Gloywi Mynegiant Llafar Disgyblion
______________________________________Yn ôl..

Canllawiau i Ysgolion Môn a Gwynedd

Cynnwys

Rhagymadrodd
Rhan I   - Bwydo
Rhan II  - Gweithgareddau Gloywi
Rhan III - Arfarnu
Atodiad

Rhagymadrodd

Yn unol â’i allu a’i gyrhaeddiad llafar mae’r plentyn yn atgynhyrchu yr iaith y mae’n gyfarwydd â hi.

Felly, os mai’r unig fath o iaith a glywodd plentyn 5 oed sy’n dod i’r ysgol am y tro cyntaf yw bratiaith, yna ni all gynhyrchu dim ond bratiaith ei hun. Efelychu yw’r hyn a wneir ganddo ac mae’r amgylchfyd y mae’r plentyn yn byw ac yn bod ynddo yn cynnig y model iddo ei efelychu - mae o’n driw i’w draddodiad, yn hyn o beth. ‘Hysbys y dengys y dyn ...’

Yr un modd gyda phlentyn ddaw o gartref lle siaredir iaith safonol, lle mae gofal am y defnydd o eiriau, ymadroddion a brawddegau. Mae’r model a gynigiwyd iddo am bedair neu bum mlynedd gyntaf ei fywyd yn sylfaen i’w iaith ei hun.

Yr hyn sy’n rhyfedd, fodd bynnag, yw fod yr iaith Gymraeg ar wefusau plant o gartrefi eithaf diwylliedig a safonol eu haith yn gallu bod yn fratiog yn aml. Fe wyddom am rieni sydd yn barhaus gwyno fod eu plant eu hunain yn mynnu dweud ‘dau geiniog ..... côt fi..... roedd nhw .....’, er na chlywson nhw’r fath esiamplau gartref.

Mae cyfrifoldeb yr ysgol yn fawr, felly. Rhaid ceisio’n barhaus i ddisodli’r gwendidau llygredig hyn a chael y plentyn i gaboli ei iaith lafar fel ei fod yn gallu cyfathrebu’n fwy effeithiol - nage, yn fwy cywir. Gall criw o blant sy’n sgwrsio’n garbwl iawn efo’i gilydd gyfathrebu’n effeithiol i’w diben eu hunain, ond pan maent angen cyfathrebu mwy safonol a chyda cynulleidfa o oedolion mwy beirniadol eu natur mae gwendidau’r mynegiant yn llesteirio’r llwyddiant.

Beth a wneir felly?

a) Yn amlach na pheidio rhaid inni roi’r sylw i gystrawen yn hytrach nag i eiriau unigol;

b) Rhaid cydnabod blaenoriaethau sy’n mynd i effeithio ar  ysgrifennu yn ogystal â llafaredd, e.e.

mae cywiro "Mae fi ..."

"Gwelodd nhw ...."

yn llawer pwysicach na chywiro diffygion dyblu ‘n’ fel yn ‘tynnu’ a ‘synnu’;

c) Mae creu sefyllfaoedd sy’n rhoi cyfleoedd i ymarfer patrymau llafar yn bwysig. Gellir cynllunio i ofalu fod y patrymau ‘gwan’ yn cael eu drilio a’u hymarfer yn gyson.

Gofalu am Gwestiynau

Mae’n bwysig manteisio ar dechneg holi pwrpasol sy’n anelu at atebion ‘mwy nag un gair’.

Mae gofalu bod cwestiynau "Pam .....?" yn cael eu gofyn yn bwysig, i annog patrymau megis

"...... er mwyn cael mynd i’r disgo"
"...... am ei fod o’n un gwyllt ei dymer."
"...... oherwydd nad oedd hi’n gallu dawnsio."
"...... achos eu bod nhw’n gymdogion"

Yr un modd, mae "Sut ....?" yn gwestiwn defnyddiol ar gyfer atebion helaethach, e.e.

"...... roedd yn rhaid iddyn nhw dalu am y cwbl"
"...... wel, roedd ‘na lawer o gwffio’r adeg hynny."
"...... wel, mi glywodd o’r baban yn crio yn ei grud ..."

Cyflwyno model cywir

Mae defnyddio model cywir o’r ffurf ieithyddol/gystrawen yn bwysig. Dylai athrawon ofalu nad ydyn nhw’n gorffen brawddeg gydag arddodiad! Dysgu trwy ddynwared ac efelychu mae siaradwyr yr iaith, boed nhw’n ddwyflwydd oed neu’n wyth oed. Felly mae’r patrwm a gynigiwn iddynt - mewn gweithgareddau penodol ac wrth sgwrsio’n anffurfiol - yn bwysig.

