POLISI IAITH MÔN ADRAN 1 - GWEITHREDUR POLISI IAITH Y POLISI IAITH AR WAITH YN YR YSGOL GYNRADD Disgwylir i bob pennaeth, mewn ymgynghoriad âi staff ar Corff Llywodraethu, baratoi, ac adolygun rheolaidd, bolisi iaith yr ysgol a fydd yn deillio o drafodaethau cyson gydar staff ynghylch nodau, methodoleg, deunyddiau ac asesu cyraeddiadau plant. Cyfrifoldeb y pennaeth yw sicrhau llwyddiant y Polisi Iaith yn ei ysgol; dibynnir ar ei arweiniad i atgyfnerthu ymdrechion athrawon dosbarth drwy sicrhau bod ethos Gymreig a Chymraeg briodol yn yr ysgol ac i sefydlu dealltwriaeth drwyadl o nod y polisi. Disgwylir i bolisi iaith pob ysgol gynradd adlewyrchu polisi iaith yr Awdurdod. Dylai dogfen bolisi iaith yr ysgol gynnwys y canlynol: 1. Datganiad cyffredinol
2. Dehongliad manwl or datganiad cyffredinol uchod, a fydd yn cynnwys:
3. Cyswllt â rhieni
Gweler Adran 2 am enghreifftiau o ddatganiadau y gellid eu cynnwys mewn llawlyfrau ysgolion.
CANOLFAN HWYRDDYFODIAID AR STRATEGAETH AR GYFER CEFNOGIR POLISI IAITH YN Y SECTOR CYNRADD 1. Cefnogir Polisi Iaith Yn y sector cynradd, darperir cyllid drwy fformiwla i gefnogir Polisi Iaith ym mhob ysgol yn hytrach nai ddal yn ganolog i gynnal Tîm Athrawon Bro fel yn y gorffennol. Bwriad y cyllid hwn yw atgyfnerthur ddarpariaeth sylfaenol a wneir gan ysgolion i gynnal y Gymraeg o fewn y cwricwlwm ac i sicrhau bod gwahanol agweddau ar y cwricwlwm, ynghyd â phrofiadau ymestynnol ac ieithyddol-ysgogiadol mewn cyd-destunau perthnasol, byw a diddorol, yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg gan yr athrawon dosbarth. Bydd yr Awdurdod Addysg, drwyr gefnogaeth ymgynghorol, yn cynghori ysgolion sut i ddefnyddior cyllid hwn yn effeithiol ac effeithlon, ac yn annog ysgolion i weithredu o fewn partneriaethau lleol i sicrhau lefel o arbenigedd iaith drwy gyd-ddarpariaeth lle bo hynnyn ddymunol ac ymarferol. Drwyr rhaglen o gefnogi a monitro, bydd yr Awdurdod Addysg yn cydweithio âi ysgolion i sicrhau bod gan athrawon dosbarth, ac athrawon arbenigol cefnogol, ddisgwyliadau uchel ou disgyblion mewn perthynas âr Gymraeg disgwyliadau a fydd yn ymestyn eu galluoedd ieithyddol ir eithaf ac yn cyfoethogi eu cwricwlwm.
