Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Ymgyrch Operation Christmas Child


Mae Operation Christmas Child yn gyrru neges o obaith i blant mewn sefyllfaoedd truenus o gwmpas y byd drwy yrru bocsys esgidiau'n llawn anrhegion.

Mae modd mynd a'r bocs i unrhyw ganolfan Kwik Fit neu i'r brif ganolfan yn Wrecsam, sef, Uned 8, Stad Whitegate.

Dyma ychydig o ganllawiau o'r hyn ddylai fod yn y bocs arbennig:

 

  • teganau bach e.e. ceir, awyrenau bach, doli.
  • llyfrau
  • teganau meddal
  • gêmau bach
  • pensiliau a phensiliau lliw
  • siocled a fferins
  • pethau ymolchi
  • dillad, sgarff, menig, cap, sanau
  • llythyr

Ni ddylid rhoi y rhain yn y bocs:
  • dryll tegan
  • marblis
  • chwistrell erosol
  • siampw, persawr,hylif bath
  • bisgedi a chreision
  • ffisig a thabledi
  • dillad gwahanol i'r uchod
  • gwydr

 

Dylai'r bocs fod o faint gweddol, e.e. 30cm o hyd, 18cm o led, a 13cm o uchder. Wedyn bydd modd addurno'r bocs mewn papur nadolig. Cofiwch roi £2 yn y bocs hefyd wrth gwrs!