Peidiwn â llithro i holi’r plant fel hyn :-

"Ble roedd o wedi mynd i?"
"Pwy oedd y Doethion yn holi am?"
"Beth mae o’n edrych fel?"

Peidiwn â dweud ein bod yn mynd i’r meddyg na rhybuddio’r plant ein bod "yn gweld chi" nac "yn clywed chi".

A pheidiwn â dweud wrth y plant sydd am ddechrau gweithgaredd paentio "rhowch eich ffedog ar/ymlaen".

Gall amrywio ffurf y cwestiwn - a’r ddwy ffurf yn gywir - fod yn beth derbyniol e.e.

"Sut wnaeth o deithio?" / "Sut deithiodd o?"

"Dwedwch wrthon ni am y prif gymeriad" / "Soniwch dipyn am y prif gymeriad ......"

Gwneud yr iaith yn weledol

Dull arall o gyflwyno model cywir i’r disgyblion i fireinio eu hiaith yw arddangos patrymau a chystrawennau ar waliau’r ystafell ddosbarth. Cyn torri am egwyl, dyweder, awgrymir neilltuo amser - cyfnod o 5 munud - i sylwi arnynt, gan wneud hynny’n gyson. Cofier, os oes poster perthnasol i’r gwaith a gwblheir ar y pryd, da o beth yw i’r athro gyfeirio ato cyn dechrau ar dasg, ac yna ar y diwedd, gan eu hannog i arfarnu eu gwaith drwy sylwi a wnaethant ddefnyddio’r gystrawen yn gywir.

______________________________________
RHAN I

Bwydo

Fel y dywedwyd eisoes prin yw’r cyfleoedd a gaiff disgyblion heddiw i glywed Cymraeg gloyw y tu allan i’r ysgol. Gwyddom, hefyd, mor hawdd yw dylanwadu ar blant, ac am eu parodrwydd i godi iaith o’i chlywed - beth bynnag yw’r iaith o’u cwmpas. Felly gyda’r dylanwad estron mor gryf rhaid inni fel athrawon chwilio am gyfleoedd i loywi’r Gymraeg a cheisio ymwrthod â derbyn bratiaith.

Pa gyfleoedd y gellir bachu arnynt?

  • Cyn dechrau ar dasg, boed yn llafar neu’n ysgrifenedig - dyma gyfle gwych i loywi iaith h.y. cyn i’r disgyblion wneud y camgymeriadau.
  • Wrth orffen gwaith gellir achub ar y cyfle i fireinio’r patrymau drwy arfarnu’r gwaith (gweler yr adran ar Arfarnu).

Gloywi geirfa

Er mwyn bwydo geirfa i gyfoethogi iaith disgyblion awgrymir ystyried y dulliau canlynol:

  • cyflwyno teitl a chwilio am yr eirfa berthnasol i gyd-fynd ag ef (brainstorming);
  • wrth gyflwyno thema newydd neilltuo rhai munudau i bledu geirfa berthnasol;
  • rhagweld pa adnoddau iaith fydd eu hangen er mwyn cwblhau’r dasg, a chyflwyno’r patrymau a’r eirfa i’r disgyblion cyn gosod y dasg.

Gellir ystyried y posibiliadau canlynol, hefyd, wrth weithio ar destun neu thema arbennig:

  • parau i feddwl am bum ansoddair da yn seiliedig ar y destun penodol, ac adrodd yn ôl. Yna gellid ymestyn ar hynny drwy eu hannog i fynd at bâr arall ac edrych ar y ddwy restr gan lunio deng ansoddair da, gwahanol.
  • defnyddio llun, ac ymateb i hwnnw drwy chwilio am ansoddeiriau addas.

Cyfoethogi cystrawennau

Rhaid cofio hefyd nad geirfa yn unig y mae angen ei chyflwyno. Rhaid graenuso cystrawennau disgyblion, ac, os am wneud hynny, rhaid cyflwyno iddynt batrymau i’w defnyddio. Mae’r cyfleoedd a gyfyd i’w cyflwyno yn niferus: gwers wyddoniaeth, hanes, daearyddiaeth - y mae pob maes yn y cwricwlwm yn cynnig y cyfle i ddatblygu iaith disgybl, a theg yw cofio fod pob athro yn athro iaith, beth bynnag y bo ei bwnc.

Cyfrifoldeb yr athro, felly, yw rhagweld, a bod yn ymwybodol o’r cystrawennau sy’n debygol o godi mewn tasg arbennig, ac yna neilltuo amser i’w cyflwyno a’u drilio cyn gosod y plant ar waith.

