Prosiect  Sir Wrecsam - Traethiad
                                                                  Prosiectau a Digwyddiadau

_____________________________________ Yn ôl..

Coroni’r Frenhines Fictoria

Deunaw oed oedd y Frenhines Victoria pan gafodd ei choroni yn 1837. Cynhaliwyd seremoni ysblennydd yn Abaty Westminster yn Llundain gyda thorfeydd enfawr wedi ymgynnull y tu allan i gael cip ar y frenhines ifanc newydd.

Teithiodd o’r Palas i’r Abaty mewn cerbyd gosgeiddig a dynnwyd gan chwe cheffyl du.

Gwisgodd wn felfed gyda addurniadau o lês aur a ffwr carlwm; a disgleiriodd y gemau gwerthfawr ar ei choron yn haul cynnes mis Mehefin.

Cafodd Archesgob Caergaint gryn drafferth i osod y fodrwy ruddem ar ei phedwerydd bys, gan fod y fodrwy wedi ei chynllunio ar gyfer ei bys bach.

Felly cychwynodd teyrnasiad Victoria mewn steil. Roedd hi’n boblogaidd iawn yn y ciniawa a’r derbyniadau ffurfiol, er fod yn llawer gwell ganddi hi farchogaeth neu fynychu’r theatr. Roedd hi wrth ei bodd gyda phartîon hwyliog ac yn hapus i aros ar ei thraed yn dawnsio trwy’r nos cyn gwylio’r haul yn codi tu ôl i Eglwys St Paul a thyrrau Westminster.

Roedd yr egni a’r brwdfrydedd ifanc yma yn newid gwych i’r wlad ar ôl y diflastod a’r cweryla fu yn ystod teyrnasiad ei rhagflaenydd, ei hewythr William IV.

______________________________________