Datblygu Dwyieithrwydd
______________________________________ Yn ôl..

Rhai canllawiau ar gyfer gweithredu Polisi Iaith Gwynedd a Môn

Y POLISI IAITH

Wele sylwadau a wnaed gan rai Penaethiaid pan ofynnwyd iddynt ymateb i’r cwestiwn "Beth ydych chi’n ei feddwl o’r Polisi Iaith?"

a) "Os ydi dy athrawon di o blaid y Polisi Iaith mi fedri di gerdded ar ddwr..."

(Pennaeth ysgol fawr mewn ardal Seisnigedig)

b) "Diolch amdano fo - a’i gadernid o - mae o’n dir cadarn dan fy nhraed i, ac yn gosod nod.....hebddo mi fuasai hi’n frwydr"

(Pennaeth ysgol fawr mewn ardal Seisnigedig)

c) "Mae’n anodd i’w gyflawni, ond yn nod i anelu tuag ato: yn gyfiawnhad i gymuned fod dwyieithrwydd yn bwysig"

(Pennaeth ysgol fawr mewn ardal Seisnigedig)

ch) "Mae o’n hollol angenrheidiol, - hebddo mi fuasen ni’n gorfod ffrydio’r plant yn ieithyddol...."

(Pennaeth ysgol fechan mewn pentref Seisnigedig)

d) "Dwi’n deall fod yn rhaid cael Polisi Iaith sy’n ambarel dros Wynedd i gyd, ond byddai Polisi cryfach - mwy gorfodol - yn llesol i rai ardaloedd"

(Pennaeth ysgol fechan, ardal Gymraeg)

dd) "Yn ôl yr hyn a welais i ar hyd a lled y sir, nid y Polisi sy’n wan ond y penderfyniad i’w weithredu....mae angen ei gryfhau ymhob ffordd"

(Pennaeth ysgol fechan, ardal Gymraeg)

e) "Mae arweiniad y Pennaeth yn greiddiol, yn fwy felly wedi diflaniad y tîm athrawon bro......"

(Pennaeth ysgol fechan, ardal Gymraeg)

f) "Y drwg ydi fod rhai o ysgolion o fewn dalgylch penodol yn gweithredu’n groes i’w gilydd o safbwynt cyflwyno’r Saesneg......."

(Pennaeth ysgol drefol, ardal Gymraeg)

ff) "Os nad ydi’r Llywodraeth efo chi mae’r Polisi Iaith yn ddi-rym"

(Pennaeth ysgol drefol, ardal Gymraeg)

g) "Pa bwrpas cael Polisi Iaith os nad oes gorfodaeth i’w weithredu?"

(Pennaeth ysgol bentrefol fawr, ardal Gymraeg)

Dengys y dyfyniadau, er mai ychydig iawn ydynt mewn nifer, fod yna deimlad cyffredinol ynglyn â lles cyffredinol y Polisi Iaith, ond fod ei weithrediad llwyddiannus yn ddibynnol ar argyhoeddiad a gweledigaeth Pennaeth fel arweinydd tîm.

Dyma dri dyfyniad o’r Polisi:

"Sicrhau, trwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn y sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law". (Y Dosbarth Derbyn)

"Adeiladu ar y sylfaeni a osodwyd i’r Gymraeg drwy addysg feithrin, cadarnhau a datblygu mamiaith y plentyn o ddysgwr Cymraeg ac ymestyn gafael y plentyn o gartref Cymraeg ar y Saesneg". (Babanod, Blwyddyn 1/2)

"Cadarnhau a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fo’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd"

(Yr Adran Iau, Blwyddyn 3/6)

Mae dau beth yn nodweddu’r dyfyniadau uchod:

a) Yr awgrym fod y daith tuag at ddwyieithrwydd yn un sy’n cychwyn mor gynnar â phosib yng ngyrfa ysgol y plentyn.

b) Yr awgrym fod y statws yn cael ei roi ar feddu dwy iaith. Nid oes awgrym yma fod un iaith yn bwysicach na’r llall, nac i beri i un iaith ddisodli’r llall.

