|
Darganfod y Titanic
Yn y blynyddoedd ar
ôl i’r Titanic suddo roedd llawer o bobl yn awyddus i’w darganfod.
Ond y dirgelwch oedd union leoliad y llong, a doedd y dechnoleg ddim ar
gael i’w chyrraedd BETH BYNNAG. Gorweddai’r Titanic 3,798 fetrau
(12,460 troedfedd) o dan y môr – 39 gwaith uchder twr Big Ben.
Yna, yn 1985, arweiniodd Dr
Robert Ballard dîm o arbenigwyr i chwilio am weddillion y llong.
Defnyddiwyd cwch tanfor fechan o’r enw Argo wedi’i rheoli gan
beiriannau. Anfonwyd lluniau fideo yn ôl ganddi i’r llong ymchwil.
Ar ôl dyddiau o chwilio
ofer, un dydd ymddangosodd llun o wrthrych ar fonitor y llong ymchwil –
delwedd o foiler enfawr. Roedd y Titanic wedi ei darganfod! Roedd hi wedi
torri’n ddwy a’i chynnwys wedi eu gwasgaru ar wely’r môr.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach
â thechnoleg wedi datblygu ymhellach, gyrrwyd cwch tanfor arall, y
Nautile i waelod y môr, gyda chamera fideo symudol a allai ffilmio y tu
mewn i ystafelloedd y Titanic. Roedd gan y Nautile ddwy fraich robotig
oedd yn eu galluogi i godi amrywiaeth o wrthrychau bach a mawr fel
teganau, arian a gemau.
Ar dir sych, glanhawyd ac
adnewyddwyd y gwrthrychau hyn i’w dangos mewn arddangosfeydd. Mae’r
rhain yn ein hatgoffa o’r rhai a gollodd eu bywydau yn y drychineb ac yn
gymorth i ddweud stori’r Titanic a’r teithwyr.
|