Yn ôl..

                      

SAFONAU AC ANSAWDD MEWN YSGOLION CYNRADD:
CYFLAWNI A THANGYFLAWNI YNG NGHYFNOD ALLWEDDOL 2

MATER ALLWEDDOL

YMATEB YR AWDURDOD

Mae angen parhaus i ysgolion adeiladu ar eu cyflawniadau, cael gwared ar y gyfran o addysgu anfoddhaol, sydd eisoes yn gostwng, a chynyddu’r swm o waith da.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Anelir at godi safonau a lleihau tangyflawniad yn y pynciau craidd trwy:
  • ddarparu cyrsiau estynedig pum diwrnod i athrawon mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth;
  • ddarparu cyngor i ysgolion drwy ymweliadau ‘Hawl a Haeddiant;’
  • gynnal projectau penodol ar gyfer godi safonau mewn llafaredd, sillafu, ysgrifennu a rhifedd (Grant Cynnal Addysg a Hyfforddiant);
  • gynnal project ‘Llythrennedd y Teulu’ mewn pum ysgol;
  • gynnal project ‘Marc Ansawdd’ mewn pum ysgol;
  • gynnal project ‘Llythrennedd yr Haf’ mewn un dalgylch;
  • osod targedau sirol mewn llythrennedd a rhifedd ar gyfer 1999;
  • gyflwyno adroddiad ar safonau darllen a rhifedd yn 1997. Gweithredir ar argymhellion yr adroddiad yn 1998 - 99.
  • gynorthwyo ysgolion i ddadansoddi canlyniadau profion B6 yn 1997 yn fanwl ac i weithredu ar wendidau. Yn ystod tymor y Gwanwyn cynhelir trafodaethau dalgylch ar ganlyniadau’r profion. Yn ogystal, bydd yr ymgynghorydd cynradd yn trafod eu canlyniadau gyda phob ysgol;
  • roddi sylw i agweddau o’r meysydd craidd yn ystod ymweliadau monitro ar ran y Cyfarwyddwr Addysg.

Anelir at godi safonau a lleihau tangyflawniad yn y pynciau sylfaen trwy:

  • sicrhau, yn ystod ymweliadau ‘Hawl a Haeddiant,’ y caiff y pynciau craidd eu lle haeddiannol yn y cwricwlwm;
  • sicrhau fod cyrsiau sirol a dalgylchol yn cynnig arweiniad clir i athrawon ar y pynciau ac yn rhoi syniadau ymarferol iddynt ar ddulliau gweithredu;
  • roddi arweiniad clir i ysgolion ar gynllunio traws-ysgol;
  • gyflwyno taflenni pwrpasol ar gyfer cyrraeddiadau disgyblion yn dymhorol.
  • roddi sylw i’r meysydd yn ystod ymweliadau monitro ar ran y Cyfarwyddwr Addysg.
Mae angen adeiladu’n fwy egnïol ar y cynnydd a wnaed yn CA1 yn B3 a B4 Trwy ymweliadau ‘Hawl a Haeddiant’ a thrwy gyrsiau HMS, anogir ysgolion i:
  • sicrhau gwell cynllunio ysgol gyfan gyda cherrig milltir pendant ar gyfer B4 ym mhob maes;
  • sefydlu dulliau asesu parhaus (canllawiau’r awdurdod) ar ddiwedd B4.
  • Defnyddio asesiadau B4 ar gyfer gosod targedau i’r disgyblion wedi iddynt gyrraedd B6.
... sicrhau fod y dulliau addysgu ..yn addas ar gyfer y pwrpas a bod digon o addysgu uniongyrchol.... Anelir at wella ansawdd yr addysgu mewn ysgolion trwy:
  • gynnig cyngor arbenigol ym mhob maes cwricwlaidd;
  • ymweliadau cyson â dosbarthiadau gan yr ymgynghorwyr cynradd;
  • roddi sylw ar gyrsiau i’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd ynghlwm â phob maes e.e. gwyddoniaeth;
  • gynnal cyrsiau ar drefniadaeth dosbarth;
  • gyfeirio sylw athrawon at y llyfryn ‘Trefniadaeth Dosbarth’ a gynhyrchwyd gan yr awdurdod;
  • annog athrawon i beidio a gor-ddibynnu ar gynlluniau cyhoeddedig, yn arbennig mewn mathemateg;
  • adrodd ar ansawdd yr addysgu yn ystod ymweliadau monitro ar ran y Cyfarwyddwr Addysg.
...gwella ar y gwaith o drefnu a grwpio’r disgyblion ar gyfer tasgau... Gwneir hyn drwy:
  • roi sylw i drefniadaeth yn ystod ymweliadau ag ysgolion;
  • gynnwys ‘trefniadaeth dosbarth’ yn rhaglen fonitro’r Cyfarwyddwr addysg;
  • drafod trefniadaeth a dulliau grwpio yn ystod cyrsiau HMS.
...gwella gwybodaeth yr athrawon o’r pwnc a sgiliau asesu..

....gwneud gwell defnydd o asesiadau...a gosod targedau cadarn ar gyfer gwelliant.