Mewn sir sydd mor amrywiol ei sefyllfaoedd ieithyddol â Gwynedd a Mon y mae’n hawdd inni golli golwg ar y ffaith bod yr un hawliau gan blant sy’n drigolion ifanc ynddi, yn mynychu ei hysgolion, ac am fod yn ddinasyddion dwyieithog ynddi pan fyddant yn oedolion.

Mae’r hawl hwnnw yng Ngwynedd a Mon yn golygu darparu iddyn nhw addysg

a) sy’n eu parchu fel unigolion

b) sy’n parchu eu mamiaith ac yn ei datblygu

c) sy’n eu hannog i ddatblygu eu hyfedredd yn eu hail iaith.

Mater o falchder ydi cydnabod camp plant fu unwaith ond sydd bellach yn datblygu i ddefnyddio’r naill a’r llall o brif ieithoedd y sir yn hyderus.

Mae gwrando ar drafodaeth Saesneg gan blant ym Mhen Llyn neu Benllyn yr un mor bleserus (yn ei le) ag ydi gwrando ar blant yn Llandudno neu Gaergybi yn trafod yn y Gymraeg (yn ei le).

Yr un modd mae hawliau plant Pen Llyn a Phenllyn i drafod yn y Gymraeg, a phlant Llandudno a Chaergybi i drafod yn y Saesneg, yn rhan o’u genedigaeth-fraint.

 

Agweddau    top.gif (1017 bytes)

Un o’r pethau sy’n llesteirio un iaith yn hytrach na’r llall, mae’n sicr, ydi agwedd yr unigolyn at ddysgu’r iaith honno. Ni fu dysgwr gwir llwyddiannus erioed a ddaeth yn fedrus ac yn hyderus os oedd ei agwedd at ei faes neu ei bwnc yn negyddol. Ymhellach, ni ddaeth datblygiad os bu iddo synio amdano’i hun fel methiant.

Ambell dro, yng Ngwynedd, yr ydym ni’n gorfod ymdopi â sefyllfa lle mae plant yn dod o gartrefi lle nad oes gwerth i’r Gymraeg, ac mai dysgu Saesneg, a thrwy gyfrwng y Saesneg, yw’r disgrifiad.

Mewn sefyllfaoedd o’r fath mae’r dasg yn anos os na fydd y rhieni yn cael eu goleuo ynglyn â:

a) manteision addysgol dwyieithrwydd

b) manteision cymdeithasol dwyieithrwydd

c) nodau Polisi Iaith Gwynedd a Mon

Pan fydd agweddau positif ymysg y rhieni fe fydd y dasg o ddatblygu’r plant fel defnyddwyr y Gymraeg gymaint yn haws.

 

Iaith y Cartref     top.gif (1017 bytes)

Ffactor arall sy’n haeddu ystyriaeth yw gofalu fod mamiaith y plant - yr unig iaith a wyddant yn aml wrth gychwyn yn yr ysgol - yn cael ei pharchu, ac yn wir, yn cael ‘lle’.

Annheg â phlentyn uniaith ydi ei amddifadu am gyfnodau maith (diwrnod ysgol) o swn yr iaith sydd wedi ei annog, ei gysuro, ei ddifyrru gydol ei fywyd yma. Felly mae arddel sensitifrwydd yn bwysig - nid yw llwyddiant yn yr ail-iaith am ddod os mai’r pris yw amharchu neu danseilio’r famiaith.

Yn hyn o beth mae dibrisio a diystyru ei famiaith yn fygythiad i’w unig gyfrwng cyfathrebu, ei unig fodd o greu ystyron yn ei fywyd. Mae hefyd yn bygwth y plentyn ei hun, ac yn y pen draw yn mynd i godi muriau rhyngddo ag unrhyw ‘ddysgu newydd’.

Mae’r ‘muriau’ hynny yn rhai sydd â’u sylfaeni yn gadarn, os yn anweledig, ac fe amlygant eu hunain ymhen blynyddoedd pan fydd y plentyn bellach yn ddigon penderfynol a grymus i ddewis diystyru ei wybodaeth o’r Gymraeg a defnyddio’r Saesneg yn unig.