Dulliau

Y dull traddodiadol yw i’r athro eu nodi ar y bwrdd du/bwrdd gwyn/siart fflip. Mae hyn yn arfer dda gan fod y gweld yn helpu’r cof, a hwnnw sy’n gefn i’r glust!

Gweithgaredd arall posib yw rhoi pentwr o gardiau fflach i grp, ac wrth adrodd yn ôl awgrymu eu bod yn eu defnyddio fel adnodd, pe bai angen, er mwyn cyfoethogi’r patrwm. Er enghraifft, wrth adrodd ar arbrawf gwyddonol ceir cyfle i bwysleisio’r defnydd o’r amser gorffennol cryno. Tuedd disgyblion fyddai dweud "aru fi roi", "aru fi weld" "aru fi sylwi" . Trwy gael eu bwydo cyn dechrau ar y dasg gyda berfau megis rhoddais, gwelais, sylwais, byddai’r arfau ieithyddol gan y disgyblion i’w helpu i gyflawni’r gwaith gyda mynegiant cywir ac effeithiol. Pwysleisir, hefyd, na ddylid ceryddu’r disgyblion os nad ydynt yn eu defnyddio, yn hytrach, fe ddylid eu canmol a’u gwobrwyo pan lwyddir i’w defnyddio’n gywir.

______________________________________
RHAN II

Gweithgareddau Gloywi

Drilio

Wedi cyfnod pan ystyriwyd drilio yn weithgaredd di-angen, a di-bwrpas a’i fod yn gwneud dim i gynorthwyo datblygiad iaith, rhaid cydnabod bellach fod drilio yn ffasiynol unwaith eto! Pam hynny? Sylweddolir bod rhaid i ddisgybl glywed cystrawen sawl tro cyn y bydd yn llwyddo i’w chofio, a heb i’r gystrawen gael ei ‘chadw’ ar y cof ni fydd ar gael i’w defnyddio. O’r herwydd mae’r broses gychwynnol hon o ddrilio yn un allweddol bwysig os yw’r disgybl yn mynd i lwyddo.

Cyn mynd ati i ddrilio dylai’r athro benderfynu pa gystrawen/eirfa y dymuna ei chyflwyno. Dylai hyn ddibynnu ar:

  • gyrhaeddiad ieithyddol y disgybl gan sicrhau bod y ‘dril’ yn mynd i ddatblygu ei afael ar yr iaith;
  • pa gystrawen sy’n amlwg yn y sbardun neu’r symbyliad a ddefnyddir - boed yn weledol, glywedol neu’n ddeunydd darllen;
  • pa eiriau/cystrawennau sy’n berthnasol i’r thema a ddilynir.

Rhaid i’r dril fod yn cysylltu’n agos â’r gwaith iaith fydd yn dilyn - rhaid bod pwrpas i’w ddysgu.

Trefniadaeth

Yngln â threfniadaeth drilio, awgrymir cadw at weithgaredd dosbarth cyfan ar y dechrau, gyda’r disgyblion yn cyd-ynganu gyda’r athro. Yna gellid symud ymlaen at gael unigolion yn ailadrodd y dril ar ôl yr athro. Gwneir hyn er mwyn sicrhau’r elfen glywedol. Yna pan fo’r athro’n hyderus bod y disgyblion yn barod i’w ddweud ar eu pen eu hunain gellid pwyntio at unigolion yn eu tro iddynt ei ynganu. Dylai hyn ddatblygu o fod yn athro-ganolog i fod yn ddisgybl-ganolog trwy symud yn sydyn o’r naill ddisgybl at y llall.

Cyflymder

Pwysleisir na ddylid cynnal y gweithgaredd drilio am fwy na phum munud ar y tro oherwydd gellir yn hawdd ladd awydd y disgybl. Hefyd, rhaid symud y gwaith drilio ar gyflymder slic a rhwydd: os yw disgybl yn oedi cyn ateb dylai’r athro symud at ddisgybl arall ac yna mynd yn ôl at y disgybl blaenorol pan fo’r athro’n credu ei fod wedi clywed y gystrawen yn ddigonol a’i fod yn mynd i lwyddo i ateb.

