Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Arbrawf

Arbrawf i ddarganfod pa mor bell mae cerbydau gwahanol yn teithio o fynd i lawr llethr

Offer
llyfrau trwchus
ffon fedr
darn o bren
4 cerbyd

Yn gyntaf roedd yn rhaid i mi adeiladu’r llethr yn debyg i’r llun yma. Er mwyn i’r arbrawf fod yn deg roedd rhaid gofalu defnyddio’r un llethr ar gyfer pob cerbyd a hefyd gofalu peidio gwthio’r cerbydau, dim ond gadael iddynt fynd.

Gadewais i’r cerbydau fynd lawr y llethr fesul un ac wedyn mesur pa mor bell roedd pob un wedi teithio.

Roeddwn i wedi rhagfynegi mai’r car heddlu fyddai wedi teithio bellaf, ond dyma’r canlyniadau.

Canlyniad

Cerbyd

Pellter

Safle

Fan

0.84m

4ydd

Injan dân

2.00m

1af

Car heddlu

0.96m

3ydd

Car coch

1.00m

2il

Yr injan dân aeth bellaf oherwydd ei bod yn fwy na’r lleill.