 

Ethos Dosbarthiadau    top.gif (1017 bytes)

Disgrifiwyd y flwyddyn dderbyn fel y flwyddyn pan fo’r plentyn yn cael ei ‘drochi’ yn drwyadl yn swn y Gymraeg. Y cyfnod hwn, pan fo’r plentyn yn agored iawn i dderbyn dylanwadau newydd, yw’r cyfnod pryd y gall athrawon y dosbarth derbyn, a gweinyddesau meithrin, amgylchynu’r plentyn yn glywedol ac yn weledol, â’r Gymraeg.

 

- y Gymraeg fydd iaith feunyddiol, gyfathrebol y dosbarth

- y Gymraeg fydd iaith y ‘ty bach twt’ a’r twb tywod

- y Gymraeg fydd iaith yr hwiangerddi a’r penillion a gyflwynir

- y Gymraeg fydd iaith sy’n cofnodi, labelu a chyfarwyddo ar furiau’r dosbarth

- bydd llyfrau Cymraeg yn cael lle amlwg yn y gornel lyfrau/llyfrgell dosbarth....

Nid yw hyn oll yn gyfystyr â dweud nad oes gair Saesneg i’w glywed na’i weld.

Cofier mai datblygu dwyieithrwydd yw’r nod!!

Fel yr êl y blynyddoedd rhagddynt mae hi’n rhesymol disgwyl gweld mwy o’r Saesneg yn amgylchedd y dosbarth. Fel arfer mae’r muriau yn adlewyrchu gweithgareddau tymhorol y plant, a phan fydd y ddwy iaith yn cael eu ‘cynllunio’ i’r gweithgareddau - fel cyfrwng cyflwyno ac fel cyfrwng cofnodi - bydd y muriau yn tystio i ddiwydrwydd y dosbarth ac i lwyddiannau’r plant yn y ddwy iaith hynny.

Nid yw’r uchod yn gyfystyr â honni lle cyfartal, 50% yr un, i’r Gymraeg a’r Saesneg. Ond mae’n awgrymu fod y Saesneg i ddod yn gynyddol amlwg trwy flynyddoedd yr Adran Iau.

Nid nifer yr oriau a roddir i iaith arbennig sy’n cyfrif ond ansawdd yr iaith a’r profiadau.

Dylai iaith gweithgaredd fod yn gyson, h.y. Cymraeg neu Saesneg yn y cyflwyno, trafod a’r cofnodi.

Mae dwyieithrwydd yn cael ei lesteirio mewn sefyllfaoedd lle nad oes arddangosiad bwriadus o’r Saesneg yn yr amgylchedd, yn yr un modd ag mae’n cael ei lesteirio pan na fydd lle teilwng i’r Gymraeg yn yr amgylchedd.

 

Yr Iaith Gyfathrebol    top.gif (1017 bytes)

Fel sy’n wybyddus nid oes ond pedwar ‘modd’ i iaith.

Gellir - ei gwrando

- ei siarad

- ei darllen

- ei hysgrifennu

Mae’r plentyn sy’n cychwyn yn yr ysgol am y tro cyntaf - os yw’n ffodus - wedi dod o siarad yr iaith fel canlyniad i’r ffaith fod aelodau eraill o’i deulu yn ei defnyddio hi i bwrpas cyfathrebu. Does neb wedi mynd ati i ddysgu elfennau gramadeg iddo ond mae o’n gallu siarad a mynegi ei hun ar ffurf brawddeg gystrawennol gywir, oherwydd bod ei gynefin gartref yn llawn o iaith-ar-waith.

Yr elfen gyfathrebol sy’n bwysig - mai creu ystyr er mwyn holi, cyfarwyddo, rhybuddio, ceryddu, egluro, difyrru - ydi prif bwrpas iaith.

 

Felly, mae’n bwysig bod elfen gyfathrebol gref yn yr iaith a wêl ac a glyw y plentyn yn yr ysgol. Pan fo hi’n fater o gyflwyno iaith newydd sbon iddo (h.y. y Gymraeg mewn ardaloedd Seisnigedig) mae’r cyfathrebu yn hanfodol.

Yr hyn sydd ar y plentyn ei angen yn feunyddiol yw meistrolaeth ar glwstwr o eiriau (gellir eu galw yn batrymau) sy’n ei helpu i ‘wneud ystyr’.

