Yn ôl..

Y Gymraeg Heddiw

Casgliad o gystrawennau a ffurfiau cyfoes

Derbynnir y ffurfiau hyn ar lafar ac yn ysgrifenedig, er y clywir ffurfiau llai safonol ar lafar yn aml e.e. dwi/’dan ni ddim. Cofier hefyd fod amrywiadau mewn rhai ardaloedd yn ôl y dafodiaith.

Pwrpas y rhestr hon yw sicrhau cysondeb rhwng staff ysgol gyfan ac awgrymir bod y tîm rheoli yn cytuno ar y cystrawennau i’w defnyddio yn yr ysgol.
     

Amser Presennol y ferf ‘bod’
       
Cadarnhaol
            
Rydw i Rydan ni
Rwyt ti Rydach chi
Mae o/Sam Maen nhw
Mae hi/Sara
                    
Negyddol
                
Dydw i ddim Dydan ni ddim
Dwyt ti ddim Dydach chi ddim
Dydy o/Sam ddim Dydyn nhw ddim
Dydy hi/Sara ddim
    
Cwestiwn
         
Wyt ti ...? Ydan ni ...?
Ydy o/Sam ...? Ydach chi ...?
Ydy hi/Sara ...? Ydyn nhw ...?
Ateb
             
Ydw Nac ydw Ydan Nac ydan
Ydy Nac ydy Ydyn Nac ydyn
Amser Perffaith (Amser presennol (yr uchod) + wedi)
           
Cadarnhaol
          
Rydw i wedi Rydan ni wedi
Rwyt ti wedi Rydach chi wedi
Mae o/Sam wedi Maen nhw wedi
Mae hi/Sara wedi
                
Negyddol
                
Dydw i ddim wedi Dydan ni ddim wedi
Dwyt ti ddim wedi Dydach chi ddim wedi
Dydy o/Sam ddim wed Dydyn nhw ddim wedi
Dydy hi/Sara ddim wedi
                  
Cwestiwn
          
Wyt ti wedi?
          
Ydy hi/Sara wedi?
    
Ydyn nhw wedi?
     
Ateb
              

Do
             

Naddo
            

Amser Amherffaith
          
Cadarnhaol
             
Roeddwn i Roedden ni
Roeddet ti Roeddech chi
Roedd o/Sam Roedden nhw
Roedd hi/Sara
       
Negyddol
             
Doeddwn i ddim Doedden ni ddim
Doeddet ti ddim Doeddech chi ddim
Doedd o/Sam ddim Doedden nhw ddim
Doedd hi/Sara ddim
          
Cwestiwn

Oeddet ti? 

Oedd o?

Oeddech chi?

Ateb Oeddwn Nac oeddwn Oedd Nac oedd Oedden Nac oedden
       
Amser Gorberffaith (h.y. yr amser amherffaith + wedi)
        
Cadarnhaol
          
Roeddwn i wedi Roedden ni wedi
Roeddet ti wedi Roeddech chi wedi
Roedd o/Sam wedi Roedden nhw wedi
Roedd hi/Sara wedi
            
Negyddol
        
Doeddwn i ddim wedi Doedden ni ddim wedi
Doeddet ti ddim wedi Doeddech chi ddim wedi
Doedd o/Sam ddim wedi Doedden nhw ddim wed
Doedd hi/Sara ddim wedi
           
Cwestiwn Oeddet ti wedi?

Oedd o/Sam wedi?

Ateb

Oeddwn

Nac oeddwn

Oedd

Nac oedd

  
Oeddech chi wedi?

Oedden                     

                   Nac oedden

      
Amser Gorffennol
         
Rhoddir gwraidd y ferf o flaen y terfyniadau canlynol :-
      
Cadarnhaol
        
_____ ais i _____ on ni
_____ aist ti _____ och chi
_____ odd o/Sam _____ on nhw
_____ odd hi/Sara
              
e.e. Gwelais, rhedodd, canoch, coginiodd, derbynion
        
Negyddol - dylid treiglo’r llythyren gyntaf e.e.
           
Welais i ddim Feddylion ni ddim
Chanaist ti ddim Phrynoch chi ddim
Chynigiodd o/Sam ddim 
         
Dderbynion nhw ddim
            
Cwestiwn Welaist ti?
Ateb

Do           

Naddo

Amser Gorffennol - y berfau afreolaidd
     
Cofier bod pum berf afreolaidd: mynd; dod; gwneud; cael; bod.
Dydyn nhw ddim yn dilyn y patrwm uchod.
      
