Yn ôl..

POLISI IAITH GWYNEDD

ADRAN 1 - GWEITHREDU’R POLISI IAITH

Y POLISI IAITH AR WAITH YN YR YSGOL GYNRADD

Disgwylir i bob pennaeth, mewn ymgynghoriad â’i staff a’r Corff Llywodraethu, baratoi, ac adolygu’n rheolaidd, bolisi iaith yr ysgol a fydd yn deillio o drafodaethau cyson gyda’r staff ynghylch nodau, methodoleg, deunyddiau ac asesu cyraeddiadau plant. Cyfrifoldeb y pennaeth yw sicrhau llwyddiant y Polisi Iaith yn ei ysgol; dibynnir ar ei arweiniad i atgyfnerthu ymdrechion athrawon dosbarth drwy sicrhau bod ethos Gymreig a Chymraeg briodol yn yr ysgol ac i sefydlu dealltwriaeth drwyadl o nod y polisi.

Disgwylir i bolisi iaith pob ysgol gynradd adlewyrchu polisi iaith yr Awdurdod.

Dylai dogfen bolisi iaith yr ysgol gynnwys y canlynol:

1. Datganiad cyffredinol

Bydd hwn yn ddatganiad o bolisi iaith yr ysgol, sy’n unol â pholisi iaith y sir, ar gyfer llywodraethwyr, rhieni ac eraill. Bydd yn rhaid adolygu datganiad presennol yr ysgol a’i addasu yng ngoleuni polisi iaith diwygiedig y sir. (Gweler Adran 2 am arweiniad pellach.)

2. Dehongliad manwl o’r datganiad cyffredinol uchod, a fydd yn cynnwys:

i) datganiad ynglyn â phwysigrwydd gosod sylfeini yn y Gymraeg yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn;

ii) canllawiau eglur ar waith llafar ac ar gyflwyno darllen ac ysgrifennu yn y ddwy iaith;

iii) datganiad ar berthynas y ddwy iaith â’i gilydd, e.e. sut y mae profiadau Dysgwyr yn y Gymraeg yn cymharu â phrofiadau Cymry yn y Saesneg; pa mor eang yw ystod y profiadau yn y ddwy iaith; sut y darperir profiadau cyflenwol sydd yr un mor gyfoethog â’i gilydd yn y ddwy iaith;

iv) manylion yngln â pherthynas y polisi iaith â chynnwys Rhaglenni Astudio’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Dogfen Gwricwlwm yr Awdurdod.

3. Cyswllt â rhieni

Gwybodaeth am y cyswllt rhwng ysgol a rhieni, a’r dulliau a fabwysiedir gan yr ysgol i hyrwyddo dealltwriaeth o’r polisi iaith a’i weithrediad yn yr ysgol. Dylid cyfeirio at yr adran ‘Defnyddio’r Gymraeg’ a geir yn Llawlyfr yr Ysgol (yn unol â gofynion Cylchlythyr 22/96).

Gweler Adran 2 am enghreifftiau o ddatganiadau y gellid eu cynnwys mewn llawlyfrau ysgolion.

 

