Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Defnyddio Llyfrgell

Lle diddorol yw llyfrgell. Rydym yn ymweld â'r llyfrgell i ddod o hyd i wybodaeth neu i ddewis llyfrau personol a phleserus i'w darllen, un ai yn y llyfrgell neu eu benthyg i'w darllen adref.

Pan ewch i'r llyfrgell fe sylwch yn syth bod y llyfrau wedi eu gosod ar y silffoedd fesul categori. Trefnir y llyfrau mewn llyfrgell mesul rhifau yn ôl system rhif cyfeiriol DEWEY.

Os ydych eisiau benthyg llyfr ffuglen rhaid edrych am gyfenw'r awdur.  Mae llyfrau wedi eu gosod yn ôl trefn yr wyddor neu mewn categoriau, fel straeon ffantasi, straeon antur, chwedlau a barddoniaeth.

Gosodir y llyfrau ffeithiol yn bynciol, er enghraifft, os ydych eisiau darganfod gwybodaeth am drenau, chwiliwch am y categori Trafnidiaeth.