Yn ôl..

POLISI IAITH MÔN

ATODIAD 1

MODEL 1

YSGOLION Â THROS 600 O BLANT MEWN ARDALOEDD CYMRAEG

Nodweddion y Dalgylch

1. Y mae’r ysgolion hyn yn gwasanaethu holl blant uwchradd y dalgylch.

2. Mae maint yr ysgolion hyn a’u cefndir ieithyddol yn caniatáu darpariaeth ddwyieithog.

Natur Ieithyddol

1. Nod cyffredinol polisi iaith ysgol yn y model hwn fydd ateb anghenion yr unigolyn ond fe fydd gwahaniaethau yn anochel oherwydd yr amrediad eang iawn o ran cyrhaeddiad yn y Gymraeg sydd yn bresennol yn yr ysgolion hyn – o’r mwyafrif cynhenid Gymraeg drwy ystod o gyraeddiadau ail iaith at hwyrddyfodiaid i Ynys Môn.

2. I gyflawni’r nod hwn, bydd yn rhaid ymgyrraedd at sefyllfa lle mae’r holl athrawon yn gallu addysgu drwy gyfrwng y ddwy iaith.

3. Bydd angen i’r ysgolion hyn ddiogelu’r ethos Gymraeg sy’n gynhenid i’r ardal a hyrwyddo’n fwriadus y dimensiwn Cymreig yn y cwricwlwm.

Cymraeg fel Pwnc

Ochr yn ochr â Saesneg, fe addysgir Cymraeg fel pwnc i’r holl ddisgyblion hyd at Bl.11. Bydd y Cymry cynhenid a’r dysgwyr llwyddiannus iawn (Carfan A, B ac C1) yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg ac yn sefyll y profion a’r arholiadau allanol Iaith Gyntaf. Yr un yw’r nod gyda dysgwyr yn gyffredinol, ond bydd hwyrddyfodiaid yr ysgolion uwchradd hyn yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Ail Iaith.

Cymraeg yn Gyfrwng

Yn ystod Bl.7-9, gwneir darpariaeth ar dair lefel. Bwriedir 1 a 2 isod ar gyfer Cymry cynhenid a dysgwyr llwyddiannus iawn (Carfan A, B ac C1) a 3 ar gyfer dysgwyr eraill (C2). Ni ddylid dehongli’r canrannau isod yn llythrennol yn ôl pynciau penodol ond yn hytrach yn ôl y cyswllt ieithyddol.

1 Bydd y ddarpariaeth hon ar gyfer mwyafrif y disgyblion, sef o leiaf 70% drwy’r Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc.

2 Ar gyfer disgyblion sy’n fedrus iawn yn y Gymraeg (Carfan C1), sef 50% o’r cwricwlwm drwy’r Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc (h.y. golyga hyn dri phwnc yn cynnwys Cymraeg).

3 Darperir tua 30% o’r cwricwlwm drwy’r Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc, ar gyfer disgyblion sy’n dal i ddatblygu yn y Gymraeg (C2).

Gwneir darpariaeth ar wahân ar gyfer hwyrddyfodiaid.

Yn ystod Bl.10 ac 11, bydd o leiaf 30% o’r cwricwlwm drwy’r Gymraeg i Gymry cynhenid a dysgwyr llwyddiannus iawn a bydd cyfrwng Cymraeg yn ddewisol i ddysgwyr eraill.

Dylai 40% ychwanegol fod yn ddewisol o ran cyfrwng, gan adael 30% drwy gyfrwng Saesneg.

Addysgu Dwyieithog Cyfochrog

Pan orfodir hyd yn oed ysgolion o faint y Model hwn i drefnu grwpiau ieithyddol-gymysg ar ôl Bl.9 mewn pynciau lleiafrifol, rhaid wrth ofal arbennig. Gofynnir am ddarparu deunyddiau ymlaen llaw yn y ddwy iaith ac am elfen o addysgu drwy ddulliau grðp. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, y mae addysgu sy’n rhy athro-ganolog yn llesteiriol.

Dylid mabwysiadu dulliau addysgu sy’n fwy disgybl-ganolog gyda’r athro/athrawes yn arweinydd ac yn gymorth. Y mae annerch dosbarth cyfan mewn dwy iaith yn gyfartal, a hynny’n gyson, yn faich ar yr athro/athrawes ac yn gwastraffu amser prin.

Y Chweched Dosbarth

Mae’n rhaid i’r cyfrwng addysgu adlewyrchu’r addysgu blaenorol.

