|

Canllawiau Athrawon Blwyddyn 3 a 4
Er mwyn i blant ddatblygu
yn ysgrifennwyr hyfedr yn y prif ffurfiau annaratif, mae’n rhaid
iddynt fod yn ymwybodol o’r elfennau canlynol o fewn pob testun:
- pwrpas
- fframwaith
- nodweddion ieithyddol
Gwneir hyn yn aml trwy
ddefnyddio engrheifftiau ysgrifenedig da a’u dadansoddi gyda phlant.
Mae casgliadau o’r fath
yn brin yn y Gymraeg, ac felly ceir yma bedair esiampl o’r pum prif
ffurf annaratif sef:
O fewn pob ffurf
annaratif mae un uned sy’n cynnwys 4 darn o waith o amrywiol safon ar
yr un pwnc.
Y bwriad yma yw fod plant
yn eu gosod mewn trefn, o’r gorau i’r gwanaf, gan roi rhesymau dros
eu dewis. Gellir datblygu hyn ymhellach trwy gael y plant i greu
canllawiau ar gyfer y ffurf arbennig honno, yn seiliedig ar eu
darganfyddiadau.
|