|
Taith Afon
Clywedog
Fel rhan o waith ein
dosbarth ar Ddwr, aethom ni ar daith ar hyd lan yr Afon Clywedog.
Mae tarddiad yr afon i fyny ym
mynydd Minera uwchben pentref Coedpoeth, ac yna mae hi’n cychwyn ar ei
thaith i lawr y dyffryn.
Dechreuodd ein taith ar ôl i
ni groesi'r rhyd. Mae pobl, ceir a cheffylau yn gallu croesi dros y rhyd.
Wrth gerdded gwelsom nifer o lednentydd bychain yn llifo i mewn i'r Afon
Clywedog. Gwelsom saith o lednentydd i gyd yn llifo mewn i'r brif afon.
Ar hyd y daith fe wnaethom
nifer o arbrofion diddorol. Roedd un grwp wedi mesur lled yr afon ar
wahanol adegau o'r daith. Mesurodd y grwp arall gyflymder yr afon. Sylwodd
pawb fod yr afon yn mynd yn fwy a mwy llydan a'r dwr yn llifo yn gynt a
chynt wrth deithio i lawr y dyffryn.
Wrth gerdded heibio Melin y
Nant eglurwyd i ni pa mor bwysig oedd yr afon i weithio'r felin brysur yn
yr hen ddyddiau. Erbyn hyn mae'r olwyn fawr wedi diflannu a'r hen adeilad
yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Astudio'r Amgfylchfyd.
Dilynsom yr afon drwy'r
goedwig nes i’n taith ddod i ben yn ymyl Gwaith Haearn Bersham.
Gadawsom yr afon i lifo ymlaen
nes cyrraedd pen ei thaith hithau yn yr Afon Ddyfrdwy nes i lawr y dyffryn.
Blwyddyn 3 a 4, Ysgol
Bryn Tabor, Coedpoeth
|