Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Llythyr i'r prifathro

Ysgol Min y Ddol
Cefn Mawr
Wrecsam

Annwyl Mr. Jones

Fel rhan o'n gwaith Addysg Grefyddol y tymor yma rydym wedi bod yn trafod gwaith elusenau fel Plant mewn Angen.  Rydym yn meddwl y byddai'n syniad da trefnu gweithgaredd yn yr ysgol i godi arian i Blant mewn Angen.

Ar ōl trafod nifer o syniadau diddorol, penderfynodd y dosbarth ofyn am eich caniatād i drefnu diwrnod di-wisg ysgol y mis nesaf.  Byddai pob plentyn yn talu 20c am yr hawl i ddod i'r ysgol yn eu dillad personol, a'r arian wedyn yn cael ei gyflwyno i'r elusen.

Credwn fod hwn yn syniad da gan fod plant yn mwynhau gwneud rhywbeth gwahanol fel hyn.

Rheswm arall pam fod ysyniad yma yn boblogaidd ( yn enwedig gan yr athrawon) ydi na fydd dim gwaith paratoi ymlaen llaw ar gyfer y weithgaredd hon.

Bydd pob plentyn yn yr ysgol yn cael cyfle i gymryd rhan a gall yr athrawon fod yn rhan o'r hwyl hefyd os ydynt yn fodlon!

Mae ein dosbarth ni yn teimlo fod hyn yn ffordd hwyliog a didrafferth i godi swm da o arian at elusen deilwng iawn.

Gobeithio byddwch yn rhoi eich caniatād. Byddwn yn edrych ymlaen at glywed eich ymateb.

Yr eiddoch yn obeithiol,

Dosbarth Blwyddyn 4