Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Sut gwnaethpwyd fy meic?

Dyma fy meic.
Prynais fy meic mewn siop beicio.
Rydw i yn ei reidio ar hyd y ffordd a’r glaswellt. Rwyf wrth fy modd!
Ond sut gwnaethpwyd y beic?

Cynllunio

Cynlluniwyd beiciau i fod yn ddiogel a chyfforddus i’w reidio, gyda rhai nodweddion pwysig fel ffrâm gryf, sedd feddal, a bręcs a giars effeithiol. Peirianwyr sy’n cynllunio beiciau.

Defnyddiau

Mae’r beic wedi ei wneud o nifer o ddefnyddiau gwahanol – ffrâm o diwbiau metal, bręcs o weiar a theiars o rwber.

Llunio a phaentio’r ffram

Mae ffrâm beic yn cael ei lunio gyda thiwbiau metel wedi eu gludo gyda’i gilydd. Mae pob beic angen ei baentio gan ddechrau gyda phaent llwyd. Yna rhaid dewis y prif liw a gosod transfers arno os oes angen. Yn olaf rhaid paentio’r beic a farnish i galedu’r paent gwreiddiol.

Olwynion, brecs,giars a’r cyrn

Gosodir y sbôcs yn yr olwynion ac yna’r teiars yn eu lle. Rhoddir liferi i’r bręcs ar y cyrn. Yna gosodir yr olwynion a’r giars ar y ffrâm fetel. Yn olaf ychwanegir y cyrn ar y ffrâm.

Gosod y beic at ei gilydd

Y cam olaf yw gosod holl ddarnau’r beic at ei gilydd. Mae’r beic yn cael ei orchuddio â phlastig a’i osod mewn bocs cardfwrdd yn barod i’w yrru i’r siopau.

Prynais fy meic yn y siop ac rwyf wrth fy modd yn ei reidio.

Dyna sut gwnaethpwyd fy meic!