Derbynnir bod ar ysgolion angen cymorth ychwanegol i ddelio â sefyllfa hwyrddyfodiaid di-Gymraeg syn cyrraedd y sir yn ystod Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol. Sefydlwyd Canolfan arbenigol ir diben hwn ac fe gynigir cwrs carlam dwys yn y Gymraeg i ddisgyblion B3-6 cyn gynted ag y bo modd ar ôl iddynt gyrraedd y sir. Rhoddir ystyriaeth i geisiadau am leoliad i blant B2 yn ôl y galw ac yn ôl amgylchiadaur Ganolfan ar y pryd. Bwriad y Ganolfan yw cyflwynor Gymraeg ir plant, yng nghyd-destun y cwricwlwm cyfan, a meithrin ymagweddiad iach ynddynt at yr iaith Gymraeg ar diwylliant Cymreig, fel y bydd ymgartrefu yn y gymdeithas leol ac yng nghymuned yr ysgol yn broses ddirwystr a di-boen iddynt. Bydd staff y Ganolfan, yn ogystal â darparu gwersi carlam ir disgyblion, yn cynghorir ysgol leol mewn perthynas â dilyniant ir disgyblion iw cymhathu ir brif ffrwd. Gan fod y Ganolfan hon bellach wedi ennill cefnogaeth rhieni, ac wedi ennyn diddordeb yn genedlaethol ar sail ei llwyddiant eithriadol, bwriad yr Awdurdod Addysg yw ei datblygu fel canolfan arbenigol ar gyfer y Gymraeg fel ail iaith drwy ganoli adnoddau addysgu ynddi. Fel y bydd amodau cyllidol yn caniatáu, bwriedir penodi athrawon iaith cysylltiol i bontior ddarpariaeth rhwng canolfan ac ysgol i ddarparu rhagor o gefnogaeth ir ysgolion i ymdopi â sefyllfa disgyblion yn y brif ffrwd sydd o gartrefi a chefndir di-Gymraeg, ac i hyrwyddo eu defnydd or Gymraeg ar draws y cwricwlwm cyfan. Bwriedir hefyd ir Ganolfan chwarae rhan allweddol yn y strategaeth i ddatblygu methodoleg addysgur Gymraeg o fewn cyrsiau hyfforddiant mewn-swydd yr Awdurdod Addysg.
1. Yn ogystal â chefnogi drwyr cynllun hyfforddiant mewn-swydd a chyngor ac arweiniad yr Ymgynghorwyr Iaith, bydd yr Awdurdod Addysg yn penodi Cydgysylltydd Iaith Cynradd ar gyfer pob dalgylch. Bydd y Cydgysylltydd Iaith yn athro profiadol / athrawes brofiadol ac yn cael ei r(h)yddhau am 10 niwrnod y flwyddyn i gefnogi ysgolion y dalgylch drwy hyrwyddo cynlluniau ieithyddol y bartneriaeth leol. Bydd hefyd yn gallu darparu arweiniad cwricwlaidd yn lleol a chydlynu cyfarfodydd rheolaidd gydag athrawon ysgolion y dalgylch i rannu arferion da, a chydweithio gydar sector uwchradd i sicrhau dilyniant yn y broses o gynllunio ieithyddol a chysondeb yn nisgwyliadaur athrawon. 2. Bydd adolygun rheolaidd weithrediad polisi iaith yr Awdurdod a pholisi iaith yr ysgolion yn y dalgylch yn rhan bwysig o waith y pwyllgor llywio yn y dalgylch cynradd. Disgwylir ir pwyllgor gyfarfod tua dwywaith y flwyddyn. 3. Wrth drafod y polisi iaith, gellir gwahodd personau perthnasol i ymuno âr aelodau arferol, e.e.
4. Mewn perthynas ag iaith, dylair Pwyllgor ymwneud âr canlynol:
Y POLISI IAITH AR WAITH YN YR YSGOL UWCHRADD Dylai pob ysgol uwchradd, dan arweiniad y Pennaeth, lunio datganiad oi pholisi iaith, yn seiliedig ar bolisi iaith yr AALL. Dylai dogfen bolisi iaith yr ysgol gynnwys y canlynol: 1. Datganiad cyffredinol
2. Dehongliad manwl or datganiad cyffredinol uchod, a fydd yn cynnwys:
3. Cyswllt â rhieni
Dylair Cydgysylltydd Iaith fod naill ain aelod llawn or Uwch Dîm Rheoli neun cydweithion glòs ag aelod or tîm hwnnw er mwyn sicrhau statws priodol. Dylai gwaith y Cydgysylltydd Iaith ganolbwyntio ar yr agweddau a ganlyn: Y Polisi ai weithrediad
Methodoleg
CA2/3
Arfarnu a Monitro
Bydd yr Awdurdod Addysg yn disgwyl ir ysgol arfarnu gweithrediad y polisin gyson a chynorthwyir yn y broses honno drwy fonitro allanol gan swyddogion ac ymgynghorwyr y sir. Rhan or monitro hwnnw fydd darparu meincnodau priodol a fydd yn caniatáu i ysgol fesur ei pherfformiad yn erbyn canlyniadau sirol a chenedlaethol. |