er mai dysgwyr ydynt, rhydd hyn gyfrifoldeb arbennig
ar yr ysgolion ym Model 4 i ddatblygu eu dwyieithrwydd ymhellach. Y mae cyfrifoldeb hefyd
tuag at ddwyieithrwydd yr ychydig Gymry cynhenid (Carfan A a B) sydd wedi dewis y Model
hwn yn hytrach na Model 1.
2. Y mae mwyafrif yr athrawon yn ddwyieithog ond y
mae cyfran sylweddol heb brofiad o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
3. Er mwyn atgyfnerthu gweithrediad y polisi iaith,
bydd angen rhoi sylw gofalus i ddatblygu ethos mor Gymraeg a Chymreig ag y bo modd.
Cymraeg fel Pwnc
Ochr yn ochr âr Saesneg, fe ddysgir Cymraeg
fel pwnc ir holl ddisgyblion hyd at Bl.11. Dylair Cymry cynhenid ar
dysgwyr da ddilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Iaith Gyntaf. Fel y bydd y Polisi Iaith yn
llwyddo, disgwylir y bydd y rhan fwyaf or dysgwyr eraill yn pontio.
Y mae maint yr ysgolion hyn yn golygu y gallant
ddarparu dosbarthiadau i ateb amrediad y gofynion Cymraeg ail iaith yn well nar un
Model arall.
Cymraeg yn Gyfrwng
Yn ystod Bl.7-9, dylid paratoi cefnogaeth ychwanegol
i waith yr Adran Gymraeg ar ddwy lefel.
1 Dylair dysgwyr Carfan C1 gael cefnogaeth
iw Cymraeg yn ystod amser addysgu rhai pynciau eraill. Dylid gwneud hyn drwy gyfrwng
unedau o waith, modiwlau, neu gyfle i drafod yn Gymraeg fel eu bod mewn cyswllt âr
Gymraeg mewn tua 30% or cwricwlwm, gan gynnwys Cymraeg fel pwnc.
2 Dylai disgyblion Carfan C2 hefyd gael ategiad
iw Cymraeg am tua 20% ou hamser, yn arbennig o ran cyfle i drafod yn Gymraeg a
chyfathrebu ag athrawon. Ni fydd hyn yn bosibl heb bolisi ysgol a dealltwriaeth a
chyfraniad ar ran aelodau staff nad ydynt yn aelodau or Adran Gymraeg. Dylair
holl staff ddeall gyda pha ddosbarthiadau y gellir cynnal sgwrs yn Gymraeg.
Yn ystod Bl.10 ac 11 - Drwy drafodaeth gydar
Awdurdod Addysg, dylid ystyried sut y gallair Cymry cynhenid ar dysgwyr gorau
ddal i gyflawni rhai gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddulliau modiwlar neu drwy
ddilyn rhai pynciau yn ddwyieithog, yn enwedig ar lafar. Dylai dysgwyr eraill hefyd gael
cyfle i sgwrsio yn anffurfiol mewn gwersi mewn pynciau y tu allan ir Adran Gymraeg.
Ni ddylid dehongli unrhyw ganrannau a nodwyd yn
llythrennol yng nghyd-destun pynciau penodol.
Gweinyddiaeth a Threfn
Gan fagu traddodiad newydd yn y blynyddoedd cynnar,
rhaid ir ysgolion yn y Model hwn adlewyrchu Cymreictod yn eu gweinyddiad au
trefniadau. Bydd cyd-weithrediad y staff yn hollbwysig i wireddu arweiniad gan bennaeth yr
ysgol. Rhaid wrth bolisi hollol glir ar y dull o ddefnyddio Cymraeg a Saesneg yng
ngweinyddiad a threfniant yr ysgol. Dylair polisi roi arweiniad ar hysbysfyrddau,
arwyddion, memoranda, llythyrau, gwybodaeth i rieni, gwasanaeth boreol, cyhoeddiadau,
adroddiadau, trefn a disgyblu. Dylair Adran Gymraeg argymell ffurfiau ieithyddol ar
gyfer rhai or gweithgareddau hyn sydd yn sicr o fewn dealltwriaeth y rhan fwyaf
or dysgwyr. |