CANOLFANNAU HWYRDDYFODIAID A’R STRATEGAETH AR GYFER CEFNOGI’R POLISI IAITH YN Y SECTOR CYNRADD

1. Cefnogi’r Polisi Iaith

Yn y sector cynradd, darperir cyllid drwy fformiwla i gefnogi’r Polisi Iaith ym mhob ysgol yn hytrach na’i ddal yn ganolog i gynnal Tîm Athrawon Bro fel yn y gorffennol. Bwriad y cyllid hwn yw atgyfnerthu’r ddarpariaeth sylfaenol a wneir gan ysgolion i gynnal y Gymraeg o fewn y cwricwlwm ac i sicrhau bod gwahanol agweddau ar y cwricwlwm, ynghyd â phrofiadau ymestynnol ac ieithyddol-ysgogiadol mewn cyd-destunau perthnasol, byw a diddorol, yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg gan yr athrawon dosbarth. Bydd yr Awdurdod Addysg, drwy’r gefnogaeth ymgynghorol, yn cynghori ysgolion sut i ddefnyddio’r cyllid hwn yn effeithiol ac effeithlon, ac yn annog ysgolion i weithredu o fewn partneriaethau lleol i sicrhau lefel o arbenigedd iaith drwy gyd-ddarpariaeth lle bo hynny’n ddymunol ac ymarferol. Drwy’r rhaglen o gefnogi a monitro, bydd yr Awdurdod Addysg yn cydweithio â’i ysgolion i sicrhau bod gan athrawon dosbarth, ac athrawon arbenigol cefnogol, ddisgwyliadau uchel o’u disgyblion mewn perthynas â’r Gymraeg – disgwyliadau a fydd yn ymestyn eu galluoedd ieithyddol i’r eithaf ac yn cyfoethogi eu cwricwlwm.

2. Canolfannau Hwyrddyfodiaid

Derbynnir bod ar ysgolion angen cymorth ychwanegol i ddelio â sefyllfa hwyrddyfodiaid di-Gymraeg sy’n cyrraedd y sir yn ystod Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol. Sefydlwyd Canolfannau arbenigol i’r diben hwn ac fe gynigir cwrs carlam dwys yn y Gymraeg i ddisgyblion Bl.3-6 cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddynt gyrraedd y sir. Rhoddir ystyriaeth i geisiadau am leoliad i blant Bl.2 yn ôl y galw ac yn ôl amgylchiadau’r Canolfannau dan sylw ar y pryd. Bwriad y Canolfannau yw cyflwyno’r Gymraeg i’r plant, yng nghyd-destun y cwricwlwm cyfan, a meithrin ymagweddiad iach ynddynt at yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, fel y bydd ymgartrefu yn y gymdeithas leol ac yng nghymuned yr ysgol yn broses ddirwystr a di-boen iddynt. Bydd staff y Canolfannau, yn ogystal â darparu gwersi carlam i’r disgyblion, yn cynghori’r ysgol leol mewn perthynas â dilyniant i’r disgyblion i’w cymhathu i’r brif ffrwd.

Gan fod y Canolfannau hyn bellach wedi ennill cefnogaeth rhieni, ac wedi ennyn diddordeb yn genedlaethol ar sail eu llwyddiant eithriadol, bwriad yr Awdurdod Addysg yw eu datblygu fel canolfannau arbenigol ar gyfer y Gymraeg fel ail iaith drwy ganoli adnoddau addysgu ynddynt. Fel y bydd amodau cyllidol yn caniatáu, bwriedir penodi athrawon iaith cysylltiol i bontio’r ddarpariaeth rhwng canolfan ac ysgol i ddarparu rhagor o gefnogaeth i’r ysgolion i ymdopi â sefyllfa disgyblion yn y briff ffrwd sydd o gartrefi a chefndir di-Gymraeg, ac i hyrwyddo eu defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm cyfan. Bwriedir hefyd i’r Canolfannau chwarae rhan allweddol yn y strategaeth i ddatblygu methodoleg addysgu’r Gymraeg o fewn cyrsiau hyfforddiant mewn-swydd yr Awdurdod Addysg.


Y POLISI IAITH CYTUNEDIG YN NALGYLCHOEDD YR YSGOLION UWCHRADD

1. Yn ogystal â chefnogi drwy’r cynllun hyfforddiant mewn-swydd a chyngor ac arweiniad yr Ymgynghorwyr Iaith, bydd yr Awdurdod Addysg yn penodi Cydgysylltydd Iaith Cynradd ar gyfer pob dalgylch. Bydd y Cydgysylltydd Iaith yn athro profiadol / athrawes brofiadol ac yn cael ei r(h)yddhau am 10 niwrnod y flwyddyn i gefnogi ysgolion y dalgylch drwy hyrwyddo cynlluniau ieithyddol y bartneriaeth leol. Bydd hefyd yn gallu darparu arweiniad cwricwlaidd yn lleol a chydlynu cyfarfodydd rheolaidd gydag athrawon ysgolion y dalgylch i rannu arferion da, a chydweithio gyda’r sector uwchradd i sicrhau dilyniant yn y broses o gynllunio ieithyddol a chysondeb yn nisgwyliadau’r athrawon.