Mae’r clwstwr geiriau,

e.e. dwi isho....

mae gen i

dwi wedi....

roedden ni....

pryd gawn ni....?

wyt ti am....?

yn bwysicach, ac yn rheitiach pethau i’w rhoi ar furiau dosbarthiadau, na rhestr o ‘Fisoedd y Flwyddyn’ dyweder.

Os mai Mehefin yw’r mis cyfredol, neu os mai Mehefin yw mis ei benblwydd, fe all y plentyn fod angen defnyddio’r gair.

Ond dydi plant ifanc ddim angen siarad am ‘Dachwedd’, ‘Ionawr’ neu ‘Ebrill’ fel y mae nhw’n gosod angen y clwstwr geiriau uchod.

Y rhain sy’n peri i’r iaith fod yn gyfathrebol, y rhain yw’r ymadroddion/cystrawennau beunyddiol eu defnydd.

Estyniad o’r ymresymu hwn yw’r ffaith fod y dysgwyr iaith angen gweld brawddegau cyfain yn gymaint â geiriau unigol. O fewn y frawddeg gyfan mae’r patrwm neu’r gystrawen sydd angen ei feistroli.

Dylid manteisio ar yr iaith weledol sy’n amgylchynu’r plentyn trwy dynnu sylw ati hi. Mae’r arfer o ‘fynd am dro’ hyd ryw ran o fur y dosbarth yn bwysig, fel bod y plentyn yn gweld defnyddioldeb yr ysgrifen. Rhywbeth i’w ddarllen ac efallai ei ddweud ydi o, ac mae o’n llawn ystyr - yn ystyrlon.

Mae gen i bapur wal neis ar furiau’r stafell wely ond fydda’i byth bron yn sylwi arno fo.

Nid fel papur-wal y dylen ni ystyried yr ysgrifennu ar furiau’r dosbarth - boed hwnnw’n hwiangerdd, yn label, yn gyfarwyddyd - ond fel neges sy’n cael ei gyfleu ar brint.


Disgwyliadau  
top.gif (1017 bytes)

Yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig:

Yr iaith a glywir yng ngweinyddiad dydd i ddydd yr ysgol fydd y Gymraeg.

Yr iaith a ddefnyddir fel prif gyfrwng gwasanaethau boreol fydd y Gymraeg.

Yr iaith-gyfarch a’r iaith achlysurol gan yr athrawon(a’r staff ategol lle bo hynny’n bosib) fydd y Gymraeg.

Yr iaith y disgwylir iddyn nhw ymateb iddi, ac ynddi, yw’r Gymraeg.

Ar ei ‘daith’ o gyfnod addysg feithrin hyd Flwyddyn 6 mae ‘n rhesymol i’r plentyn weld a chlywed mwy a mwy o brofiadau yn y Saesneg wedi eu cynllunio i’r cwricwlwm.

Yn yr ardaloedd mwyaf Seisnig:

y Gymraeg fydd iaith y sefyllfa dorfol bob amser

ni ddylid ailddweud popeth yn y Saesneg yn y sefyllfa dorfol

gellir arfer y famiaith wrth gyfathrebu’n unigol ar y cychwyn

dylid cysylltu llafaredd, darllen ac ysgrifennu wrth gyflwyno profiadau trwy’r Gymraeg.

dylid annog y plant i ymateb yn y Gymraeg, ac i adeiladu ar eu cynigion petrus, cynnar.

 

Llafaredd     top.gif (1017 bytes)

Gan mai dyma’r modd cyfathrebu mwyaf naturiol a pharod dylid:

ei annog fel cyfrwng cyson

ei feithrin o’r cyfnod cynharaf

seilio gwaith ysgrifennu yn y cyfnod cynharaf ar y ‘testunau’ mae plant yn gallu siarad amdanynt.

trefnu’r dosbarth yn grwpiau bychan o dro i dro fel bod plant yn gyfforddus wrth drafod mewn sefyllfa sy’n ‘ddiogel’.

