Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Ein taith i Legacy

Dydd Gwener, Ionawr 14eg aeth Blwyddyn 3 i Legacy i ddysgu am y Celtiaid.

Yn gyntaf fe aethom ni i mewn i'r caban i gael stori gan Rhiannon. Wedyn, gofynnodd beth yn arbennig oeddem ni eisiau ei weld. Roeddwn i eisiau gweld y corn. Dywedodd Rhiannon mai ei bwrpas oedd dal gwin ac os oeddech chi eisiau gwin roedd yn rhaid i chi ddal y corn i fyny.

Doedd Rhiannon ddim yn meddwl ein bod ni yn edrych ddigon fel y Celtiaid. Felly, fe wnaethom ni wisgo i fyny a peintio ein hwynebau mewn patrymau Celtaidd glas.

Yna aethom i adeiladu ffens a mynd i mewn i un o'u tai ac edrych ynddo.

Ar ôl hynny fe aethon ni yn ôl i'r caban i wneud gweithgareddau. Cawsom gyfle i nyddu gwlan a gwneud tarian. Ar ôl gwneud hynny i gyd, fe gawsom ein cinio.

Wedyn roedd yn rhaid i ni daflu dwb ar waliau'r ty Celtaidd - roedd o'n oer a gwlyb a drewllyd. Tra roeddem yn gwneud hyn, roedd y lleill yn gwneud potiau allan o glai.

Roedden ni wedi cael cystadleuaeth taflu gwaywffyn ac Luke a Sian ennillodd. Ar ôl hynny, fe gawsom ni gawl a bara heb furum roedd y grwp arall o blant wedi ei baratoi i ni.

Cawsom ddiwrnod gwych yno yn Legacy ac rydw i wedi dysgu llawer am y Celtiaid.

 

Lois Roberts, Ysgol Plas Coch, Wrecsam