Yn ôl..

     

SAFONAU AC ANSAWDD MEWN YSGOLION CYNRADD:

Effeithiolrwydd HMS Cymraeg Ail Iaith ar gyfer Athrawon Cynradd Di-Gymraeg

Yn ôl yr hyn a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn ymddengys bod sefyllfa Môn a Gwynedd, o ran HMS ar gyfer athrawon di-Gymraeg, yn wahanol i’r hyn a geir yn y siroedd eraill.

Yn unol â pholisi penodi’r Awdurdod, sy’n weithredol er mwyn bodloni gofynion Polisi Iaith y sir, ni pheodir athrawon di-Gymraeg i fod yn addysgwyr yn y sector cynradd. Beth bynnag cyfyd amgylchiadau, o dro i dro, lle mae’n rhaid penodi athrawon di-Gymraeg, a hynny fel arfer yn yr ysgolion Catholig lle mae siaradwyr Cymraeg sy’n arddel y ffydd honno’n brin. O ganlyniad, athrawon uwchradd yw’r mwyafrif sy’n mynychu’r cyrsiau hyn. Beth bynnag fe ganiateir i athrawon cynradd newydd i’r sir sy’n awyddus i gael eu cynnwys ar y rhestr athrawon llanw neu i gael swydd mewn ysgol maes o law i fynychu’r cyrsiau’n wirfoddol.

PRIF GASGLIADAU

YMATEB YR AWDURDOD

1. Y mae rhaglenni HMS y siroedd yn gyfansawdd eu natur, yn dangos amgyffrediad da o anghenion athrawon o Ddysgwyr, ac yn cael eu cynnal yn effeithiol. Y mae athrawon yn werthfawrogol iawn ohonynt. 1. Teg dweud bod disgwyliadau’r cwrs a drefnir ar ran y tri Awdurdod yn uchel. Y mae tair lefel iddo, sef:

Blwyddyn 1 Cwrs Pymtheg yn y Dwsin

Cwrs 37 niwrnod ar gyfer dechreuwyr ydyw hwn, ac fe ryddheir yr athro o’r ysgol am ddiwrnod bob wythnos. Disgwylir i aelodau’r cwrs sefyll arholiad CBAC ‘Defnyddio’r Gymraeg’ (Safon TGAU) ar ddiwedd y flwyddyn. Cynhwysir yn y cwrs wasanaeth bugeiliol ar gyfer pob aelod er mwyn sicrhau y defnyddir y Gymraeg yn effeithiol yn y man gwaith, a chynhelir penwythnos yn Nant Gwrtheyrn fel rhan o’r ddarpariaeth.

Blwyddyn 2 Cwrs Croesi’r Bont

Cwrs 37.5 niwrnod ar gyfer dysgwyr da gyda pheth meistrolaeth ar yr iaith ydyw hwn, ac sydd eisoes wedi sefyll yr arholiad uchod. Eto, fe ryddheir yr athro o’r ysgol am ddiwrnod bob wythnos. Disgwylir i aelodau’r cwrs sefyll arholiad CBAC ‘Defnyddio’r Gymraeg’ (Safon Uwch) a/neu ennill credydau Lefel 3 gyda Chonsortiwm Mynediad ac Achredu Gogledd Cymru ym mis Mehefin. Cynhwysir yn y cwrs hwn hefyd wasanaeth bugeiliol ar gyfer pob aelod er mwyn sicrhau y defnyddir y Gymraeg yn effeithiol yn y man gwaith, a chynhelir penwythnos yn Nant Gwrtheyrn fel rhan o’r ddarpariaeth.

Cwrs Hwb Ymlaen - Dilyniant i’r uchod yn y drydedd flwyddyn

Cwrs undydd a gynhelir ddwywaith y tymor ydyw hwn, y naill ddiwrnod yn ystod diwrnod gwaith a’r llall ar ddydd Sadwrn. Prif nod y cwrs hwn yw gloywi iaith y Dysgwyr.

2. Ceir mesur da o gydweithio rhwng nifer o’r siroedd er mwyn sicrhau’r amrywiaeth a’r amrediad ehangaf posibl o gyrsiau oddi mewn i derfynau’r cyllidebau sydd ar gael. 2. Trefnir cyrsiau ar y cyd rhwng Awdurdodau Addysg Gwynedd, Môn a Chonwy trwy drefniant â Choleg Menai, ac mae tiwtor-drefnydd yn gyfrifol am eu cynnal.