Gêmau Drilio

Gwelwyd bod defnyddio gêmau drilio yn ddull effeithiol o sicrhau gafael disgyblion ar batrymau, ac awgrymir y dylid manteisio ar y cyfle hwn i gynnig ychydig o hwyl i’r disgyblion wrth iddynt ddysgu. Cynigir isod rai syniadau am gêmau drilio, a chanllawiau ar sut i’w gweithredu. Rhaid cofio mai gweithgareddau sy’n codi‘n naturiol o’r gwaith dan sylw yw’r rhain, gyda’r ffocws ar danio’r meddwl a gloywi’r glust

Gweithgareddau pêl neu fag ffa

Yn hytrach na bod yr athro yn defnyddio’i lais i enwi a galw disgyblion gellir defnyddio pêl i weithredu fel y gorchymyn

Sut i fynd ati

Cymerer mai doeddwn i ddim yn... yw’r gystrawen dan sylw:

  1. y disgyblion i sefyll mewn cylch;
  2. yr athro i sefyll yn y canol yn taflu’r bêl at ddisgybl gan roi cyfle i bawb ei dal yn ei dro;
  3. wrth ddal y bêl disgwylir i’r disgybl adrodd y dril, ac ychwanegu ati e.e. doeddwn i ddim yn yr ysgol ddoe;
  4. yna ei thaflu’n ôl at yr athro.

Hynny yw, y nod yw ynganu’r patrwm/gystrawen sy’n cael ei drilio a llenwi’r bwlch yn synhwyrol a chywir - ac yn hwyliog pe byddai’n bosib.

Os yw’r disgybl yn llwyddiannus wrth ddal y bêl neu wrth ddweud y gystrawen fe gaiff aros ar ei draed. Os nad yw’n llwyddo mae’n rhaid iddo eistedd. Caiff gyfle i ailafael yn y gêm os yw’n codi’i law ac yn cynnig ateb arall.

Yna ar ôl cyfnod o arfer â hyn gellir cyflwyno person arall e.e. y trydydd person, a pharhau â’r gêm drwy gael:-

  1. plentyn A yn dweud y ffurf negyddol amherffaith yn y person cyntaf: doeddwn i ddim yn yr ysgol ddoe;
  2. yna taflu’r bêl at blentyn B. Bydd yr athro bellach yn rhan o’r cylch yn hytrach na’n sefyll yn y canol, a bydd yn gadael i’r disgyblion reoli’r bêl. Bydd rhaid i blentyn B ddweud y gystrawen yn y trydydd person:
    e.e. ‘Doedd o ddim yn yr ysgol ddoe...

Y mae’r posibliadau o ddefnyddio’r gêm hon yn ddiddiwedd. Dyma batrymau eraill y gellir eu defnyddio ar yr un syniad:

‘Mae gen i   -  ‘Does gen i ddim’
‘Mae ganddo fo’  -  ‘Does ganddo fo ddim’
‘Byddaf i’        -        ‘Fyddaf i ddim’
‘Rydw i’    -       ‘Dydw i ddim’
‘Cytunaf’   -      ‘Anghytunaf’

Wrth gwrs fe ellir addasu’r gêm hon ar gyfer unrhyw ddril dan sylw.

Datblygiad ar hyn, hefyd, yw’r canlynol lle chwilir am gyfleoedd i ddileu gwendidau cyffredin trwy ddrilio e.e. ffurfiau negyddol/ffurfiau berfol.

Plentyn 1

Plentyn 2

1. Mae gennym ni ________   ond  does gennym ni ddim _________
2. Dydy’r siop ddim yn gwerthu   ond mae hi’n gwerthu ________

Priod-ddulliau

Yn anffodus mae clywed defnydd naturiol o briod-ddulliau ar dafod leferydd wedi prinhau. Ein cyfrifoldeb ni, felly, fel athrawon, yw cyflwyno stôr ohonynt i’r disgyblion dynnu arnynt i’w defnyddio.

Wrth ddethol priod-ddulliau rhaid inni ganolbwyntio ar y rhai sy’n debygol o gael eu defnyddio ar lafar yn ein cymdeithas gyfoes. Cymerer priod-ddull megis canu’n iach. Rhaid holi pryd y clywsom y priod-ddull hwn yn cael ei ddefnyddio ar lafar ddiwethaf? Mwy pwrpasol fyddai cyflwyno priod-ddulliau megis:-

wrth fy modd
ar bigau’r drain
traed moch
hollti blew
traed brain
tynnu coes
torri calon
taro’r hoelen ar ei phen
ar ei ben ei hun
rhoi’r ffidil yn y to
rhoi’r gorau iddi
chwilen yn ei ben
tynnu nyth cacwn am ei ben

tynnu dWr o ddannedd
llyncu mul
canmol i’r cymylau
gorau glas
ara’deg
cochi at ei glustiau
dros ben llestri
newydd sbon
llond bol
bob yn ail
gormod o raff
ar flaen ei dafod
ar binna