2. Bydd adolygu’n rheolaidd weithrediad polisi iaith yr Awdurdod a pholisi iaith yr ysgolion yn y dalgylch yn rhan bwysig o waith y pwyllgor llywio yn y dalgylch cynradd. Disgwylir i’r pwyllgor gyfarfod tua dwywaith y flwyddyn.

3. Wrth drafod y polisi iaith, gellir gwahodd personau perthnasol i ymuno â’r aelodau arferol, e.e.

i) yr athrawon cynradd â chyfrifoldeb am iaith (lle maent ar gael);

ii) Pennaeth Adran Gymraeg ac/neu Bennaeth Adran Saesneg yr ysgol uwchradd;

iii) Cydgysylltydd Iaith yr ysgol uwchradd;

iv) Cydgysylltydd Iaith Cynradd y dalgylch (gweler 1 uchod);

v) Ymgynghorwyr Iaith;

vi) Ymgynghorydd Cynradd;

vii) Swyddog Addysg.

4. Mewn perthynas ag iaith, dylai’r Pwyllgor ymwneud â’r canlynol:

i) Trafod polisïau iaith ysgolion y dalgylch a luniwyd yn unol ag egwyddorion cyffredinol polisi iaith y sir;

ii) Arfarnu effeithiolrwydd gweithrediad y polisi yn flynyddol ac ystyried dulliau o rymuso’r gweithrediad lle bo gofyn;

iii) Sicrhau ar y naill law bod gwybodaeth fanwl, berthnasol ar gael i’r ysgol uwchradd am natur a chyrhaeddiad ieithyddol pob plentyn sy’n trosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd ac, ar y llaw arall, bod gan yr ysgolion cynradd wybodaeth am y ddarpariaeth ieithyddol yn yr ysgol uwchradd yn arbennig yn y blynyddoedd cynnar;

iv) Gweithredu trefn cyflwyno gwybodaeth i’r ysgolion cynradd am ddatblygiad ieithyddol eu cyn-ddisgyblion yn ystod eu gyrfa uwchradd;

v) Trafod dilyniant mewn perthynas â’r defnydd o iaith ar draws y cwricwlwm.

 

Y POLISI IAITH AR WAITH YN YR YSGOL UWCHRADD

Dylai pob ysgol uwchradd, dan arweiniad y Pennaeth, lunio datganiad o’i pholisi iaith, yn seiliedig ar bolisi iaith yr AALL.

Dylai dogfen bolisi iaith yr ysgol gynnwys y canlynol:

1. Datganiad cyffredinol

Bydd hwn yn ddatganiad o bolisi iaith yr ysgol, sy’n unol â pholisi iaith y sir, ar gyfer llywodraethwyr, rhieni ac eraill. Bydd yn rhaid adolygu datganiad presennol yr ysgol a’i addasu yng ngoleuni polisi iaith diwygiedig y sir. (Gweler Adran 2 am arweiniad pellach.)

2. Dehongliad manwl o’r datganiad cyffredinol uchod, a fydd yn cynnwys:

i) datganiad ar ddilyniant a pharhad yn y ddwy iaith o CA2 a’r cyswllt sydd ag ysgolion cynradd y dalgylch i sicrhau hynny;

ii) datganiad o bolisi iaith pob adran/cyfadran sydd yn cynnwys canllawiau eglur ar waith yn y tri TC yn y ddwy iaith;

iii) datganiad ar berthynas y ddwy iaith â’i gilydd, e.e. sut y mae profiadau dysgwyr yn y Gymraeg yn cymharu â phrofiadau Cymry Cymraeg yn y Saesneg; pa mor eang yw ystod y profiadau yn y ddwy iaith; sut y darperir profiadau cyflenwol sydd yr un mor gyfoethog â’i gilydd yn y ddwy iaith;

iv) manylion yngln â pherthynas y polisi iaith â chynnwys rhaglenni astudio’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Dogfen Gwricwlwm yr Awdurdod.

