Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Cerdyn Post

 Cerdyn Post 1

Annwyl Dad a Mam,

Mae hi'n bwrw glaw yma heddiw.  Dw i wedi bod ar yr olwyn fawr yn y ffair. Dwi'n cael amser da. Ges i gandifflos pinc yn y ffair.

Oddi wrth

Sian


Cerdyn Post 2

Annwyl Nain,

Mae hi'n braf iawn yma ar lan y môr.  Dwi'n cael amser gwych yn torheulo, nofio a gwneud castell tywod.  Fory dwi'n mynd i weld hen gastell. Dwi wedi prynu poster i roi ar  wal fy llofft.  Ddoe mi es i Barc Antur Deinosoriaid - roedd ofn ar Aled!

Hwyl am y tro

Eleri


Cerdyn Post 3

Annwyl Mam a Rhys,

Dyma fi wedi cyrraedd Sbaen ar ôl cael siwrnai braf.  Mae'r gwesty yn fendigedig - pwll nofio, bwyd blasus ac ystafell foethus. Mae'r bobl leol yn gyfeillgar iawn ac rwyf wedi dysgu ambell air o'r iaith yn barod! Ddoe, buom am dro o gwmpas y dref - mae nifer o adeiladau hynafol iawn yno.  Yfory byddwn yn mynd am drip i'r parc dwr - dwi'n edrych ymlaen yn barod!

Welai chi yr wythnos nesaf.

Cariad-Adios!!

Rhian