 

MODEL 2

YSGOLION Â THROS 600 O BLANT MEWN DALGYLCHOEDD CYMYSG IEITHYDDOL

Nodweddion y Dalgylch

1. Fel ym Model 1, gwasanaetha’r ysgolion holl blant y dalgylch.

2. Maent mewn ardaloedd a fu, hyd yn ddiweddar, yn ardaloedd Cymraeg ond Seisnigeiddiwyd hwy bellach.

Natur Ieithyddol

1. Gall adnoddau a chefndir ieithyddol y Model hwn ganiatáu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar dair lefel fel ym Model 1 yn Bl.7-9, ond bydd nifer y grwpiau yn amrywio.

2. Yn Bl.10-11, cynigir yr un ddarpariaeth ag ym Model 1 ond bydd rhai cyfyngiadau oherwydd maint y grwpiau a chymhwyster ieithyddol y staff ar hyn o bryd.

3. Er na all yr holl staff ar hyn o bryd ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol, y mae maint yr ysgolion hyn yn eu galluogi i ddarparu llawer iawn o’u cwricwlwm yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg yn y blynyddoedd hyn.

4. Bydd angen i’r ysgolion hyn adeiladu ar Gymreigrwydd cynhenid eu hardaloedd a’i atgyfnerthu wrth ddatblygu ethos yr ysgol a hyrwyddo’n fwriadus y dimensiwn Cymreig yn y cwricwlwm.

Cymraeg fel Pwnc

Ochr yn ochr â Saesneg, fe addysgir Cymraeg fel pwnc i’r holl ddisgyblion hyd at Bl.11. Bydd y Cymry cynhenid a’r dysgwyr llwyddiannus iawn (Carfan A, B ac C1) yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg ac yn sefyll profion ac arholiadau allanol Iaith Gyntaf. Yr un yw’r nod gyda’r dysgwyr yn gyffredinol ond bydd hwyrddyfodiaid i’r ysgolion uwchradd hyn yn dilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Ail Iaith.

Cymraeg yn Gyfrwng

Yn ystod Bl.7-9, gwneir darpariaeth ar dair lefel:

1 Dylid paratoi cyfrwng Cymraeg eang fel ym Model 1 ar gyfer disgyblion Carfan A a B gyda’r ysyriaethau a grybwyllwyd mewn perthynas â medr yn Saesneg.

2 Gyda dysgwyr Carfan C1, dylid darparu tua 30% o’u cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd â darpariaeth ddwyieithog.

3 Gyda’r dysgwyr mwy cyffredin eu cyrhaeddiad mewn Cymraeg (Carfan C2), dylid darparu tua 20% o’u cwricwlwm yn Gymraeg, yn arbennig yn y meysydd mwy ymarferol, i ategu ac atgyfnerthu eu medr yn eu hail iaith.

Yn ystod Bl.10 ac 11, dylid darparu o leiaf 30% o’r cwricwlwm drwy’r Gymraeg i ddisgyblion Carfan A, B ac C1 a bydd cyfrwng Cymraeg yn ddewisol i ddysgwyr eraill.

Addysgu Dwyieithog Cyfochrog

Pan orfodir hyd yn oed ysgolion o faint y Model hwn i drefnu grwpiau ieithyddol-gymysg ar ôl Bl.9 mewn pynciau lleiafrifol, rhaid wrth ofal arbennig. Gofynnir am ddarparu deunyddiau ymlaen llaw yn y ddwy iaith ac am elfen o addysgu drwy ddulliau grðp. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, y mae addysgu sy’n rhy athro-ganolog yn llesteiriol.

Dylid mabwysiadu dulliau addysgu sy’n fwy disgybl-ganolog, gyda’r athro/athrawes yn arweinydd ac yn gymorth. Y mae annerch dosbarth cyfan mewn dwy iaith yn gyfartal, a hynny’n gyson, yn faich ar yr athro/athrawes ac yn gwastraffu amser prin.

Y Chweched Dosbarth

Fel gyda Model 1, rhaid i’r cyfrwng addysgu adlewyrchu’r addysgu blaenorol.

 

MODEL 3

YSGOL FAWR LLE NAD OES FAWR DDIM CYMRY CYNHENID

Nodweddion y Dalgylch

1. Yn hanesyddol, bu’r ysgol hon yn gwasanaethu holl blant uwchradd y dalgylch ond bellach rhennir y dalgylch gydag ysgol mewn ardal fwy Cymreig.

2. Golyga hyn fod mwyafrif y Cymry cynhenid a rhai dysgwyr da iawn wedi dewis Model 1 a chyfle i wneud pynciau drwy’r Gymraeg, ond deil rhai ohonynt i ddewis Model 3.

