MATERION ALLWEDDOL I
WEITHREDU ARNYNT |
YMATEB YR AWDURDOD |
| 6.1 Mae angen gwella ansawdd
ac effaith cynlluniau datblygu mewn tua 60% o ysgolion |
- Bron yn ddieithriad, cynlluniau datblygu ysgolion yr Awdurdod wedi eu cymeradwyo gan
arolygwyr SPAEM am eu manylder ar effaith a gânt ar y ddarpariaeth addysgol. Credir
bod yn dyst ir sylw dwys a roddwyd i Gynlluniau Datblygu gan swyddogion ac
ymgynghorwyr dros gyfnod hir.
- Cynhyrchwyd cyfres o ganllawiau sydd yn nodin glir yr hyn y dylid ei gynnwys mewn
CDY a, dros y blynyddoedd, maer cynlluniau hyn wedi esblygu er mwyn cwrdd â
gofynion newydd.
- Bydd yr ymgynghorwyr cynradd yn rhoi sylw penodol i gynlluniau datblygu ysgolion yn
ystod yr ymweliadau monitro.
- Mae trefn gan yr Awdurdod o gasglu CD pob ysgol o fewn blwyddyn academaidd.
|
| 6.2 Mae angen ir rhan
fwyaf o ysgolion fonitro eu perfformiad yn fwy rheolaidd ac yn fwy systematig er mwyn nodi
cryfderau a gwendidau fel sylfaen ar gyfer gwelliannau cynllunio |
- Yn ystod 1996-97 secondiwyd pennaeth am flwyddyn i roi sylw penodol i ddatblygu
ansawdd mewn ysgolion, hynny yw, dulliau monitro. Yn sgil ei gwaith:
- addaswyd dogfen Meini Prawf yr Awdurdod a gynhyrchwyd yn 1992 fel bod ei chynnwys yn
cyd-fynd â gofynion y CC;
- ychwanegwyd meini prawf newydd e.e. rheolaeth a gweinyddiaeth;
- trafodwyd y ddogfen ymhob dalgylch a grwp ymgynghorol;
- clustnodwyd sesiynau penodol mewn cyrsiau rheolaeth a chyrsiau penaethiaid newydd
gogyfer â thrafod cynnwys y ddogfen.
- Maer ddogfen, ynghyd â Fframwaith Cynllun Datblygu Ysgol ddiweddaraf, yn rhoi
pwyslais sylweddol ar ddulliau monitro ac ar ddeilliannaur broses ar
gynlluniaur ysgol.
- Yn ystod y flwyddyn gyfredol cynhyrchwyd canllawiau newydd ar Adolygiad Ysgol
Gyfan a rydd bwyslais sylweddol ar ddulliau monitro ysgol.
- Nodwyd hunan arfarnu fel un o brif flaenoriaethaur ymgynghorwyr
cynradd yn 1998-99.
|
| 6.3 Dylid gwneud mwy o
ddefnydd a defnydd gwell o ddata asesur CC a mesurau perfformiad eraill er mwyn nodi
targedau penodol ar gyfer gwelliant. |
Rhoddwyd sylw penodol i
wellar defnydd o ddata yn ystod 1997-98 drwy:
- gynhyrchu data dalgylch fel un offeryn ar gyfer canfod anghenion HMS ysgolion y
dalgylch;
- gynhyrchu data ar gyfer ysgolion unigol gyda gwybodaeth am
- sgôr pob pwnc craidd yn erbyn sgôr y dalgylch a chanlyniadaur sir,
- cymhariaeth o ganlyniadau bechgyn yn erbyn canlyniadau genethod,
- canran o ddisgyblion yn cyrraedd L4 mewn mathemateg, gwyddoniaeth a Chymraeg/Saesneg;
- gynnal sesiynau hyfforddiant i swyddogion, ymgynghorwyr a phenaethiaid ar ddulliau
dehongli data
- drefnu ymweliadau penodol ag ysgolion gyda sgôr yn y chwartel isaf
Yn 1998 - 99, datblygir y gwaith ymhellach drwy:
- greu swydd ar gyfer dehongli data (cynradd ac uwchradd);
- gynhyrchu gwybodaeth ystadegol i ysgolion yn gynnar yn ystod y flwyddyn addysgol (bydd
CYNNAL wedi casglu a dehongli canlyniadaur profion CA1 a CA2);
- roi gwybodaeth i ysgolion am berfformiad teuluoedd o ysgolion tebyg;
- drefnu ymweliadau ag ysgolion syn tangyrraedd.
