| SAFONAU
AC ANSAWDD MEWN YSGOLION UWCHRADD
MEDRAU ALLWEDDOL YN CA3 A CA4
| Mater Allweddol |
Ymateb yr
Awdurdod |
Ar lefel yr ystafell ddosbarth
- Hybu cyfranogiad llawn y disgyblion mewn gwaith llafar, yn cynnwys trafodaethau
estynedig, a datblygu eu hyder wrth wneud cyflwyniadau unigol a grp.
- Sicrhau bod y disgyblion yn darllen amrywiaeth o ddeunydd addas yn rheolaidd ac yn dysgu
medrau cymryd nodiadau, crynhoi a chywain gwybodaeth.
- Cynllunio tasgau syn gofyn i ddisgyblion ysgrifennun rheolaidd yn eu geiriau
eu hunain ac ar gyfer amrywiaeth o ddibenion.
- Adnabod cyfleoedd mwy cyson ac estynnol i ddisgyblion ddefnyddio a chymhwyso medrau rhif
a TG.
- Cynllunio gwaith syn gofyn i ddisgyblion gydweithio, trafod a chytuno ar
benderfyniadau, ac i egluro a chyfiawnhau eu hatebion i broblemau arwyddocaol.
|
- Trefnwyd cyrsiau yn y gorffennol gan y Tîm Ymgynghorol, ar lefel yr Awdurdod, yn rhoi
sylw i wahaniaethu wrth ddatblygu llafaredd.
- Ar lefel sirol ac ysgol rhoddwyd sylw i hybu gwaith grp gydar nod ar ddatblygu
trafodaethau estynedig gan ddisgyblion.
- Manteisir ar yr ymweliadau Hawl a Haeddiant er atgoffa athrawon o bwysigrwydd hybu
cyfranogiad llawn a hyderus gan y disgyblion mewn gwaith llafar.
- Yn ystod y Gynhadledd Prifathrawon Uwchradd a drefnir gan dîm CYNNAL ym mis Tachwedd un
or meysydd a gaiff sylw yw datblygu darllen ar draws y Cwricwlwm. Hyderir y bydd hyn
yn fan cychwyn addas ar gyfer codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y medrau hyn.
- Trefnwyd cyrsiau sirol a chyrsiau HADA er mewn rhoi hyfforddiant i athrawon ar sut i
ysgogi disgyblion i ddefnyddio llyfrau ffeithiol, ac yn sicr credir bod hyn wedi dwyn
ffrwyth yn yr ysgolion cynradd.
- Cynhaliwyd sesiynau HMS ar lefel ysgol ar draws y cwricwlwm, yn cynnig arweiniad i
athrawon ar sut i lunio tasgau.
- Rhoir sylw cyson i hyn hefyd yn ystod ymweliadau Hawl a Haeddiant ac yn ystod cyrsiau
HMS sirol a drefnir gan y Tim Ymgynghorol.
- Y mae cyrsiau a drefnir eleni ar gyfer Consortiwm Môn ac Arfon (Uwchradd) yn bwriadu
rhoi sylw i hyn. Bwriedir cynnal gweithdai i lunio canllawiau polisi rhifedd ar draws y
cwricwlwm.
- Cynhelir cwrs iaith yn cynnig hyfforddiant i athrawon Meirion/Dwyfor ar sut i lunio
cyfleoedd TG yn eu cynllun gwaith yn ogystal â chynnig hyfforddiant ar ddefnyddio
rhaglenni addas.
- Ymdriniwyd â hyn mewn cwrs HMS Technoleg.
- Hefyd trafodwyd y mater hwn yn ystod y cwrs HMS ar Wahaniaethu Ar Draws Y Cwricwlwm.
|
Ar lefel adrannol
- Datblygu neu ddiweddaru cynlluniau gwaith syn nodi cyfleoedd rheolaidd ac estynnol
i ddisgyblion ymarfer a chymhwyso medrau allweddol.
- Rhoi sylw ir cynnydd a ddisgwylir o flwyddyn i flwyddyn yn natblygiad y medrau.
- Parhau i ddatblygu a gwella gweithdrefnau ar gyfer hunan-asesu o fewn pynciau.
|
- Yn ystod ymweliadau Hawl a Haeddiant rhydd yr ymgynghorwyr sylw i :-
- edrych a ywr cynllunio ar gyfer datblygu medrau allweddol yn digwydd
- ansawdd y ddarpariaeth
- annog ysgolion, nad ydynt eisoes yn gwneud hynny, i gyfeirio at fedrau allweddol o dan
bennawd ychwanegol yn eu cynlluniau gwaith.