Mynd
      
Fe/Mi es i Mi aethon ni
Mi est ti Mi aethoch chi
Mi aeth o/Sam Mi aethon nhw
Mi aeth hi/Sara
       
Negyddol
        
Yr uchod (gan ddileu’r ‘fe’/‘mi’) + ddim e.e. es i ddim
         
Dod
         
Cadarnhaol
           
Fe/Mi ddes i Mi ddaethon ni
Mi ddest ti/Mi ddaethost ti Mi ddaethoch chi
Mi ddaeth o/Sam Mi ddaethon nhw
Mi ddaeth hi/ Sara
          
Negyddol
        
Yr uchod (gan ddileu’r ‘fe’/‘mi’) + ddim e.e. ddaeth o ddim
         
Gwneud
           
Cadarnhaol
          
Fe/Mi wnes i Mi wnaethon ni
Mi wnest ti Mi wnaethoch chi
Mi wnaeth o/Sam Mi wnaethon nhw
Mi wnaeth hi/Sara
      
Yr uchod (gan ddileu’r fe/mi) + ddim e.e. wnaethon ni ddim
         
Cael (gorffennol)
     
Cadarnhaol
    
Fe/Mi ges i/Mi gefais i Mi gawson ni
Mi gest ti/Mi gefaist ti Mi gawsoch chi
Mi gafodd o/Sam Mi gawson nhw
Mi gafodd hi/Sara
        
Negyddol
        
Yr uchod (gan ddileu’r ‘fe’/‘mi’), treiglo’r llythyren gyntaf + ddim
e.e. Chawsoch chi ddim
         
Cwestiwn Gest ti?

Gafodd hi?

Ateb

Do            

       Naddo
   
Cael (Presennol)
        
Cadarnhaol
     
Fe/Mi gâf i Mi gawn ni
Mi gei di Mi gewch chi
Mi gaiff o/Sam Mi gân nhw
Mi gaiff hi/Sara
       
Negyddol
       
Chaf i ddim Chawn ni ddim
Chei di ddim Chewch chi ddim
Chaiff o ddim Chân nhw ddim
Chaiff hi ddim
     
Cwestiwn

Ga i ?

Gawn ni?

Gewch chi?

Ateb Cei       Na chei Cewch               Na chewch   Cawn               Na chawn
     
Bod
(Gorffennol)
     
Cadarnhaol
           
Mi fues i Mi fuon ni
Mi fuest ti Mi fuoch chi
Mi fuodd o/Sam Mi fuon nhw
Mi fuodd hi/Sara
        
Negyddol
       
Yr uchod gan ddileu’r ‘fe/mi + ddim e.e. Fues i ddim
        
Cwestiwn

Fuest ti?

Fuodd hi?

Ateb

Do

        Naddo
    
Amser Dyfodol/Presennol Arferiadol
  
Cadarnhaol
   
Fe/Mi fydda i Mi fyddwn ni
Mi fyddi di Mi fyddwch chi
Mi fydd o/Sam Mi fyddan nhw
Mi fydd hi/Sara
     
Negyddol
   
Fydda i ddim Fyddwn ni ddim
Fyddi di ddim Fyddwch chi ddim
Fydd o/Sam ddim Fyddan nhw ddim
Fydd hi/Sara ddim
     
Cwestiwn

Fyddi di ...?

Fydd hi ...?

Fyddan nhw ...?

Ateb   Byddaf               Na fyddaf Bydd                   Na fydd Byddan              Na fyddan
     
Amser Amodol
   
Cadarnhaol
   
Mi faswn i Mi fasen ni
Mi faset ti Mi fasech chi
Mi fasai o/Sam Mi fasen nhw
Mi fasai hi/Sara
     
Negyddol
        
Faswn i ddim Fasen ni ddim
Faset ti ddim Fasech chi ddim
Fasai o/Sam ddim Fasen nhw ddim
Fasai hi/Sara ddim
      
Cwestiwn   Faset ti ...? Fasai o ...? Fasech chi? (lluosog)
Ateb Baswn Na faswn Basai Na fasai Basen Na fasen
      
Cadarnhaol
        
Fe/Mi fyddwn i Mi fydden ni
Mi fyddet ti Mi fyddech chi
Mi fyddai o/Sam Mi fydden nhw
Mi fyddai hi/Sara
         
