Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Sut i wneud abwydfa

1. Torrwch y top a'r gwaelod oddi ar botel blastig.
2. Rhowch ryw ddeg o bryfed genwair mewn potyn planhigyn sydd yn llawn o bridd.
3. Rhowch y silyndr blastig i sefyll yn y pridd. Llenwch â haenau o bridd, tywod a sialc.
4. Gosodwch haenen o laswellt a dail marw ar y top.
5. Gorchuddiwch y botel â phapur neu ddefnydd tywyll - mae hyn yn gwneud i'r pryfed genwair deimlo'n gartrefol!
6. Cadwch bopeth yn llaith. Ar ôl ychydig o ddyddiau, tynnwch y gorchudd ac edrychwch i weld beth mae'r pryfed wedi’i wneud i'r haenau.