Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Bochdew

Enghraifft 1

Bochdew

Mae gen i fochdew o’r enw Hamish. Mae o’n ddwy oed ac yn byw mewn cawell yn fy llofft. Mae Mam yn gweiddi pan dwi ddim yn glanhau ei gawell o. Dydi Dad ddim yn hoffi fo achos mae o’n drewi. Mae bochdew yn bwyta hadau a ffrwythau. Mae gan Hamish ddannedd miniog.

Enghraifft 2

Bochdew

Anifail Anwes ydi bochdew. Mae nhw’n fflwflyd ac mae rhai yn lliw brown golau. Mae nhw’n deffro yn y nos ac os ydych chi yn rhoi cawell y bochdew yn eich ystafell wely efallai fyddwch chi ddim yn gallu cysgu achos bod eich bochdew yn troi ar ei olwyn ac yn gwneud swn. Roedd gen i fochdew ers talwn ond rwan mae o wedi marw.

Enghraifft 3

Bochdew

Mamal bach yw bochdew, sy’n aml yn cael ei gadw fel anifail anwes. Mae ganddynt ffwr, ac maent yn amrywio o ran lliw.

Yn y gwyllt maent yn byw mewn tyllau yn yr anialwch er mwyn cysgodi rhag yr haul tanbaid, ac yn dod allan gyda’r nos. Dylai’r bochdew anwes fyw mewn cawell gyda theganau a blwch nythu. Rhaid cadw’r gawell yn lân bob amser i sicrhau nad yw’r bochdew yn cael afiechyd. Mae’n bwysig i’r bochdew gael ymarfer corff, felly mae’n hanfodol cael olwyn droi yn y gawell hefyd.

Cnoadur yw’r bochdew, felly mae ei ddannedd miniog yn parhau i dyfu. Golyga hyn fod arno angen cnoi yn barhaus i gadw ei ddannedd yn fach. Mae bochdew yn bwyta hadau, llysiau, grawn, cnau a ffrwythau. Rhaid iddo gael dwr glân bob dydd.

Mae angen gofal wrth afael mewn bochdew gan fod ei esgyrn yn fregus iawn.