3. Y mae’r ysgol yn y Model hwn mewn ardal boblog, drefol a Seisnigedig ac mae ynddi 1,000 neu ragor o blant.

Natur Ieithyddol

1. Dysgwyr Cymraeg (Carfan C1 ac C2) yw mwyafrif llethol y disgyblion sydd wedi dewis Model 3. Y mae nifer cynyddol ohonynt yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg (Carfan C1) ac er mai dysgwyr ydynt, rhydd hyn gyfrifoldeb arbennig ar yr ysgolion ym Model 3 i ddatblygu eu dwyieithrwydd ymhellach. Y mae cyfrifoldeb hefyd tuag at ddwyieithrwydd yr ychydig Gymry cynhenid (Carfan A a B) sydd wedi dewis y model hwn yn hytrach na Model 1.

2. Y mae mwyafrif yr athrawon yn ddwyieithog ond y mae cyfran sylweddol heb brofiad o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

3. Er mwyn atgyfnerthu gweithrediad y polisi iaith, bydd angen rhoi sylw gofalus i ddatblygu ethos mor Gymraeg a Chymreig ag y bo modd.

Cymraeg fel Pwnc

Ochr yn ochr â’r Saesneg, fe ddysgir Cymraeg fel pwnc i’r holl ddisgyblion hyd at Bl.11. Dylai’r Cymry cynhenid a’r dysgwyr da ddilyn Rhaglenni Astudio Cymraeg Iaith Gyntaf. Fel y bydd y Polisi Iaith yn llwyddo, disgwylir y bydd y rhan fwyaf o’r dysgwyr eraill yn pontio.

Y mae maint yr ysgol hon yn golygu y gall ddarparu dosbarthiadau i ateb amrediad y gofynion Cymraeg ail iaith yn well na’r un Model arall.

Cymraeg yn Gyfrwng

Yn ystod Bl.7-9, dylid paratoi cefnogaeth ychwanegol i waith yr Adran Gymraeg ar ddwy lefel.

1 Dylai dysgwyr Carfan C1 gael cefnogaeth i’w Cymraeg yn ystod amser addysgu rhai pynciau eraill. Dylid gwneud hyn drwy gyfrwng unedau o waith, modiwlau, neu gyfle i drafod yn Gymraeg fel eu bod mewn cyswllt â’r Gymraeg mewn tua 30% o’r cwricwlwm, gan gynnwys y Gymraeg fel pwnc.

2 Dylai disgyblion Carfan C2 hefyd gael ategiad i’w Cymraeg am tua 20% o’u hamser, yn arbennig o ran cyfle i drafod yn Gymraeg a chyfathrebu ag athrawon. Ni fydd hyn yn bosibl heb bolisi ysgol a dealltwriaeth a chyfraniad ar ran aelodau’r staff nad ydynt yn aelodau o’r Adran Gymraeg. Dylai’r holl staff ddeall gyda pha ddosbarthiadau y gellir cynnal sgwrs yn Gymraeg.

Yn ystod Bl.10 ac 11 - Drwy drafodaeth gyda’r Awdurdod Addysg, dylid ystyried sut y gallai’r Cymry cynhenid a’r dysgwyr gorau ddal i gyflawni rhai gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ddulliau modiwlar neu drwy ddilyn rhai pynciau yn ddwyieithog, yn enwedig ar lafar. Dylai dysgwyr eraill hefyd gael cyfle i sgwrsio yn anffurfiol mewn gwersi mewn pynciau y tu allan i’r Adran Gymraeg.

Ni ddylid dehongli unrhyw ganrannau a nodwyd yn llythrennol yng nghyd-destun pynciau penodol.

Gweinyddiaeth a Threfn

Gan fagu traddodiad newydd yn y blynyddoedd cynnar, rhaid i’r ysgol yn y Model hwn adlewyrchu Cymreictod yn ei gweinyddiad a’i threfniadau. Bydd cyd-weithrediad y staff yn hollbwysig i wireddu arweiniad gan bennaeth yr ysgol. Rhaid wrth bolisi hollol glir ar y dull o ddefnyddio Cymraeg a Saesneg yng ngweinyddiad a threfniant yr ysgol. Dylai’r polisi roi arweiniad ar hysbysfyrddau, arwyddion, memoranda, llythyrau, gwybodaeth i rieni, gwasanaeth boreol, cyhoeddiadau, adroddiadau, trefn a disgyblu. Dylai’r Adran Gymraeg argymell ffurfiau ieithyddol ar gyfer rhai o’r gweithgareddau hyn sydd yn sicr o fewn dealltwriaeth y rhan fwyaf o’r dysgwyr.