Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Cymalau

Eich cyhyrau sydd yn gwneud i'ch corff symud.

Mae nifer o'ch cyhyrau yn sownd wrth esgyrn eich ysgerbwd.  Bob tro yr ydych yn neidio, rhedeg neu gerdded mae llawer o'r cyhyrau yma yn tynnu ar eich esgyrn.  Mae hyn yn gwneud i'ch esgyrn symud, sydd wedyn yn gwneud i'ch corff symud.

 

Parau o gyhyrau:

Mae nifer o'ch cyhyrau yn gweithio mewn parau.  Mae un cyhyr yn tynnu'r asgwrn i un cyfeiriad, yna mae ei bartner yn tynnu'r asgwrn yn ôl eto.

 

Pan fyddwch yn plygu eich penelin, mae cyhyr y bicep yn lleihau, ac yn tynnu eich braich i fyny.

 

Pan fyddwch yn sythu eich braich, mae cyhyr y tricep yn lleihau ac yn tynnu eich braich i lawr.

 

 

Tynnu wynebau:


Dydi pob  cyhyr ddim yn tynnu ar  eich esgyrn.  Mae rhai o'r cyhyrau yn eich wyneb yn tynnu ar y croen.Rydych yn defnyddio'r cyhyrau yma bob tro y byddwch yn gwenu, gwgu neu tynnu wyneb doniol.

 

Bob tro y byddwch yn gwgu
Mae eich corff yn defnyddio
Mwy na 40 o gyhyrau!

Bob tro y byddwch
yn gwenu dim ond 15 o gyhyrau sy'n
cael eu defnyddio!
 

Bydd eich cyhyrau yn cadw yn heini a chyrf os wnewch chi eu gweithio'n galed drwy chwarae gemau cyflym!

 

Gwahanol gyhyrau:


Mae ganddoch dri math gwahanol o gyhyr yn eich corff.  Mae un math yn tynnu eich esgyrn, er mwyn i chi symud.  Mae'r math arall yn gwthio'r bwyd drwy eich corff ac mae'r trydydd math yn gwneud i'ch calon guro.

Amser am gwis:

Beth mae  cyhyrau yn eich helpu i wneud?
Pam fod gêmau cyflym yn dda i chi?
Faint o wahanol fathau o gyhyrau sydd yn y corff?
Pa un sy'n defnyddio'r mwyaf o gyhyrau - gwg ta gwen?