Yn ôl..

                          

SAFONAU AC ANSAWDD MEWN YSGOLION CYNRADD:
GOSOD TARGEDAU GWELLIANT

Ymateb Awdurdod Addysg Môn

Materion Allweddol

Ymateb yr Awdurdod

Dylai pob ysgol werthuso eu perfformiad yn rheolaidd er mwyn nodi cryfderau a gwendidau, amlygu blaenoriaethau i weithredu arnynt a chanolbwyntio ymdrech ar godi safonau
  • Roedd y fframwaith creu Cynllun Datblygu a gyflwynodd yr awdurdod i ysgolion yn 1996 yn rhoi pwyslais sylweddol ar gynnal dadansoddiad manwl o sefyllfa gyfredol yr ysgol fel rhagbaratoad ar gyfer arenwi blaenoriaethau cwricwlaidd a chyllidol yn y CD.
  • Datblygwyd y gwaith ymhellach eleni drwy gynhyrchu dogfen sirol. Mae arweiniad clir ynddi i ysgolion ar sut i gynnal adolygiad ysgol gyfan yn flynyddol. Trwy’r adolygiad bydd staff, pennaeth a llywodraethwyr ysgolion yn gallu adnabod cryfderau a gwendidau’r sefydliad a dynodi blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod.
  • Ynghlwm â’r fframwaith newydd mae arweiniad ar gynnwys CDY. Argymhellir fod y CDY yn cynnwys:
    • blaenoriaethau a thasgau
    • targedau meintiol ac ansoddol
    • dangosyddion llwyddiant
    • dulliau monitro
    • manylion HMS ynghyd â’r adnoddau a’r cyllid a glustnodir i gwblhau’r tasgau
  • Bwriada’r awdurdod gynnal trefn o achredu gweithdrefnau hunan-arfarnu ysgolion yn ystod 1998 - 99.
Dylai ysgolion a’u cyrff llywodraethu geisio meithrin cyfranogiad llawn gan pob aelod staff a’r llywodraethwyr wrth osod targedau ar gyfer gwelliant ac wrth gymryd camau penodol i gyflawni’r targedau hynny.

Dylai pob ysgol osod targedau clir ar gyfer gwelliant, sy’n briodol i’w hamgylchiadau eu hunain, a’u hymgorffori i’w cynlluniau ôl-arolygiad a’u cynlluniau datblygu.

 

  • Cynghorir ysgolion i ddilyn y drefn ganlynol wrth osod targedau:
  • Yr athrawes ddosbarth i bennu targedau rhagweledig diwedd cyfnod allweddol yn y meysydd craidd o leiaf dwy flynedd cyn i’r disgyblion sefyll y profion h.y. B0 ar gyfer B2 (defnyddir gwybodaeth yr asesiad sylfaen), B2 ar gyfer B4, B4 ar gyfer B6. Bydd y targedau yn seiliedig ar ddata profion ac adnabyddiaeth yr athrawes o’r disgyblion
  • Trafodaeth gyda’r pennaeth ar darged pob unigolyn er mwyn sicrhau bod y targedau yn ddigon uchelgeisiol (SMART)
  • Ar sail targedau rhagweledig unigolion cytunnir ar dargedau ysgol gyfan.
  • Cymherir targedau’r ysgol yn erbyn y targedau dalgylchol, sirol a chenedlaethol yn ogystal ag yn erbyn perfformiad y flwyddyn flaenorol o ddisgyblion
  • Gwneir addasiadau pellach i’r targedau yn ôl yr angen
  • Cynhelir cyfarfod staff er mwyn cyfathrebu’r targedau a chytuno ar y strategaethau addysgu fydd eu hangen er mwyn cyflawni’r targedau
  • Trafodir y targedau gyda’r ymgynghorydd cynradd/swyddog addysg
  • Cyflwynnir y targedau i’r corff llywodraethu am drafodaeth pellach ac fe’u hymgorfforir yn y CDY gan nodi’n glir y tasgau sydd i’w cyflawni er mwyn cyrraedd y targedau
  • Cyhoeddir y targedau yn Llawlyfr yr ysgol
  • Disgwylir ysgolion i gynnwys targedau meintiol clir yn eu cynllun gweithredu yn dilyn arolygiad
Dylid gwneud mwy o ddefnydd a defnydd gwell o ddata asesu’r CC a mesurau perfformiad eraill i osod targedau ar gyfer gwelliant Dechreuwydd weithredu ar hyn eisoes drwy:
  • Gynhyrchu data i bob ysgol sy’n cymharu eu perfformiad yn y meysydd craidd yn erbyn perfformiad y dalgylch a pherfformiad yr awdurdod.
  • Cynhyrchwyd data dalgylch sy’n dangos perfformiad y dalgylch yn erbyn dalgylchoedd eraill yn y meysydd craidd yn ogystal â gwahaniaeth rhwng perfformiad bechgyn a genethod.
  • Cynhaliwyd cyfarfod dalgylch er mwyn
    • hyfforddi’r penaethiaid ar ddulliau dehongli data
    • trafod perfformiad y dalgylch - gwendidau a chryfderau
    • nodi blaenoraethau HMS y flwyddyn ganlynol.
  • Ymwelodd y swyddog addysg neu ymgynghorydd cynradd â phob ysgol gyda chanlyniadau yn y chwartel isaf er mwyn trafod eu strategaethau ar gyfer gwella perfformiad y disgyblion.
  • Cynhaliwyd cwrs i lywodraethwyr ysglion ar ‘Godi Safonau.’ Rhoddwyd sylw i
    • osod targedau
    • dehongli data
    • hunan arfarnu
    • a CDY
  • Cynhelir cydhadledd sirol i benaethiaid ym mis Mehefin eleni. Rhoddir sylw penodol yn y gynhadledd i hunan-arfarnu a gosod targedau.
Dylid gosod targedau ysgol yng nghyd-destun targedau cenedlaethol; dylent ddisgrifio’n syml y canlyniadau disgwyliedig a’r safonau i’w cyrraedd Gweler y strategaeth a amlinellir uchod.

Er y bydd gofyn i ysgolion osod targedau sy’n berthnasol i grðp penodol o ddisgyblion disgwylir iddynt wneud hynny yng-nghyd destun dogfen ‘Strategaeth Datblygu Medrau Sylfaenol’ yr awdurdod addysg. Cynhelir cwrs undydd i holl benaethiaid yr awdurdod er mwyn rhoi cyfle iddynt gael gwell dealltwriaeth o strategaeth medrau sylfaenol yr awdurdod. Cyfeirir yn benodol at dargedau’r sir ar gyfer 1998 - 2002 a pherthnasedd yr rhain â thargedau ysgolion unigol.