Negyddol
            
Fyddwn i ddim Fydden ni ddim
Fyddet ti ddim Fyddech chi ddim
Fyddai o ddim Fydden nhw ddim
Fyddai hi ddim
         
Cwestiwn Fyddet ti?  Fyddai o? Fyddech chi?
Ateb Byddwn Na fyddwn Byddai Na fyddai Bydden Na fydden
    
Yr Amodol
    
Pe bawn i Pe baem ni
Pe baet ti Pe baech chi
Pe bai o/Sam Pe baen nhw
Pe bai hi/Sara
    
Mynegi Perchnogaeth
      
Cadarnhaol
      
Mae gen i Mae gennym ni
Mae gennyt ti Mae gennym chi
Mae ganddo fo/Mae gan Sam Mae ganddyn nhw
Mae ganddi hi/Mae gan Sara
      
Negyddol
       
Does gen i ddim Does ganddon ni ddim
Does gennyt ti ddim  ddim Does ganddoch chi
Does ganddo fo ddim/Does gan Sam ddim Does ganddyn nhw ddim
Does ganddi hi ddim/Does gan Sara ddim
        
Cwestiwn Oes gennyt ti? Oes gan Sam? Oes ganddyn nhw?
Ateb Oes Nac oes Oes Nac oes Oes Nac oes
   
Arddodiaid Rhedadwy
    
Am
     
amdana i amdanon ni
amdanat ti amdanoch chi
amdano fo amdanyn nhw
amdani hi
   
Ar
     
arna i arnon ni
arnat ti arnoch chi
arno fo arnyn nhw
arni hi
    
At
    
ata i aton ni
atat ti atoch chi
ato fo atyn nhw
ati hi
   
Gan
   
gen i ganddon ni
gennyt ti ganddoch chi
ganddo fo ganddyn nhw
ganddi hi
    
Heb
     
hebdda i hebddon ni
hebddot ti hebddoch chi
hebddo fo hebddyn nhw
hebddi hi
   
I
   
imi inni (nid iddom ni)
iti ichi
iddo fo iddyn nhw
iddi hi
 
Drwy
    
drwydda i drwyddon ni
drwyddot ti drwyddoch chi
drwyddo fo drwyddyn nhw
drwyddi hi
   
Wrth
   
wrtha i wrthon ni
wrthot ti wrthoch chi
wrtho fo wrthyn nhw
wrthi hi
    
Rhagenwau personol
   
fy ein
dy eich
ei eu
(a chofier - ei gilydd)
   
Rhifolion
     
un un ar ddeg
dau/dwy deuddeg
tri/tair tri/tair ar ddeg
pedwar/pedair pedwar/pedair ar ddeg
pump pymtheg
chwech un ar bymtheg
saith dau/dwy ar bymtheg
wyth deunaw
naw pedwar/pedair ar bymtheg
deg ugain
  
Trefnolion
   
cyntaf unfed ar ddeg
ail deuddegfed
trydydd/trydedd trydydd/trydedd ar ddeg
pedwerydd/pedwaredd pedwerydd/pedwaredd ar ddeg
pumed pymthegfed
chweched unfed ar bymtheg
seithfed ail ar bymtheg
wythfed deunawfed
nawfed pedwerydd/pedwaredd ar bymtheg
degfed ugeinfed
    
Cymharu Ansoddeiriau
     
Cymharu ansoddeiriau’n rheolaidd - dyma rai enghreifftiau:
    
Cysefin
        
Cyfartal
        
Cymharol
    
Eithaf
      
- ed - ach -af
hardd cyn hardded â yn harddach na yr harddaf
du cyn ddued â yn dduach na y duaf
tal cyn daled â yn dalach na y alaf
llydan cyn lleted â yn lletach na y lletaf
taclus cyn daclused â yn daclusach na y taclusaf
    
Cymharu ansoddeiriau'n afreolaidd
   
Dydy'r ansoddeiriau hyn ddim yn dilyn y drefn uchod.
   
Cysefin Cyfartal Cymharol Eithaf
da cystal gwell gorau
ychydig cynlleied â yn llai na y lleiaf
drwg cynddrwg â yn waeth na y gwaethaf
hen cyn hyned â yn hyn na yr hynaf
ifanc cyn ieuenged â yn ieuengach na yr ieuengaf
mawr cymaint â yn fwy na y mwyaf
uchel cyn uched â yn uwch na yr uchaf
isel cyn ised â yn îs na yr isaf