Drilio Priod-ddulliau

Yr un yw’r syniad yma ag uchod, h.y. mae’r disgyblion yn sefyll mewn cylch a’r athro’n sefyll yn y canol. Trwy i’r disgyblion dderbyn y bêl yn eu dwylo daw’r gorchymyn gyda hi i ddweud ar goedd briod-ddull a wyddant. Wrth gwrs bydd rhain wedi’u casglu’n raddol yn eu meddyliau dros gyfnod o amser - drwy lyfr iaith y dosbarth, gwaith ar y thema, sylwi arnynt mewn llyfrau, gwaith ymchwiliol a.y.y.b. Yna dylai’r disgybl nesaf yn y cylch ddweud beth yw ystyr y priod-ddull e.e. tynnu coes - herian. Yma eto ceir rheol debyg, ond y tro hwn pan fo disgybl yn llwyddiannus wrth ddal y bêl ac wrth geisio dwyn priod-ddull i gof, fe gaiff eistedd.

Posibilrwydd arall wrth gyflwyno priod-ddulliau yw chwarae Charades gydag un disgybl yn meimio a’r gweddill yn ceisio dyfalu pa briod-ddull sydd dan sylw; mae hyn yn ardderchog ar gyfer sbarduno deng munud o fwynhad ar ddiwedd gwers, a’r gamp arbennig yw eu defnyddio yn y dasg lafar/ysgrifenedig sy’n dilyn. Yn ogystal â hyn gellir defnyddio cardiau fflach megis y rhai a gyhoeddir gan Urdd Gobaith Cymru, a’r gamp yma yw dyfalu pa briod-ddull sy’n llechu yn y llun - dull cofiadwy o berthnasu priod-ddull i sefyllfaoedd arbennig.

Gweler Atodiad 1 am restr o’r priod-ddulliau uchod ar gyfer eu chwyddo a’u lamineiddio i’w defnyddio yn y dosbarth.

Troi at y Treigladau

Mae’r treigladau yn codi problemau’n gyson ymysg plant - ac athrawon! Nid oherwydd na yr yr athrawon sut i dreiglo; yn hytrach cyfyd y broblem wrth benderfynu pa dreigladau y dylid eu cyflwyno, pryd y dylid gwneud hynny, a sut.

Pwysleisir mai gyda disgyblion sy’n barod i’w derbyn yn unig y dylid eu cyflwyno. Ni ddylid, ar unrhyw gyfrif, ddrysu disgyblion nad yw eu cyrhaeddiad yn y Gymraeg eisoes o safon dda. Er hyn, yn y pegwn arall, dylid ymestyn disgyblion mwy galluog drwy eu hatgoffa i arfarnu eu gwaith ar ddiwedd gweithgaredd i edrych a ydynt wedi’u defnyddio’n gywir ai peidio.

Un peth pwysig i’w gofio wrth gyflwyno’r treigladau yw fod rhaid cynnwys elfen o fwynhad a gochel rhag lladd yr ysbryd!

Dysgu treigladau trwy rigymau

Y mae’r ‘rhigymau’ canlynol yn canolbwyntio ar y math amlycaf o dreiglad trwynol a llaes, sef ar ôl fy ac ar ôl ei benywaidd. Awgrymir na ddylid cyflwyno’r treigladau llaes eraill i’r disgyblion gan na ddefnyddir hwy ar lafar mor aml â hynny. Purion o beth yw i athrawon fod yn ymwybodol o’r gwahanol enwau ar y treigladau, ond lle mae plant yn y cwestiwn dod i’w defnyddio’n reddfol, yn hytrach na’u hadnabod dan eu henwau, yw’r nod. Oherwydd hyn nid yw eu harddangos ar fur y dosbarth yn unig yn eu rhoi yng ngenau’r disgybl.

Gall yr athrawon hynny sy’n fwy hyderus ym myd y gân greu neu fenthyg alaw i gyd-fynd â’r ‘rhigymau’ - ond gall eraill fodloni ar ‘siant’!

Fy nghorff - Treiglad Trwynol

Corff Catrin - Treiglad llaes

Corff Colin - Treiglad Meddal

Fy mhen, fy nhraed,
Fy nghlust, fy ngheg,
Fy mol, fy nwylo, fy nannedd

Ei phen, ei thraed,
Ei chlust, ei cheg,
Ei bol, ei dwylo, ei dannedd.

Ei ben, ei draed
Ei glust, ei geg,
Ei fol, ei ddwylo, ei ddannedd.

Awgrymir bod y disgyblion yn pwyntio at rannau’r corff wrth wneud hyn er mwyn cyflwyno elfen o hwyl, a gall yr athro eu hannog i symud yn sydyn drwy’r rhannau. Os na lwyddir i bwyntio at y rhan gywir i gyd-fynd â’r enw perthnasol e.e. y bol, mae’r disgybl yn ‘colli bywyd’!