manteisio ar sefyllfaoedd ‘anffurfiol’ i hybu llefaredd

e.e. drwy ofyn cwestiynau ‘agored’ eu natur yn y ‘ty bach twt’.

trafod testunau darllen unigolion ac ymateb yn llafar i’r stori a ddarllenir i’r dosbarth.

rhoi cyfle cyson i blant ailadrodd stori a glywsant

rhoi cyfle i blant adrodd hwiangerddi

rhoi cyson i blant ‘ddweud’ eu newyddion personol eu hunain

Dylid:

creu cyfleoedd i’r plant siarad am eu gweithgareddau cwricwlaidd, gan ofalu fod cwestiynau ‘agored’ yn rhan allweddol o’r symbyliad h.y. mae "Sut....?" yn fwy tebygol o ofyn am ateb estynedig na "Pwy....?" neu "Beth....?"

Mae "Gawsoch chi hwyl?" yn awgrymu ateb byr tra mae "Pam fod hyn - a - hyn

wedi digwydd?" yn awgrymu ateb hirach.

gosod y plant mewn sefyllfaoedd lle maent yn gorfod rhesymu e.e. cynllunio tasgau ymarferol neu dechnegol eu natur.

trafod nodweddion cymeriadau mewn storïau a’u cymhellion dros weithredu fel y gwnânt.

rhoi cyfle i blant grynhoi ar lafar y wybodaeth / ffeithiau a ddarllenwyd ganddynt yn eu tasgau ymchwiliol.

 

Darllen           top.gif (1017 bytes)

Mae’r deunydd a ddarllenir i blant ifanc, a chan blant ifanc, yn agor drysau’r dychymyg, a hynny yn ei dro yn porthi’r ysfa i ymateb iddo. Dyna pam fod rhannau o ddosbarthiadau Babanod yn aml yn ogofâu / plasau / coedwigoedd.....yr oll yn cynnig cyfleoedd i chwarae-rôl a thrwy hynny atgyfnerthu’r sgiliau llafar.

 

Dylid manteisio ar y ddarpariaeth gynyddol o lyfrau sy’n cynnwys storïau gafaelgar a chymeriadau apelgar i ddenu plant at ddarllen yn y Gymraeg.

Dylid codi disgwyliadau ynglyn â galluoedd plant ifanc i ymdopi â thestunau gwerth-chweil. Y nod yw codi plant at y llyfrau yn hytrach na gostwng y llyfrau at y plant. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â darllen i blant, lle mae ystum, goslef a phwyslais yn help i gyfleu’r ystyr.

Yn yr ardaloedd Cymreiciaf ni ddylid gresynu’n ormodol pan fydd ffurfiau fel "Rydw i...." a "Fe ddaethon nhw....", yn ymddangos. Ffurfiau sydd wedi hen ennill eu plwy yn ein llenyddiaeth ydynt, nid ‘bratiaith’!

Yn yr ardaloedd mwy Seisnigedig ni ddylid gresynu’n ormodol pan fydd ymadroddion fel "Doedd hi fawr o dro yn dangos iddi sut i’w trin a’u trafod....." yn ymddangos. Gyda chymorth sensitif athrawes a chyd-destun cryf y stori daw’r plant i ddeall.

Pan fydd plant yn dewis eu llyfrau darllen unigol fe ddylent gael cymorth i ddewis deunydd sy’n eu galluogi i ddilyn rhediad y stori.

 

Ysgrifennu         top.gif (1017 bytes)

Gan fod ysgrifennu yn fodd i gofnodi profiadau, gweithgareddau a theimladau dylid achub ar gyfleoedd i osod tasgau ysgrifenedig cyson, a hynny o gyfnod cynnar iawn.

Os mai trwy’r Gymraeg y buwyd yn ymwneud â’r gweithgaredd (h.y. y gwaith llafar cychwynnol, neu’r darn darllen) yna yn y Gymraeg y dylid cofnodi.

Os mai Saesneg oedd iaith y trafod cychwynnol yna mae’n rhesymol i’r cofnodi (disgrifiad, stori, dyddiadur.....) fod yn y Saesneg.

Yn y cyfnod cynnar dylid goddef ffurfiau llafar yn yr ysgrifennu; fel yr aeddfeda’r plant fe ddeuant i ymglywed â ffurfiau mwy safonol.

