Prosiect  Sir Wrecsam - Gweithgor Rhyngrwyd
                                                                 Prosiectau a Digwyddiadau

     ___________________________________


Sut i wneud byrgyrs

Cynhwysion

* 400 gram o gig eidion wedi ei falu
* 2 nionyn
* llwyaid o sbeis cymysg
* 2 wy i gymysgu
* pupur a halen
* blawd i siapio
* llwyaid o olew
* rholiau bara
* sos coch

 

Offer coginio

bowlen, cyllell finiog, bwrdd pren, padell ffrio, llwy bren

Cyfarwyddiadau

 

1.

Rhowch y cig a'r nionyn wedi ei falu yn fan i mewn yn y fowlen a chymysgwch.
2. Ychwanegwch bupur a halen i roi blas, a llwyaid o sbeis cymysg.
3. Curwch y ddau wy ac ychwanegwch yr wyau i'r gymysgedd. Cymysgwch yn drwyadl.
4. Gosodwch ychydig o flawd ar y bwrdd pren, codwch ychydig o'r gymysgedd o'r fowlen a siapiwch y byrgers bob yn un.
5. Cynheswch y badell ffrio gyda llwyaid o olew.
6. Coginiwch y byrgers am 15 munud gan eu troi pan fo'r angen.