 

3. Y mae’r cyrsiau ar gyfer dechreuwyr yn paratoi athrawon yn dda ar gyfer cyflwyno Cymraeg sylfaenol i blant CA1 a blynyddoedd cynnar CA2 3. Llwydda’r cwrs hwn i baratoi athrawon ar gyfer cynnal ethos Gymraeg yr ysgol, cyflwyno’r Gymraeg i ddisgyblion, yn ogystal ag addysgu pynciau eraill y Cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd fe’i paratoir ar gyfer sefyllfaoedd eraill a gyfyd yn yr ysgol o ddydd i ddydd megis sgwrsio gyda staff, trafod gyda’r pennaeth ac adrodd i rieni ar gynnydd eu plentyn mewn noson rieni.
4. Y mae llai o athrawon yn mynychu’r cyrsiau lefel uwch. Ar eu gorau, pan fo’r amodau’n briodol, y mae’r cyrsiau hynny’n paratoi athrawon yn effeithiol ar gyfer addysgu plant CA2. Yn aml, fodd bynnag, nid yw’r amodau o ran hyd y cyrsiau na chefndir ieithyddol yr athrawon yn caniatau llwyddiant o’r math hwnnw. Y mae enghreifftiau o athrawon yn mynychu cyrsiau sy’n anaddas am eu bid ar lefel ieithyddol sy’n rhy uchel iddynt.

5. Prin yw’r cyrsiau sy’n ddigon estynedig a dwys i baratoi athrawon sy’n ddechreuwyr yn ddigonol ar gyfer addysgu ym mrig CA2.

4 a 5. Fel arfer bydd pawb fydd yn dechrau dilyn y cwrs yn cyrraedd y nod ymestynnol o sefyll arholiad CBAC ‘Defnyddio’r Gymraeg’ Safon Uwch. Oherwydd gofynion uchelgeisiol y cwrs sicrheir meithrin digon o adnoddau ieithyddol ar gyfer addysgu plant o bob oedran, er, teg dweud mai Dysgwyr yw’r mwyafrif o’r disgyblion a gaiff eu haddysgu gan fynchwyr y cyrsiau hyn fel arfer. Hyderir mai natur dwys y cwrs, o ran disgwyliadau ac amser, yw’r allwedd i’r llwyddiant hwn.
6. Y mae ôl-ofalaeth yr athrawon bro yn yr ysgolion yn greiddiol i lwyddiant parhaol y cyrsiau o ran dylanwadu’n gadarnhaol ac yn gyson ar y ddarpariaeth a’r safonau. 6. Trefnir rhaglen gynhaliol i’w gweithredu’n yr ysgol lle mae’n ofynnol i’r Dysgwr enwi mentor sy’n rhugl yn y Gymraeg a fydd yn gyfrifol am ei helpu yn ystod y flwyddyn. Pwrpas y rhaglen hon yw cynnig cynhaliaeth i’r Dysgwr yn y gweithle.

Yn ychwanegol at hyn trefnir ymweliad gan y tiwtor ag ysgol yr aelodau. Yn ystod yr ymweliad hwn bydd y tiwtor yn sgwrsio â’r pennaeth a’r mentor i drafod cynnydd yr aelod, yn ogystal â’r cyfleoedd a gaiff i ymarfer ei Gymraeg yn y gweithle. Trwy’r ôl ofal hwn sicrheir gan y tiwtor bod y rhaglen a lunnir ar gyfer sicrhau datblygiad yn yr ysgol yn cael ei gweithredu’n effeithiol.

7. O ganlyniad uniongyrchol i’r cyrsiau HMS a gwasanaeth ôl-ofal athrawon bro, ceir enghreifftiau nodedig o ddarpariaeth a safonau da yn CA1 ac ar ddechrau CA2. Y mae ambell enghraifft eithriadol o waith da ym mrig CA2, ond y mae’r enghreifftiau hynny’n fwy anghyffredin. 7. Gan fod amrywiaeth eang yn y pynciau a ddysgir gan fynychwyr y cwrs, sydd fel arfer yn athrawon uwchradd, ni chynigir hyfforddiant ar fethodoleg cyflwyno’r Gymraeg. Beth bynnag mae’r cynllun gwaith a luniwyd ar gyfer y cwrs wedi’i seilio ar sefyllfaoedd sy’n codi o fewn ysgol e.e. bydd y gwaith chwarae rôl a wneir yn gosod y Dysgwr mewn sefyllfa arbennig yn yr ysgol, a theimlir bod hyn yn gweithio’n effeithiol ac yn paratoi’r athro ar gyfer bywyd Cymraeg yn yr ysgol. Beth bynnag tuedda’r cwrs hefyd i ddylanwadu’n anuniongyrchol ar fethodoleg yr athrawes gynradd pan fo’n datblygu gafael y Dysgwyr sydd o fewn ei dosbarth ar yr iaith, gan iddi dynnu ar ei phrofiad ei hun o fod yn Ddysgwr, ac efelychu dulliau addysgu’r tiwtor.