Gellid hefyd addasu’r gêm gyntaf y soniwyd amdani. Dychmyger mai’r treiglad trwynol sydd dan sylw. Tro hwn byddai’r athro yn y canol yn dweud:

e.e. pen

Byddai’n rhaid i’r plentyn sy’n derbyn y bêl ddweud ‘fy mhen’, ac yna taflu’r bêl yn ôl at yr athro. Os yw’n ateb yn gywir, gall yr athro symud at ddisgybl arall yn y cylch. Os yw’n anghywir, awgrymir bod yr athro naill ai yn ail daflu’r bêl ato er mwyn iddo ail feddwl, neu’n symud at ddisgyblion eraill cyn mynd yn ôl at y disgybl.

Defnyddio Rhifolion a Threfnolion

Yn aml bydd disgyblion yn baglu wrth geisio defnyddio’r rhifolion safonol gan ddweud un deg dau yn hytrach na deuddeg, er enghraifft. Teimlir bod angen annog disgyblion i ddefnyddio’r dull safonol, ac felly ein cyfrifoldeb ni fel athrawon yw eu dysgu iddynt.

Bingo Rhifolion

1. Wedi i’r dosbarth ddysgu’r rhifolion ar y cof rhaid i’r disgyblion i gyd gofnodi tri rhifol rhwng 10 a 30, dyweder, ar damaid o bapur e.e. papur disgybl A:

17 25 11

2. Caiff un disgybl ddod i’r tu blaen i dderbyn cynigion aelodau eraill y dosbarth, dylai ef hefyd gofnodi tri rhifol.

3. Nod y disgyblion eraill yw dyfalu pa rifolion sydd ar ei damaid papur ef, e.e 25, 10, 27.

Yn wahanol i’r gêm arferol awgrymir bod y disgyblion, yn eu tro, yn holi a yw rhifol arbennig ar bapur y disgybl sy’n arwain, er mwyn ymarfer y rhifolion. Golyga hyn fod pob disgybl yn y dosbarth, yn ei dro, yn gorfod meddwl a dweud un o’r rhifolion e.e.

  • cynnig disgybl A i’r galwr : dau ar bymtheg?
  • galwr: nac ydi, dydy o ddim gen i.
  • disgybl B : pump ar hugain?
  • galwr: ydi, mae o gen i.

Golyga hyn y caiff disgybl A, a phob disgybl arall sydd â’r rhif ar ei bapur, groesi’r rhif hwnnw oddi ar ei restr...

Y cyntaf i groesi’r tri rhifol yw’r buddugol.

Gloywi’n gyson

Wedi iddynt arfer dweud y rhifolion gallai athrawon fynnu bod y disgyblion yn eu defnyddio wrth sôn am oedran, digwyddiadau a.y.y.b. ac wrth gwrs, pwyntiau i’r sawl a lwydda!

Cofier ei bod yn bosib gweithredu’r un gweithgaredd yn union gyda’r trefnolion, gan ddechrau o’r cyntaf a gweithio at yr ugeinfed.

Un arfer dda a welwyd mewn sawl ysgol uwchradd, nid yn unig yn y wers Gymraeg ond hefyd yn draws-bynciol, yw annog disgyblion i ysgrifennu’r dyddiad yn llawn yn eu llyfr, gan ddefnyddio’r trefnolion, ar ddechrau darn ysgrifenedig e.e.

Gwaith dosbarth                  Yr ail ar bymtheg o Dachwedd

a gellir derbyn bod hyn hefyd yn ddull o ddysgu’r glust.

Gêmau eraill i loywi’r glust

Stori Lafar

I ymarfer yr amser gorffennol gellir creu stroi lafar drwy daflu pêl, a bydd y sawl sy’n ei dal yn ychwanegu pwt i ddatblygu’r stori e.e.

Fy niwrnod i:-

Person A - mi godais am saith
Person B - mi ymolchais
Person C - mi fwytais fy mrecwast.

Gellir hefyd ei chyflwyno yn y trydydd person e.e. Diwrnod John
Roedd hi’n braf
Cododd John yn fore
Baglodd lawr y grisiau wrth nôl brecwast...

Bachu’r berfau cryno

Gêm addas i’w defnyddio wrth ddrilio terfyniadau cryno’r ferf yw ‘Fe es i’r dref ...’Bydd person A yn dweud ‘fe es i’r dref ac fe brynais gig’.

Yna datblyga’r gêm drwy ailadrodd ac ychwanegu at y frawddeg.

e.e. ‘Fe es i’r dref, fe brynais gig ac fe welais Mam Siw’

Wrth gwrs erbyn yr wythfed person bydd hi’n dipyn o dasg cofio’r cyfan!

