Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Gêm Pili Pala

Byddwch angen: Cerdyn A4 3xdu, 3x melyn, 1 pinc pensil, stensil, pin ffelt glud, siswrn 

Plygu'r cerdyn pinc yn 8 a'i torri.  Rhain yw'r cardiau cwestiynau

Sut i chwarae gêm Pili Pala
Gêm i 3 - holwr a dau chwaraewr.

 

1.Holwr i ofyn y cwestiwn cyntaf i blentyn 1 2.Os yw'n gywir, mae'n cael darn o'r pili pala i orchuddio rhif.
3.Os yw'n anghywir, gofynnwch y cwestiwn i blentyn 2.
4.Yn gyntaf i orchuddio'r pili pala i gyd sydd yn ennill y gêm.

1. Faint o amser mae'n gymeryd i'r glöyn byw ddeor o'r wy?
A. 4 Wythnos

2. Faint ydi oed siani flewog pan  mae'n troi'n chwiler?
A. 3 Wythnos

3. Am faint o amser mae'r chwiler yn cysgu?
A. 3 Wythnos

4. Sawl coes sydd gan y siani flewog?
A. 10 coes.

5. Sut mae'r siani flewog yn cadw ei gelynion draw?
A. Lliw llachar.

6. Beth mae glöyn byw yn ei yfed?
A. Neithdar.

7. Sut mae siani flewog yn yfed?
A. Gyda ei thafod.

8. Sawl adain sydd gan y glöyn byw?
A. 2 bâr.