|
| 6.4 Yn y rhan fwyaf or
ysgolion, dylid ystyried blaenoriaethau lleol a chenedlaethol ar gyfer codi safonau yn
fanylach wrth nodi targedau ar gyfer gwelliant |
Gweithredwyd ar hyn drwy:
- gynnal cynhadledd undydd ar gyfer penaethiaid ysgolion cynradd. Rhoddir sylw penodol yn
y gynhadledd ar dargedaur Awdurdod am y cyfnod
1998 - 2002 gydar gofyn i bob ysgol gadw mewn cof y targedau sirol wrth iddynt
osod targedau eu hunain;
- sefydlu cyfundrefn ar gyfer casglu ac achredu targedau pob ysgol yn flynyddol;
- gynnal cwrs undydd ar gyfer pob pennaeth gydar pwyslais yn bennaf ar strategaeth
llythrennedd yr Awdurdod;
- ddosbarthu copi or strategaeth (sydd hefyd yn cynnwys y targedau sirol) i bob
ysgol;
- drafod, a rhoi rôl gweithredol i benaethiaid, yn y dasg o lunio Cynllun Strategol
Addysg yr Awdurdod
|
| 6.5 Mae angen ir rhan
fwyaf o ysgolion dalu mwy o sylw ir strategaethau ar adnoddau sydd eu hangen i
weithredu eu cynlluniau datlbygu yn effeithiol. |
- Mae gofyn clir yn y Fframwaith Cynllun Datblygu Ysgol i bob sefydliad nodi yn fanwl sut
y defnyddir adnoddau ariannol a dynol yr ysgol ar gyfer gweithredu ei blaenoriaethau.
- Bydd y surgery rhwng y pennaeth ar Swyddog Cyllid yn rhoi arweiniad
clir i bob ysgol ar swm y cyllid sydd ar gael ar gyfer gweinyddu ei chynlluniau.
- Cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant penodol i lywodraethwyr ysgolion yn y maes.
|
| 6.6 Mae angen gwelliannau
wrth werthuso effeithiolrwydd y camau a gymerir i wella safonau mewn tua thair ysgol o bob
pump. |
Tueddar pwyslais mewn
rhai ysgolion i fod ar agweddau ansoddol ou gwaith gydag ond ychydig o sylw yn cael
ei roi i fonitro safonau cyrhaeddiad disgyblion. Bydd yr Awdurdod yn ceisio annog ysgolion
i roi pwyslais cryfach ar fonitro effaith eu gwelliannau ar safonau drwy:
- eu cynghori i ddefnyddio ymweliadau ymgynghorwyr i edrych ar safonau;
- i sefydlu rhaglen hunan-arfarnu sydd gydar prif bwyslais ar godi safonau.
|
| 6.7 Gydag ychydig
eithriadau, mae angen i gyrff llywodraethol gymryd arweiniad cryfach wrth roi cyfarwyddyd
strategol i waith eu hysgolion drwy oruchwylior gwaith o baratoi a gweithredu
cynlluniau datblygu.
|
Mae cynyddu rôl cyrff
llywodraethu yn rheolaeth ysgolion yn un o flaenoriaethaur Awdurdod. Datblygir hyn
drwy:
- gynnal sesiynau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgolion unigol;
- gynnal cyfres o sesiynau hyfforddiant i lywodraethwyr yn y maes Codi
Safonau.
Yn yr hyfforddiant rhoddir sylw i
- gyfrifoldebau statudol llywodraethwyr
- gynyddu eu dealltwriaeth o lefelaur CC
- ddatblygu eu gallu i ddehongli data
- manylu ar eu rôl o ran llunio, monitro a gweithredu y CDY.
|
| 6.8 Mae angen gweld
gwelliannau yn y monitro ar gwerthuso gan benaethiaid mewn tua 40% o ysgolion. |
Cydnabyddir bod y dulliau
monitro a fabwysiedir gan ysgol yn amrywio yn ôl natur ysgolion. Mewn ysgolion dros 150 o
ddisgyblion disgwylir ir pennaeth, y dirprwy bennaeth ar arweinwyr cwricwlaidd
gymryd cyfrifoldeb am y gwaith, ond, yn yr ysgolion eraill lle ceir pennaeth yn aml â
gofal llawn-amser am ddosbarth, rhaid mabwysiadu strategaethau gwahanol. Maer
ddogfen Datblygu Ansawdd yn cynnig modelau gwahanol ar gyfer ysgolion mawr a
rhai bach.
Yn gyffredinol, cynghorir ysgolion i fonitro safonau gwaith drwy:
- gadw portffolio o waith wedii lefelu;
- neilltuo sesiynau penodol ar gyfer archwilio samplau o waith yn y tair haen gallu ar
draws holl rychwant oedran y plant;
- nodi disgwyliadau pendant yn eu cynllunio ar gyfer B0, B2, B4 a B6. Disgwylir iddynt
gymharu safon y gwaith âr disgwyliadau hyn.
|
| 6.9 Dylai AALl barhau i
gynorthwyo ysgolion au cyrff llywodraethol i lunio cynlluniau datblygu effeithiol,
yn arbennig drwy helpu i hyrwyddo eu dealltwriaeth o ansawdd a phriodolrwydd eu
darpariaeth presennol ymhellach ar hyn sydd angen ei wneud i godi safonau. |
Credir bod yr ymatebion i
Faterion Allweddol 1 - 8 yn dangos yn glir ymroddiad a rôl rhyngweithiol yr Awdurdod
ir dasg o gynorthwyo ysgolion, yn benaethiaid, athrawon a chyrff llywodraethu, i
gyflawni eu prif gyfrifoldeb o feithrin a chynnal safonau da. |