Gellid hefyd symleiddio’r uchod trwy ei dalfyrru:-

A - ‘Fe es i’r dref ac fe brynais gig’
B -
‘Fe es i’r dref ac fe brynais gig a phwys o afalau’
C -
‘Fe es i’r dref ac fe brynais gig, pwys o afalau a dwsin o wyau...’

Syniad arall yw darparu parau o gardiau

‘gosodiad ac ymateb’ neu
‘achos ac effaith neu
‘gwestiwn ac ateb’

a chwarae pelmanism lle mae’r plant fesul un yn codi dau gerdyn i geisio cael cyfatebiaeth, ond yn dweud y geiriau cyn eu gosod yn ôl. Mae yna, felly, lawer o ddrilio’r patrymau ac o glywed y patrymau, a hynny yng nghyd-destun gweithgaredd sy’n diddanu.

e.e. Roedd hi’n glawio heddiw / felly chawsom ni ddim chwarae pêl-rwyd.
        Sut ‘dach chi’n dod i’r ysgol? / Dwi’n teithio ar y bws.

Sgwrs a thrafodaeth

I wneud hyn dylid rhoi set o gardiau i un pâr sy’n cynnwys geiriau allweddol i’r grwp e.e.
hela...., creulon....,amddiffyn.... cotiau coch.......

Rhaid iddyn nhw greu sgwrs/deialog ymysg ei gilydd, gan wneud defnydd o’r geiriau (llafar nid ysgrifennu).

Yna rhoi set o ymadroddion i bâr arall:

e.e. wrth eu bodd
byth a hefyd
bob hyn a hyn
wedi cael llond bol
bob yn dipyn.

Dylai’r ddau bâr ddod at ei gilydd i greu trafodaeth sy’n cyfuno’r ymadroddion a’r geiriau.

Llyfr Iaith

Syniad arall ar gyfer gloywi iaith disgyblion yw llunio Llyfr Iaith y Dosbarth, gan ei symud gyda’r dosbarth o flwyddyn i flwyddyn, a pharhau i ychwanegu ato fel y datblyga’r plant yn ieithyddol. Gellir neilltuo rhannau ohono i roi sylw i ddefnyddio :

  • yr arddodiad at yn gywir
    e.e. at y deintydd (yn hytrach nag i’r deintydd)
    at y prifathro
    anfon llythyr at berson...

a’i gyplysu â lluniau doniol/cartwnau.

Mewn adran arall gellir rhoi sylw i ddefnyddio’r canlynol a’i negydd yn gywir :

  • roeddwn i nid mae fi/roedd fi
    doeddwn i ddim nid doedd fi ddim.

Fel yr awgrymwyd gyda’r posteri iaith yn y cyflwyniad, gellir neilltuo ychydig funudau cyn torri am egwyl i sylwi arnynt, neu cyn dechrau ar dasg, gan wneud hynny’n gyson.

Clo

Mae nifer o gêmau eraill y gellir eu haddasu ar gyfer eu defnyddio yn y dosbarth; gellir troi at raglenni cwis teledu am syniadau. Beth bynnag, mantais y gweithgareddau hyn, o’u gweithredu yn llwyddiannus a slic, yw eu bod yn cynnig elfen o fwynhad i’r disgyblion, a rhaid cofio mai trwy fwynhau y mae’r dysgu gorau yn digwydd.

______________________________________
RHAN III

Arfarnu Gwaith Llafar

Pwrpas a phwysigrwydd arfarnu

  • Rhoi statws i waith llafar
  • Amlygu cryfderau a gwendidau
  • Codi ymwybyddiaeth plant o bwysigrwydd cynnwys a mynegiant
  • Gwella ymateb
  • Codi safonau

Egwyddorion Arfarnu

Mae’n bwysig bod meini prawf y dasg yn eglur i’r disgyblion.

Dylai sylwadau a wnaed gan ddisgyblion am waith ei gilydd fod yn bositif ac yn adeiladol. Ni ddylid caniatáu lladd ar waith eraill.

Dylai’r arfarniad gynnwys awgrymiadau ar sut y gellid gwella neu ehangu ar y gwaith.

Dulliau Arfarnu

Er mwyn arfarnu gwaith llafar yn effeithiol mae’n rhaid cadw cofnod e.e. ar dâp/camera fideo neu o leiaf nodiadau a wneir ar y pryd.

Mae recordio gwaith disgyblion yn rhoi cyfle unigryw iddynt arfarnu’u gwaith eu hunan. Wrth wylio eu perfformiad caent gyfle i bwyso a mesur eu perfformiad a sylwi ar wendidau e.e. ailadrodd, cloffi, diffyg paratoi a.y.y.b., yn ogystal â chryfderau.