- Trefnwyd, hefyd, gwrs gan y Tîm Ymgynghorol yn edrych ar y defnydd o Iaith ar draws
y Cwricwlwm ar gyfer athrawon pynciau yn hytrach nag athrawon y Gymraeg
- Monitrir gwaith yr adrannau yn ogystal âu cynlluniau gwaith gan yr ymgynghorwyr.
- Rhoir sylw yn ystod ymweliadau i bwysigrwydd annog disgyblion i ymateb i nodaur
wers gan werthusou perfformiad ar y diwedd.
- Paratowyd dogfennau gan yr ymgynghorwyr yn cynnig arweiniad i athrawon y gwahanol
bynciau ar asesu. Gwahoddwyd gweithgor o athrawon i gyd-weithio âr ymghynghorydd
pwnc a cheir adran yn y ddogfen pynciol ar hunan asesu.
|
Ar lefel ysgol
- Paratoi neu adolygu polisïau ysgol a chanllawiau syn rhoi sylw ir holl
fedrau allweddol, syn helpu i hyrwyddo dulliau addysgu cyson ac yn darparu
fframwaith o ddisgwyliadau ar draws adrannau pwnc.
- Adeiladu ar yr arfer dda syn amlwg wrth adolygu cynnydd disgyblion yn CA4 a, lle
bo angen, helpur digyblion yn y ddau gyfnod allweddol i osod targedau priodol ar
gyfer gwella agweddau ar eu perfformiad eu hunain.
- Ei gwneud yn fwy amlwg ir disgyblion au rhieni sut y gall cyfranogi mewn
rhaglenni ABCh, gweithgareddau allgyrsiol a bywyd cyffredinol yr ysgol wneud cyfraniad
gwerthfawr at ddatblygiad medrau personol a rhyng-bersonol.
- Monitror ffordd y caiff polisïau eu gweithredu a chloriannu eu dylanwad ar
addysgu, dysgu a safonau.
|
- Bydd yr ymgynghorwyr yn edrych ar bolisïau ysgol ac adrannol yn ystod ymweliadau ac
feu hanogir i adolyguu polisiaun gyson.
- Cynigir arweiniad i ysgolion drwyr ddogfen Gosod Targedau a baratowyd gan y
Tîm Ymgynghorol. Ynddi pwysleisir y dylai targedau ysgol gyfan ddeillio o dargedau grp,
gydar targedau hynny yn deillio o waith unigolion.
- Anogir athrawon i ystyried a rhagweld lle gwelant grp unigol yn ei gyrraedd o fewn amser
penodol, a sicrhau eu bod yn ymateb ir anghenion er cyrraedd y nod a aseswyd, mewn
dull priodol ac ymestynnol.
- Cefnogir yr ysgolion yn eu darpariaeth fugeiliol, ymhob agwedd or gwaith.
- Trefnir rhaglen o ymweliadau monitro mewn ymgynghoriad âr swyddog addysg lle
rhoir sylw ir mater hwn, a pharatoir adroddiad wedir ymweliad ac fei
cyflwynir ir Cyfarwyddwr Addysg.
|
Ar lefel ysgol ac AALl
- Cynyddu ymwybyddiaeth y staff or berthynas agos rhwng gallu disgyblion i gymhwyso
medrau allweddol yn effeithiol a chyflawni safonau uchel yn eu gwaith pwnc.
- Darparu rhaglenni datblygu staff o ansawdd da syn helpu athrawon i adnabod a
lledaenu enghreifftiau o arfer dda wrth addysgu medrau allweddol o fewn ac ar draws
adrannau pwnc.
|
- Ymdrinwyd â hyn yn y cwrs HMS sirol Iaith ar draws y cwricwlwm. Trefnwyd
cyrsiau, hefyd, ar lefel ysgol.
- Cynhelir trafodaeth ymysg y Tìm Ymgynghorol syn arwain at sicrhau bod y neges yn
cael ei lledaenu ir ysgolion.
- Y maer ymweliadau Hawl a Haeddiant yn sicrhau bod athrawon yn adnabod
enghreifftiau o arfer dda.
- Wrth ddatblygur rhaglen HMS y maer drefn weithredu yn caniatau i athrawon
ddatgan eu hanghenion hyfforddiant au blaenoriaethau. Adroddir arnynt yn y
cyfarfodydd Paneli Pwnc a bydd hyn yn sail i lunio rhaglen HMS yr Awdurdod ar
gyfer y flwyddyn ganlynol.
|
|