Caiff asesu broffil uchel yn yr awdurdod fel cyfrwng pwysig i godi safonau. Gwneir hyn drwy:
  • gynnig fframwaith i ysgolion ar gyfer asesu y meysydd craidd a’r meysydd sylfaen ac addysg grefyddol;
  • cynigir arweiniad i ysgolion ar ddefnyddio dulliau ffurfiannol o asesu a sut y dylid sicrhau bod yr asesu yn cyfeirio’r dysgu a’r addysgu;
  • rhoddir arweiniad i ysgolion ar sut i ddehongli canlyniadau profion y CC ac i osod targedau ar gyfer gwelliant;
  • mae rhai ysgolion yn defnyddio asesiadau CA1 a B4 ar gyfer grwpio disgyblion a thargedu’r addysgu ar eu cyfer.
Mae angen mwy a gwell hyfforddiant ar gyfer penaethiaid, dirprwyon ac arweinwyr cwricwlaidd... Bydd yr awdurdod yn anelu ar barhau i wella ansawdd yr arweinyddiaeth a gynigir gan benaethiaid drwy:
  • sicrhau fod ymgynghorwyr cynradd yn trafod y Cynllun Datblygu Ysgol, dulliau hunan arfarnu a gosod targedau yn ystod eu hymweliadau ag ysgolion;
  • gynnig arweiniad sirol ar gynnwys y CDY, dulliau hunan-arfarnu a gosod targedau;
  • ddarparu cyrsiau penodol ar gyfer penaethiaid ysgolion. Gwahaniaethir y cyrsiau yn ôl maint yr ysgolion;
  • weithredu rhaglen fonitro flynyddol. Trefnir ymweliadau ag ysgolion

- sydd ganddynt bennaeth newydd,

- sydd wedi eu harolygu ddwy flynedd yn ôl,

- sydd angen ymweliad oherwydd rhesymau eraill;

  • gyd-weithio’n glos gyda’r llywodraethwyr os y cyfyd problem rheolaethol ddwys mewn ysgol.

Ceisir gwella sgiliau arweinyddiaeth dirprwyon a’u darparu ar gyfer swydd pennaeth drwy:

  • gynnal cwrs estynedig ar gyfer ‘darpar benaethiaid’. Bydd y cwrs yn

- rhoi sylw manwl i ofynion rheolaethol ysgol,

- y rhoi cyfle iddynt ymweld ag ysgolion eraill,

- yn ceisio eu rhoi mewn sefyllfaoedd real.

Cydnabyddir pwysigrwydd cyfraniad arweinwyr cwricwlaidd mewn ysgolion, beth bynnag y bo eu maint. Ceisir datblygu eu rôl drwy:
  • roi sylw i’w rôl ym mhob cwrs estynedig (HADA);
  • annog ysgolion i gydweithio ar sail dalgylch ac i ddefnyddio arbenigedd yr arweinwyr cwricwlaidd;
  • sicrhau trafodaeth gyda’r arweinwyr cwricwlaidd yn ystod ymweliadau ‘Hawl a Haeddiant;’
....dylai’r arweinwyr cwricwlaidd gymryd rhan fwy gweithredol yn y gwaith o fonitro a gwerthuso ansawdd a safonau gwaith.. Gwelwyd datblygiadau addawol yn y maes monitro yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gydag ysgolion yn symud tuag at lunio rhaglen flynyddol o fonitro’r cwricwlwm. Yng nghyd-destun yr uchod, gwelir rôl yr arweinwyr cwricwlaidd fel:
  • cyfrannu i drefn hunan-arfarnu’r ysgol trwy ddatblygu ymhellach a defnyddio y canllawiau a gynhyrchir gan yr awdurdod;
  • monitro y meysydd rheini sydd dan eu gofal drwy addasu’r meini prawf a geir yng nghanllawiau’r awdurdod ar ‘Ddatblygu Ansawdd.’
Dylai llawer o’r cyrff llywodraethu gymryd arweiniad cryfach i roi cyfeiriad strategol i waith eu hysgolion a gwerthuso cynnydd a chyflawniadau. Anelir i wella effeithiolrwydd cyrff llywodraethu drwy:
  • ddarparu rhaglen hyfforddiant cynhwysfawr ar eu cyfer sydd yn cynnig arweiniad ar

- osod targedau,

- dehongli canlyniadau,

- monitro,

- hunan-arfarnu;

  • drefnu cyfarfodydd a chyrsiau i benaethiaid a llywodraethwyr ar y cyd;
  • roddi arweiniad clir mewn cyrsiau i benaethiaid a rôl a chyfrifoldebau eu cyrff llywodraethu;
  • drefnu hyfforddiant unigol, ar gais ysgol, ar gyfer cyrff llywodraethu.
Dylid gwella’r mwyafrif o’r cynlluniau datblygu ysgol drwy wneud gwell defnydd o fesurau perfformiad i nodi targedau penodol ar gyfer gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu Credir bod ansawdd cynlluniau datblygu ysgolion y sir eisoes yn gyffredinol dda gan fod mwyafrif yr ysgolion yn defnyddio’r fframwaith a ddarparwyd gan yr awdurdod. Yn y fframwaith gwelir bod targedau clir ar gyfer gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu.