CAR-YNSH!
Anghenfil
o beiriant sy’n car-u bwyta
Anghenfil metel 25 tunnell yw’r Robosaurus ac mae
ei chwant am fwyd yn aruthrol. A dweud y gwir mae’n gwneud i’r
Turannosaurus Rex ymddangos fel llysieuwr gan ei fod yn cael blas mawr
ar geir o bob lliw a llun.
Pan mae’r Robosaurus eisiau bwyd mae’n cydio mewn
car a’i godi at ei geg fetel anferth. Ar ôl coginio’r pryd bwyd
trwy chwythu fflam chwe metr o’i drwyn mae’n barod i ddefnyddio’i
ddannedd miniog i gnoi…a chnoi.
Yng Nghaliffornia – ble arall? – y cafodd y
bwystfil taircoes ei greu a hynny gan beiriannwr o’r enw Doug
Malewicki.
Lluniau ar bapur a model pren oedd y man cychwyn a,
diolch byth, mae’r cyfan dan reolaeth y peilot a’r cyd-beilot sy’n
gweithio pwlïau a’r lifrau sydd mewn caban arbennig ym mhen y
Robosaurus.
Ond mae hyd yn oed Doug yn cyfaddef ei fod
weithiau’n teimlo’n nerfus ynghylch grym ei ddyfais. Dyma’i
eiriau: "Pan dw i’n ei weld yn cnoi car yn ei hanner, yn
rhwygo’r to i ffwrdd a’i grensian yn ddim, dw i’n meddwl beth oedd
yn fy mhen i’n creu’r fath fwystfil."
DANGOS
EI HUN
Mae’r Robosaurus yn dangos ei sgiliau mewn sioeau
ceir a ffeiriau ar hyd a lled America. Mae pob perfformiad yn costio £15,000
ond rhan fach iawn yw hynny o’r £1 miliwn a gostiodd hi i
adeiladu’r car-grensiwr cawraidd!
Allan o "Peiriannau Mega" gyda chaniatâd
Gwasg Addysgol Cymru