Gellir darparu taflenni arfarnu er mwyn sicrhau bod disgyblion yn rhoi sylw i’r

elfennau pwysig/perthnasol. Gweler yr enghreifftiau isod:

______________________________________
ATODIAD

Taflen enghreifftiol 1

 TAFLEN PWYSO A MESUR GWAITH LLAFAR

 

Enw: _______________________________ Dyddiad _______________________

Gweithgaredd:

 

  Do Naddo
  Siarad yn glir    
  Defnyddio geiriau addas    
  Defnyddio nodiadau, ond heb ddarllen bob gair    
  Mynegi barn    
  Cyflwyno syniadau’n drefnus    
  Gwrando ar eraill    
  Gofyn cwestiynau    
  Defnyddio ansoddeiriau wrth ddisgrifio    

Er mwyn gwella y tro nesaf, rhaid i mi gofio:

1. _________________________________________________

2. _________________________________________________

3. _________________________________________________

 

Taflen enghreifftiol 2

 TAFLEN PWYSO A MESUR GWAITH LLAFAR

 

Enw: Elin Mair Tomos                    Dyddiad: 8 Ionawr

Gweithgaredd:

Adrodd yn ôl ar arbrawf ar oleuni

 

  Do Naddo

 

Siarad yn glir    

 

Defnyddio geiriau addas    

 

Defnyddio nodiadau, ond heb ddarllen bob gair    
  Mynegi barn    

 

Cyflwyno syniadau’n drefnus    
  Gwrando ar eraill    
  Gofyn cwestiynau    

 

Defnyddio ansoddeiriau wrth ddisgrifio    

 

 Er mwyn gwella y tro nesaf, rhaid i mi gofio:

1. Defnyddio termau fel ‘adlewyrchu’ ‘treiddio’ a ‘pelydrau’

2. Disgrifio pethau’n well e.e. golau llachar, cysgod anferth

3. ___________________________________________________________

 

Taflen engreifftiol 3

TAFLEN ARFARNU GWAITH MYNEGI BARN

Wrth wrando ar y grwpiau, cofiwch chwilio am y pethau yma sydd yn holl bwysig i waith llafar da:

Parchu eraill

Mynegi barn gan roi rheswm

Pawb yn y grwp yn cyfrannu

Cadw at y testun

Defnyddio patrymau cywir a geirfa addas

Ar ôl gwrando ar bawb, dewiswch ddau grwp sydd wedi siarad yn dda. Cofiwch y bydd eich athro/ athrawes yn disgwyl i chi fedru dweud pam yr oedd eu trafodaeth yn werth ei chlywed, felly soniwch am rai o’r pethau sydd yn y rhestr uchod.


Taflen enghreifftiol 4


ARFARNU GWAITH CHWARAE RÔL

IAITH GYNTAF

Wedi ichi wrando ar berfformiad y grwpiau penderfynwch pa grp fu fwyaf llwyddiannus. Wrth adrodd yn ôl gallwch ddefnyddio’r canllawiau canlynol :-

Yn ein barn ni grwp __________ oedd y gorau achos roedden nhw:

  • yn hyderus
  • yn llefaru’n glir
  • yn defnyddio iaith raenus
  • yn actio’n broffesiynol

 


ARFARNU GWAITH CHWARE RÔL

DYSGWYR

Wedi ichi wrando ar berfformiad y grwpiau penderfynwch pa grp fu fwyaf llwyddiannus. Wrth adrodd yn ôl gallwch ddefnyddio’r canlynol :-

Roeddwn i’n meddwl mai grwp __________ oedd y gorau achos roedden nhw

  • yn actio’n broffesiynol
  • yn siarad yn glir
  • yn defnyddio Cymraeg da
  • yn hyderus

 


Priod-ddulliau

(Gellir eu chwyddo ar bapur lliw, ac yna’u lamineiddio ar gyfer eu defnyddio fel cardiau fflach yn y dosbarth)

wrth fy modd

ar bigau’r drain

traed moch

hollti blew

traed brain

tynnu coes

torri calon

taro’r hoelen ar ei phen

ar ei ben ei hun

rhoi’r ffidil yn y to

rhoi’r gorau iddi

chwilen yn ei ben

tynnu nyth cacwn am ei ben

tynnu dr o ddannedd

llyncu mul

canmol i’r cymylau

gorau glas

ara’deg

cochi at ei glustiau

dros ben llestri

newydd sbon

llond bol

bob yn ail

gormod o raff

ar flaen ei dafod

ar binnau