Prosiect  Sir Wrecsam - Traethiad
                                                                  Prosiectau a Digwyddiadau

_____________________________________

TAITH I AMGUEDDFA FORWROL

Dydd Gwener, Mawrth 24ain aethom ni i’r Amgueddfa Forwrol yn Lerpwl. Roeddem ni wedi mynd i’r amgueddfa i ddysgu mwy am ymfudwyr.

Pan gyrrhaeddodd ni yr Amgueddfa, roedd Mr Jones wedi ein rhoi ni mewn grwpiau. Yng ngrwp Mr Jones, roeddwn i, Teleri, Lowri, Natasha, Jessica, Charlotte, Nathan, Morgan, Josh, Jordan, Darren a Arthur.

Yr adran welsom ni gyntaf oedd adran y caethweision. Yn yr adran yma roedd yna fodel o fachgen o’r enw Kofi. Bu’n rhaid iddo adael Affrica i weithio’n galed.

Yr ail adran oedd adran yr ymfudwyr. Roedd gennym ni dafleni i’w llenwi am deulu oedd wedi ymfudo o Iwerddon i America. Roedd yn rhaid i ni ddewis pa long fuasen ni eisiau mynd arni. Dewisais i y Saxonia oherwydd roedd hi’n edrych fel petai mwy o le arni na’r llongau eraill.

Ar ôl i ni orffen edrych ar adran yr ymfudwyr aethom ni i gael cinio mewn rhyw sied.

Aethom ni yn nôl i mewn i’r Amgueddfa ar ôl cinio, i’r adran tollau.

Ar ôl i ni fynd trwy’r adran tollau aethom ni i fyny’r grisiau i’r adran olaf sef adran y Titanic a llongau eraill. Yn yr adran yma roedd yna fodel mawr o’r Titanic a rhai o’r pethau oedd arni.

Ar ôl gorffen yn yr Amgueddfa aethom i’r siop. Doedd y siop ddim yn un dda o gwbl.

Mi wnes i fwynhau’r trip i Lerpwl yn fawr iawn.

Danielle

Bl. 5 – Ysgol Plas Coch

______________________________________