Angen cyntaf plentyn yw’r cystrawennau elfennol, yn hytrach na geirfa arbenigol. Mae’r rhain yn angenrheidiau yn yr iaith lafar hefyd.

Yn aml bydd dylanwad y Saesneg yn drwm ar ysgrifennu Cymraeg (fel yn wir y mae o gydag oedolion). Mater o ymresymu goddefgar ydi faint i’w dderbyn a faint i’w wrthod.

Y modelau cyson sy’n dangos sut mae ysgrifennu llwyddiannus yn digwydd yw llyfrau; felly mae’n bwysig fod athrawon yn darllen i blant yn ogystal ag annog y plant i ddarllen.

Y dystiolaeth gyntaf o hyfedredd yn y naill a’r llall ydi gallu i siarad, - i gyfarch, i gyfarwyddo, i egluro, i fynegi......Felly mae cynefino â’r trafod a’r disgwyliad ar i blant ddefnyddio’r ddwy iaith yn ôl yr angen, yn hanfodol.

Mae rhyngweithiad y moddau oll - y moddau Llythrennedd (Darllen ac Ysgrifennu) a’r Llafaredd - yn greiddiol e.e.

a) Mae darn ysgrifennwyd gan unigolyn yn gallu esgor ar drafodaeth fel canlyniad i’w ddarllen gan grp o blant.

b) Mae’r deunydd a ddarllenwyd er mwyn ennill gwybodaeth ffeithiol yn esgor ar drafodaeth grp am y prif bwyntiau, ac ar ddarn ysgrifenedig lle mae’r plentyn yn crynhoi, addasu, neu yn cyfieithu peth o’r wybodaeth.


  
  

LLAFAREDD

PROFIADAU A
GWEITHGAREDD
             

DARLLEN


 
  

YSGRIFENNU

 

Dwyieithrwydd - Holiadur Hyrwyddo      top.gif (1017 bytes)

  1. Oes yna gyfleoedd cyson i blant ddefnyddio’r iaith?

    Oes yna gyfleoedd cyson i blant weld yr iaith?

    Oes yna gyfleoedd cyson i blant glywed yr iaith?
  2. Ydi’r iaith yn rhan naturiol o’r profiadau, ynteu ydi hi’n bodoli yn ddigyswllt, ac heb gyd-destun?
  3. Ydi’r iaith yn cael ei chyflwyno i bwrpasau amrywiol?

    - i egluro
    - i holi
    - i gyfarwyddo
    - i gynnal
    - i ddiddanu
    - ............?

  4. Ydi’r plant yn y dosbarth yn cael eu hannog i ‘roi cynnig arni’, er na fyddan nhw ddim bob amser yn gywir?
  5. Ydyn ni, fel athrawon, yn ymwybodol o’r patrymau amrywiol sy’n hanfodol i’w meistroli os yw plentyn am ddefnyddio iaith

    - i gofnodi
    - i ragfynegi
    - i adfyfyrio
    - i ddisgrifio
    - i GYFATHREBU

  6. Oes yn barch yn cael ei ddangos i’r dafodiaith leol yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’r ffurfiau mwy ‘llenyddol’?

 

Arddangos yr Iaith          top.gif (1017 bytes)

A

Dyddiau’r wythnos

Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
......................
......................
...................... 

Misoedd y flwyddyn

Ionawr - January
Chwefror - February
Mawrth - March
................................
................................
................................

B

                      Ust! Plant yn gweithio!

Ogof dywyll y Cawr Coch ydi hon.

Peidiwch â gadael llanast yma!
    

Ga’i weld................?
       

Fedrwch chi gyfri’r trionglau? Ble maen’ nhw?

Pa mor dal ydan ni?

C

"Plis, Miss Davies, ga’i cliriwch y llyfrau rwan?"

Yn y frawddeg hon mae yna ôl dysgu.

Gwendid y frawddeg ydi "cyffredinoli" - heb sylweddoli mai berfenw sydd ei angen yn hytrach na ffurf orchmynnol y ferf.

Oes angen gwersi ar ferfenwau felly?