3. Cyswllt â rhieni

Gwybodaeth am y cyswllt rhwng ysgol a rhieni, a’r dulliau a fabwysiedir gan yr ysgol i hyrwyddo dealltwriaeth o’r polisi iaith a’i weithrediad yn yr ysgol. Dylid cyfeirio at yr adran ‘Defnyddio’r Gymraeg’ a geir yn Llawlyfr yr Ysgol (yn unol â gofynion Cylchlythyr 22/96)

Dylai pob ysgol uwchradd benodi Cydgysylltydd Iaith er mwyn hyrwyddo gweithrediad y polisi yn yr ysgol.


Swyddogaeth y Cydgysylltydd Iaith

Dylai’r Cydgysylltydd Iaith fod naill ai’n aelod llawn o’r Uwch Dîm Rheoli neu’n cydweithio’n glòs ag aelod o’r tîm hwnnw er mwyn sicrhau statws priodol.

Dylai gwaith y Cydgysylltydd Iaith ganolbwyntio ar yr agweddau a ganlyn:

Y Polisi a’i weithrediad

(i) Sefydlu polisi cadarn ei gyfeiriad.

(ii) Gwarchod a hyrwyddo datblygiad dwyieithog disgyblion o wahanol gyraeddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

(iii) Sicrhau bod trefn weinyddol a dulliau cyfathrebu’r ysgol yn cyfarfod yn gyson â bwriadau polisi iaith yr ysgol.

(iv) Hyrwyddo datblygiad y polisi o fewn adrannau.

(v) Sicrhau bod elfennau sylfaenol iaith ar draws y cwricwlwm wedi eu sefydlu, e.e. polisi marcio, rhaglenni darllen.

(vi) Hyrwyddo cydweithio rhwng adrannau iaith yr ysgol, er mwyn sicrhau cefnogaeth briodol i weithrediad y polisi.

Methodoleg

(vii) Arwain trafodaethau ysgol gyfan ac adrannol ar fethodoleg addysgu dwyieithog.

(viii) Cysylltu ag asiantaethau allanol i sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a phrosiectau, e.e. CBAC, ACCAC, AALL, CYNNAL.

(ix) Cydweithio â Thiwtor Proffesiynol yr ysgol i ddarparu rhaglen HMS addas ar gyfer athrawon unigol, adrannau, a’r ysgol gyfan, drwy ddefnyddio deunyddiau megis Pwnc Iaith - Iaith Pwnc (Dr Cen Williams) a gwasanaeth CYNNAL.

(x) Sicrhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau addysgu o fewn adrannau’n briodol i weithredu a hyrwyddo gofynion y polisi.

CA2/3

(xi) Sefydlu polisi iaith dalgylchol a chydweithio ymhellach â’r ysgolion cynradd i feithrin cysylltiadau a fydd yn fodd i hyrwyddo a diogelu datblygiad ieithyddol disgyblion unigol.

Arfarnu a Monitro

(xii) Arfarnu a monitro effeithiolrwydd y polisi a gosod targedau penodol, gan ddefnyddio dangosyddion megis canlyniadau TASau CA2 a 3, TGAU, a.y.y.b.

(xiii) Adrodd ar y polisi i lywodraethwyr yr ysgol.

(Gweler Adran 2 lle ceir rhagor o arweiniad ar fethodoleg a dulliau gweithredu.)

 

MONITRO’R POLISI

Bydd yr Awdurdod Addysg yn disgwyl i’r ysgol arfarnu gweithrediad y polisi’n gyson a chynorthwyir yn y broses honno drwy fonitro allanol gan swyddogion ac ymgynghorwyr y sir. Rhan o’r monitro hwnnw fydd darparu meincnodau priodol a fydd yn caniatáu i ysgol fesur ei pherfformiad yn erbyn canlyniadau sirol a chenedlaethol.