|
Prosiect
Sir Wrecsam - Adroddiad Prosiectau a Digwyddiadau _________________________________ |
|
Hen wr y coed |
|
Borneo: Cartref yr orangwtang. Miloedd o filltiroedd o Gymru. Mae 1998 wedi bod yn flwyddyn anodd i Borneo. Llosgwyd 19,000 milltir sgwar o fforest Borneo ddechrau 1998. Lladdwyd 8,000 o orang-wtangiaid a syrthiodd niferoedd yr orang-wtangiaid yno o 23,000 i 15,000. |
|
*
Nid tān ydi unig elyn orang-wtangiaid Borneo. Mae rhai
yn cael eu
lladd gan bentrefwyr tlawd i'w bwyta, a rhai bychan yn cael eu dal a'u
gwerthu fel anifeiliaid anwes. Mae torri coed yn broblem
hefyd.
Mae ardaloedd anferth o fforestydd Borneo
yn cael eu torri bob * Ond mae rhai pobl yn gweithio i helpu'r orang-wtangiaid. Mae nifer o'r orangwtangiaid yn cael eu hachub, ac yn cael gofal yng Nghanolfan Wanariset yn nwyrain ardal Kalimatan. Mae'r orang-wtangiaid yn dysgu sut i ofalu amdanynt eu hunain yn y gwyllt eto, cyn cael eu rhyddhau i ardaoloedd diogel o'r fforestydd. Mae pob orang-wtang sy'n cael eu rhyddhau yn cario tag electroneg, ac mae'r gweithwyr yn y ganolfan yn gallu cadw llygad ar hynt yr orang-wtangiaid wedyn * Helō! Haripan yr orang-wtang ydw i. Ystyr Haripan ydy Gobaith yn iaith Malay. |
|
Fy hoff fwyd i ydi ffrwythau. Mae mam yn dangos myrdd o goed ffrwythau yn y fforest i mi, ac yn fy nysgu pa ran o'r ffrwyth sy'n flasus a phryd mae'r ffrwythau gwahanol yn aeddfed. Cyn bo hir fe fydda i'n gallu adnabod dros 200 math o goed ffrwythau gwahanol! Mmm! Dwi'n lwcus, achos rydyn ni'n byw yng Ngwarchodfa Meratus. Ddary'r tanau ddim cyrraedd yma, a does neb yn torri'r fforest er mwyn cael coed chwaith. Ond dyw llawer o fy nghefndryd i yn Borneo ddim hanner mor ffodus... Allan o "Cip" - gyda chaniatād Urdd Gobaith Cymru. |
|
_________________________________ |